eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfr Newydd: Clywch ni'n Rhuo Nawr!

11/2/2018

0 Comments

 
Yn ystod ei chyfnod yn Fardd Plant Cymru, fe gyhoeddodd Anni Llŷn a Beirdd Plant y gorffennol ddwy gyfrol wych o gerddi i blant gyda Gwasg Carreg Gwalch – Geiriau Bach Chwareus a Hwrê mae hi'n Wyliau! – ac mae'r traddodiad yn parhau yng ngofal y Bardd Plant newydd, sef Casia Wiliam. Enw'r gyfrol y tro hwn yw Clywch ni'n Rhuo Nawr!, cyfrol o gerddi am fwystfilod o bob math. Yng ngeiriau Casia yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Tybed sut brofiad fyddai byw yr un pryd â deinosoriaid? Sut brofiad fyddai cael deinosor yn rhedeg ar dy ôl di?! Neu beth am ddarganfod ffosil deinosor? Dyma rai o'r syniadau dwi'n chwarae gyda nhw yn y casgliad yma o gerddi.

​Yn eu plith, mae dwy gen i, y naill am ddeinosor ag enw anhygoel iawn – Tyranodiplostegatopsgorithioraptor – a'r llall i dy atgoffa fod y bwystfilod mwyaf afiach yn y byd, hyd yn oed, weithiau angen cwtsh.
Picture

Following the success of two collections of poetry published by Gwasg Carreg Gwalch with the former Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn – Geiriau Bach Chwareus and Hwrê mae hi'n Wyliau! – a new collection has been edited by the current Bardd Plant, Casia Wiliam, called Clywch ni'n Rhuo Nawr!. The book also contains poems by thirteen other poets who have held the post, including two by me – one about a new dinosaur called Tyranodiplostegatopsgorichthioraptor, and another about the fact that even the most hideous, disgusting and altogether awful monsters sometimes, just sometimes, need a big cwtsh.
0 Comments

Llyfr Newydd: Hwrê mae hi'n Wyliau!

26/3/2017

0 Comments

 
Yn dilyn llwyddiant Geiriau Bach Chwareus, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi cyfrol arall o gerddi i blant gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a Beirdd Plant y gorffennol – tri ar ddeg ohonyn nhw i gyd, o Ifor ap Glyn i Gwyneth Glyn. Enw'r gyfrol y tro hwn yw Hwrê mae hi'n Wyliau! ac, fel y gelli di ei ddyfalu, mae'r cerddi i gyd yn sôn am wyliau! Fel mae Anni yn ei ddweud yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Mae pawb yn hoffi gwyliau, hyd yn oed beirdd. Mae gwyliau yn golygu hwyl, rhyddid, antur a threulio amser gyda'r bobl orau yn dy fywyd. Ydi, mae hi'n fendigedig mynd ar wyliau. Felly beth am roi gwyliau bach i dy ddychymyg? Coelia di fi, rhwng dau glawr y cei di a dy ddychymyg wyliau anturus.

Ymhlith y cerddi y tro hwn mae dwy gen i, y naill am ŵyl newydd sbon a hynod anhygoel o'r enw Gŵyl Eurig, a'r llall am helyntion Gwenlli yn Enlli, Elin yn y Felinheli a Iona yn Llanddona … mwynha'r darllen!
Picture

Following the success of Geiriau Bach Chwareus, Gwasg Carreg Gwalch have published a new collection of poetry about the holidays. Helmed by the current Bardd Plant Cymru (Welsh Children's Laureate), Anni Llŷn, Hwrê mae hi'n Wyliau also contains poems by thirteen other poets who have held the post, including two by me – one about a new and brilliant festival called Gŵyl Eurig, and another about the adventures of Gwenlli on Enlli, Elin in Felinheli and Iona in Llanddona …
0 Comments

Llyfrau a chylchgronau newydd at y Nadolig

14/12/2016

0 Comments

 
Mae'r Nadolig ar y gorwel ond, os wyt ti'n debyg i fi, bydd yr holl siopa'n digwydd funud ola'. Dyma felly rai awgrymiadau am anrhegion llenyddol – yn boeth o'r wasg – a allai wneud y dasg flynyddol o lenwi hosanau'n ychydig haws.
Picture
Aeth pedair blynedd heibio ers i Ceri Wyn Jones gymryd yr awenau fel meuryn Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, gan osod ei stamp ei hun ar y gyfres yn syth drwy wobrwyo tîm y Glêr yn bencampwyr yn 2012! Cynnyrch amrywiol y cyfnod hwnnw – yn limrigau a phenillion telyn a chywyddau a sonedau – yw cynnwys y gyfrol ddifyr hon, Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas).

Lansiwyd y gyfrol mewn talwrn arbennig (beth arall?) rhwng trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth ym mis Tachwedd eleni, lle darllenodd Hywel Griffiths – aelod o dîm anhygoel y Glêr – yr englyn hwn ar gyfer y dasg gyntaf y noson honno, sef 'trydargerdd: hysbyseb bachog i'r gyfrol':

Cân ein cur, canon Ceri, a sŵn bît
        Sin y beirdd sydd ynddi,
    Cyfrol o glecs mor secsi,
    Rhydd a chaeth, mae'n rhodd i chi!


​Mae holl gynnyrch y talwrn ar gael i'w ddarllen ar lein fan hyn, ac mae'r recordiad ar gael tan 18 Rhagfyr.
Picture
Ar ôl cryn sibrwd a rhincian dannedd a darogan y byddai 2016 yn siŵr o gicio'r bwced cyn i'r Barddas diweddaraf godi ei ben dros y parapet – dyma gael drwy'r post rifyn y gaeaf o'r cylchgrawn hynod! A hwnnw'n rhifyn trwchus hefyd, yn llawn colofnau difyr ac ysgrifau ac adolygiadau, yn ogystal â llu o gerddi, wrth gwrs.

Mae talp helaeth o'r cylchgrawn yn tafoli cynnyrch barddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni eleni, lle enillwyd y Gadair gan fy nghyd-bodlediwr hoff, Aneirin Karadog. Dyw hi ddim yn gyfrinach mai fi oedd yn ail i Aneirin yn y gystadleuaeth honno, ac mae fy awdl i ar y testun 'Ffiniau' ar gael i'w darllen yn y Barddas cyfredol.

Cafodd yr awdl ei hysbrydoli gan daith lenyddol i ddinas Mwmbái yn 2014, lle bûm yn crwydro'r ddinas yng nghwmni cyfaill agos imi, ac un o feirdd Saesneg amlycaf India, Sampurna Chattarji. Cefais fy nharo gan y ffaith fod rhan o'r ddinas – Kala Ghoda – wedi ei henwi ar ôl cerflun du o geffyl a marchog a oedd yn arfer sefyll mewn man amlwg yno. Edward VII yw'r marchog hwnnw – Ymerawdwr India yn ei ddydd, ymhlith pethau eraill, ond Tywysog Cymru ydoedd pan grewyd y cerflun, a'r teitl 'Prince of Wales' sydd wrtho o hyd ym Mwmbái. Ond pan ddaeth India'n wlad annibynol yn 1947, symudwyd yr hen Edward truan a'i geffyl i sw leol, lle mae'n cadw cwmni heddiw i lu o adar egsotig …

​Cofia hefyd fod dau addasiad newydd i blant gen i yn y siopau gan wasg Atebol (sy â gwefan newydd sbon), ac mae'r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn O'r Pedwar Gwynt allan hefyd (ac ynddo gywydd marwnad arbennig i Gwyn Thomas gan Peredur Lynch).

If you're in need of some festive stocking-fillers, then look no further! Poet Ceri Wyn Jones, presenter of BBC Radio Cymru's flagship poetry programme, Talwrn y Beirdd, has gathered together the crème de la crème of the last five seasons into Pigion y Talwrn, including poems by the greatest poetry team this side of the Nile – Y Glêr! The latest edition of Barddas is out too, with articles, reviews and lots of poems, including my awdl that came second in this year's Chair competition at the National Eisteddfod in Abergavenny. It was inspired by a recent visit to Mumbai, where I was whisked around the city by a good friend of mine, one of India's foremost English-language poets, Sampurna Chattarji. Also out are two adaptations for children by me from Atebol (check out their new website).
0 Comments

Llyfrau newydd: Yr Arth a fu'n Bloeddio Bw! + Cefin y Coala Carcus

6/11/2016

0 Comments

 
Fe fues i'n brysur dros yr haf yn cyfieithu ac yn addasu dwy gyfrol ddoniol iawn ar gyfer gwasg Atebol.

Mae'r gyntaf – Yr Arth a fu'n Bloeddio Bw! – yn fersiwn Cymraeg o lyfr poblogaidd gan David Walliams a Tony Ross, The Bear Who Went Boo! (HarperCollins). Dyma ddisgrifiad gwefan Gwales:

Stori lawn antur yn adrodd hanes arth wen ddrygionus sy'n byw ar ben y byd, mewn gwlad o eira a rhew. Hoff ddiddordeb yr arth ydy gweiddi 'BW!' gan ddychryn pawb o'i hamgylch. Un diwrnod caiff yr arth fraw, gan ddysgu nad yw hi'n beth da i weiddi a dychryn pawb bob amser!

Mae'r ail gyfrol – Cefin y Coala Carcus – yn fersiwn Cymraeg o'r llyfr diweddaraf gan Rachel Bright a Jim Field, The Koala who Could (Orchard Books). Hon yw'r ail gyfrol gan y ddau i mi ei haddasu'n ddiweddar – Y Llew tu Mewn oedd y gwerthwr gorau yng nghategori llyfrau Cymraeg i blant fis Chwefror eleni.

​Dyma ddisgrifiad gwefan Gwales o Cefin y Coala Carcus:

Dewch i gwrdd â Cefin y coala, sy'n hoffi pethau FEL Y MAEN NHW, heb DDIM NEWID. Ond pan mae pethau'n newid yn ddirybudd un dydd, daw Cefin i ddysgu sut i fwynhau profiadau NEWYDD ac ANHYGOEL. Stori ddoniol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo pryder wrth wynebu newid.

Mae stori'r arth fach wen ar gael nawr, a bydd stori Cefin ar gael i'w phrynu ar lein ac yn y siopau ym mis Rhagfyr. Dwy anrheg wych, felly, ar gyfer y Nadolig!

Mae'r testun Cymraeg wedi ei osod ochr yn ochr â'r testun Saesneg yn y ddwy gyfrol, ac felly'n arbennig o ddefnyddiol i blant a rhieni nad ydynt yn rhugl yn yr iaith.

I weld mwy o lyfrau gen i, clicia fan hyn.
Picture
Picture

Two brilliant new books for children (both adaptations) hot off the press ready to fill those Christmas stockings – Yr Arth a fu'n Bloeddio Bw! (David Walliams's and Tony Ross's The Bear Who Went Boo!) and Cefin y Coala Carcus (Rachel Bright's and Jim Field's The Koala who Could). Both books are ideal for both fluent Welsh speakers and learners alike, as texts in both Welsh and English are shown side by side. For more books, click here.
0 Comments

Llyfr newydd: Pobl y Pants a'r Deinosoriaid

9/9/2016

0 Comments

 
Pan o'n i'n grwtyn ifanc, doedd dim llawer nad o'n i'n ei wybod am ddeinosoriaid – maint, enwau, pryd ro'n nhw'n byw, beth ro'n nhw'n ei fwyta …

Ro'n i wrth fy modd, felly, pan ofynnodd Gwasg Gomer imi addasu Aliens Love Dinopants, y diweddaraf mewn cyfres o lyfrau i blant o dan saith oed gan Claire Freedman a Ben Cort – Pobl y Pants a'r Deinosoriaid. Dyma ddisgrifiad gwefan Gomer:

Mae Pobl y Pants o'r Gofod wedi glanio reit yng nghanol y jwngwl, heb sylweddoli eu bod ar fin darganfod y pentwr mwyaf o bants erioed. Maen nhw ar ben eu digon … nes i berchnogion enfawr y pants anhygoel darfu arnyn nhw!

Dyma'r bedwaredd gyfrol i mi ei haddasu yn y gyfres wych hon, yn cynnwys Antur Fawr Panta Clos a Rhyfel Mawr y Pants. Clicia fan hyn i'w gweld nhw i gyd.

Nid dyma'r unig lyfr i blant imi ei addasu sy'n sôn am ddeinosoriaid direidus – cymer olwg hefyd ar Deg Deinosor Bach (Atebol). I wylio fideo ohonof i'n darllen y llyfr, clicia fan hyn.
Picture

Pobl y Pants a'r Deinosoriaid is my recently published adaptation (published by Gwasg Gomer) of Claire Freedman's and Ben Cort's latest addition to their brilliant Aliens Love … series. For more books, click here (including another one about dinosaurs).
0 Comments
<<Previous
Forward>>

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio