On Saturday the supergroup of poets known as Y Glêr won Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru's flagship poetry programme. Follow the links above to both read and to listen to a feast of poetry.
0 Comments
Dyma'r trydydd podlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol (clicia fan hyn i wrando'r podlediad cyntaf a'r ail bodlediad). Y tro hwn, dwi a Sampurna Chattarji yn trafod noson braf o ddarllen cerddi a drefnwyd gan Nicky Arscott yng Nghaffi Alys ym Machynlleth, yr ymryson rhwng Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg, ac yn edrych ymlaen at ymweliad cyntaf Sampurna â'r Eisteddfod Genedlaethol yn nes ymlaen yr wythnos hon. Ry'n ni hefyd yn trafod natur gyfnewidiol y ddinas ym Mwmbái drwy gyfrwng cerdd (o'r casgliad 'Ffiniau') gen i a darlleniad o gyfrol Sampurna, Dirty Love.
Here's the third Poetry Connections podcast (click here for the first podcast and the second). This time, Sampurna Chattarji and I discuss a great reading organised by Nick Arscott in Caffi Alys in Machynlleth, a series of debate poems by Dafydd ap Gwilym and Gruffudd Gryg, and Sampurna's upcoming first visit to the National Eisteddfod later this week. We also explore the changing nature of the city in Mumbai through a poem of mine (from a series titled 'Ffiniau') and an excerpt from Sampurna's book Dirty Love.
Yn dilyn y podlediad cyntaf a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, wele'r ail bodlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol, sef sgwrs rhyngof i a Sampurna Chattarji, bardd o India, am ein gwaith ar y prosiect o'r un enw. Y tro hwn, ry'n ni'n trafod digwyddiad y buon ni'n rhan ohono yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o ŵyl Hen Linell Bell, ynghyd â seminar gyfieithu y bu Sampurna'n ei harwain gyda rhai o fyfyrwyr y radd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ry'n ni hefyd yn trafod ffilm fer ry'n ni'n dau wedi bod yn ei chreu – Sampurna'n darllen cyfres o saith cerdd a finnau'n gwneud y gwaith ffilmio a golygu. Ysgrifennodd Sampurna ei cherddi yn sgil ei hymweliad diwethaf ag Aberystwyth, ac mae wedi bod yn hwyl ailymweld â'r gwahanol leoliadau – fel y castell, y Llew Du a'r Llyfrgell Genedlaethol – a fu'n ysbrydoliaeth iddi. Bydd y ffilm honno ar gael i'w gwylio ar y wefan hon maes o law.
Following the release of the first podcast on Saturday, the Poetry Connections podcast is back. Sampurna Chattarji and I discuss our progress on the project, including an event in which we took part on Tuesday as part of the Far Old Line festival in Aberystwyth, as well as a translation seminar led by Sampurna with students who follow the Professional Translation Studies course at Aberystwyth University. We also discuss a short film we've both been working on over the last few days – Sampurna reading her work and myself filming and editing. Sampurna wrote a series of seven poems on her last visit to Aberystwyth, and it's been great retracing our steps to the Old College, Trefechan bridge, the coffee shops and other locations where Sampurna found inspiration. The film will be posted on this website soon. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|