eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Rhaglen Serenestial

31/10/2016

0 Comments

 
Un o uchafbwyntiau 2016 i mi oedd bod yn rhan o gynhyrchiad arloesol ac aml-gyfrwng Serenestial dan arweiniad Catrin Finch. Perfformiwyd y cyngerdd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni fis Awst. Lluniais gyfres o ddeg o gerddi am y planedau a'r haul yn arbennig ar ei gyfer.

Mae bellach yn bosib gwylio'r holl gynhyrchiad ar lein ar wefan S4C neu ar iPlayer y BBC. Os hoffet ti ddarllen cerddi Serenestial (a berfformiwyd yn arbennig ar y noson gan Sara Lloyd-Gregory) wrth wylio'r rhaglen, clicia fan hyn. Darlledwyd y rhaglen am y tro cyntaf neithiwr, a bydd ar gael i'w gwylio tan ddiwrnod olaf Tachwedd.
Picture

Earlier this year I was commissioned by Catrin Finch to compose a series of ten poems on the subject of the sun and its eight planets for Serenestial, a special concert at the National Eisteddfod in Abergavenny. The concert is now available online on both the S4C website and on BBC iPlayer (until the end of November). To read the poems as you watch, click here.
0 Comments

Llyfr newydd: Llyfr Bach Priodas

26/8/2016

0 Comments

 
A hithau'n dymor priodasau, daeth llyfr newydd amserol o'r wasg ddechrau Awst – Llyfr Bach Priodas (gol. Elinor Wyn Reynolds, Gwasg Gomer). Yn ôl gwefan y wasg, dyma gyfrol sy'n llawn

straeon difyr am gyfarfyddiadau, am syrthio mewn cariad ac am briodi. Cerddi bendigedig a ysgrifennwyd â chariad gan rai o feirdd gorau Cymru – cerddi i chi eu mwynhau a rhai y medrwch eu defnyddio fel rhan o’ch gwasanaeth priodas yn ogystal. Casgliad o luniau priodasau drwy’r degawdau sy’n cydgerdded â’r geiriau yn y gyfrol arbennig hon. Dyma anrheg ddelfrydol i bawb sydd ar fin priodi neu sy’n dathlu pen-blwydd eu priodas.

Yn wreiddiol, ysgrifennais y gerdd sydd gen i yn y casgliad ar gyfer priodas fy chwaer yng nghyfraith, Aranwen, a Dan ym mis Mai eleni. Addasiad yw'r gerdd o eiriau cân enwog Bob Dylan, 'Make You Feel my Love', a ganwyd o'r newydd lawer tro dros y blynyddoedd, yn fwyaf amlwg gan Adele yn 2008. Canwyd y geiriau Cymraeg yn hyfryd ar ddiwrnod y briodas gan Lisa Angharad, ffrind agos i Aranwen ers dyddiau ysgol, a hynny yn eglwys Cydweli, y dref lle cafodd Dan ei fagu. Roedd y fersiwn gwreiddiol o'r pennill olaf ond un yn cyfeirio at afon Gwendraeth Fach ac at y ffaith fod Dan yn blastrwr – y gorau yn Sir Gâr yn ôl rhai! – ond mae fersiwn gwahanol yn y gyfrol.

​Ac ystyried bod mwy a mwy o alw am farddoniaeth i'w darllen mewn priodasau, mae'r gyfrol fach hon yn llenwi bwlch go fawr yn y farchnad. Mae ynddi gerddi newydd gan dros ddeg o feirdd, yn cynnwys Hywel Griffiths, sy'n briod ag Alaw, trefnydd priodasau gyda'i chwmni, Priodasau Calon. Ac mae gan Llyfr Bach Priodas chwaer-gyfrol hefyd, sef Llyfr Nodiadau Priodas, ar gyfer trefniadau priodas neu negeseuon gan westeion.
Os hoffet ti gomisiynu cerdd ar gyfer priodas neu ar gyfer unrhyw achlysur arall, clicia fan hyn.

​Am fwy o lyfrau, clicia fan hyn.
Picture

A new gift book from Gwasg Gomer for couples planning a wedding – Llyfr Bach Priodas – full of anecdotes, beautiful pictures and a host of poems about weddings and love that can be used on the big day or simply read for enjoyment. It includes a poem I composed for my sister-in-law, Aranwen, on her wedding to Dan in Cydweli earlier this year – a Welsh-language adaptation of Bob Dylan's famous song, 'Make You Feel my Love'. A companion volume, Llyfr Nodiadau Priodas, is also available for jotting down planning notes, or for recording wedding guests' personal messages.

To commission a poem for a wedding or for any other occasion, click here.
0 Comments

Cerddi newydd: Serenestial

11/8/2016

0 Comments

 
Yn y gwanwyn 2016, fe ges i gomisiwn i lunio cyfres o ddeg o gerddi ar gyfer cyngerdd arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau. Y delynores Catrin Finch oedd wrth y llyw, a'r pwnc oedd yr haul a'r planedau. Rhoddodd Catrin imi ryddid llwyr i ddehongli'r testun fel y gwelwn i orau, a dyna pam, efallai, imi dreulio llawer mwy o amser na'r disgwyl yn hel a didol syniadau cyn bwrw ati o ddifri!

Un allwedd at y gwaith oedd penderfynu ar y prif fesur, sef y soned. Mae'r soned yn fesur yr ydw i wedi ei osgoi yn y gorffennol, yn bennaf am fod cysgod dau o'r meistri, T.H. Parry-Williams ac R. Willams Parry, mor drwm arni. Ond fel y dôi anferthedd y testun yn raddol i'r golwg, daeth yn amlwg y byddai llinellau hirion y soned yn cynnig lle i wyntyllu rhai o'r syniadau dwysaf. A rhag i'r gyfres droi'n undonog yn hynny o beth, dyma droi at un arall o hoff fesurau T.H., sef y rhigwm, ar gyfer tair o'r planedau. Ar gyfer y darn rhagarweiniol, dewisais un o fy hoff fesurau i, sef mesur Burns.

Ar nos Fawrth Eisteddfod y Fenni, cynhaliwyd cyngerdd Serenestial yn y pafiliwn. Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl, a dweud y gwir, ond bu'n brofiad hudolus yn y pafiliwn newydd, ac yntau wedi ei leinio â chynfasau du, serog.

​Un o gampau Catrin oedd llwyddo i gyfuno cynifer o wahanol elfennau creadigol i greu un cyfanwaith swynol – cerddoriaeth Catrin ei hun, dawnswyr Ballet Cymru, llais y gantores Elin Manahan-Thomas, cerddoriaeth feiolin Charlie Lovell-Jones, a'r actores Sara Lloyd-Gregory yn darllen fy ngherddi. Yn ogystal â mwynhau'r cyngerdd cyfareddol yn fyw, roedd bod yn rhan o'r cynhyrchiad arloesol ac, yn fwy na dim, clywed Sara'n darllen fy ngeiriau, yn brofiad gwych iawn.

Mae'r cerddi ar gael i'w darllen ar fy ngwefan drwy glicio fan hyn.
Picture

Earlier this year I received a commission from Catrin Finch to write a series of ten poems on the subject of the sun and planets for a special concert at the National Eisteddfod. The finished work comprises six sonnets, three poems in rhyming couplets and one poem in the form of the Burns Stanza. Serenestial was performed in the Eisteddfod pavilion on 2 August. Being part of such an innovative production – alongside Catrin Finch, Elin Manahan-Thomas, Charlie Lovell-Jones and Sara Lloyd-Gregory – was a brilliant experience.

The poems can be read on my website by clicking here.
Picture
0 Comments

Cerdd newydd: Ger y Lli

22/4/2016

0 Comments

 
O dro i dro bydd cais yn dod i gyfansoddi geiriau i gân. Mae'r gerdd ddiweddaraf sy ar y wefan hon yn gân a gyfansoddais i ryw flwyddyn yn ôl, ym mis Ebrill 2015, ar gyfer cyngerdd i ddathlu deng mlynedd ers sefydlu Côr Ger y Lli. Gofynnwyd i Robat Arwyn gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â'r geiriau, a chomisiynwyd Lizzie Spikes, artist o Aberystwyth, i baentio darlun yn cynnwys geiriau'r gytgan (gelllir prynu'r darlun ar ffurf print ar wefan Lizzie). Clicia fan hyn i ddarllen y gerdd ac i wybod mwy am hanes ei chyfansoddi.
Picture
Rai wythnosau yn ôl, gofynnwyd imi gyfansoddi geiriau i gân Saesneg enwog gan Sam Smith o'r enw 'Not the Only One' ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Ceredigion. Perfformiwyd y gân 'Un Dydd o Bell' gan ddisgyblion ysgolion cynradd y sir mewn cyngerdd arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau ar 19 Ebrill. Er nad oeddwn i'n medru bod yno'r noson honno, roedd yn brofiad hyfryd gwrando'r geiriau yn cael eu canu mor wych mewn fideo o'r noson. Bydd recordiad sain o'r gân (sy ar gael i'w darllen ar y blogbost hwn) yn cael ei ychwanegu at y blogbost hwn pan ddaw i law.

Commissions occasionally come in the form of song lyrics, and I received one such request about a year ago to celebrate ten years of Côr Ger y Lli. The music was specially commissioned by Robat Arwyn, along with a painting by Lizzy Spikes that incorporated the words of the chorus (prints ar available on her website). Click here to read the poem. A few months ago I received a request to adapt the words of Sam Smith's well-known song 'Not the Only One' for Ceredigion Music Service. 'Un Dydd o Bell' was performed by pupils from the county's primary schools in a concert in Aberystwyth Arts Centre on 19 April.
0 Comments

Poetry Wales 51.3

9/4/2016

0 Comments

 
Mae'r rhifyn y gwanwyn 2016 o'r cylchgrawn barddoniaeth chwarterol, Poetry Wales, bellach ar gael. Yn ogystal â cherddi di-ri, mae'r cylchgrawn yn llawn dop o erthyglau ac adolygiadau yn ymwneud â barddoniaeth yng Nghymru a thu hwnt (clicia fan hyn i weld rhest gyflawn o'r cynnwys).

Ymhlith yr adolygiadau y tro hwn, ceir adolygiad gen i o gyfrol olaf Gerallt Lloyd Owen, Y Gân Olaf (Cyhoeddiadau Barddas, 2015). Dyma baragraff cyntaf yr adolygiad:
Picture
Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cerdd gen i, sef 'Haji Ali Dargah', cywydd a ysbrydolwyd yn sgil ymweliad â beddrod y sant Moslemaidd Haji Ali ym Mwmbái fel rhan o brosiect Walking Cities (a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig) yn 2014. Ysgrifennais y gerdd ar gyfer perfformiad cydweithredol â Zoë Skoulding fel rhan o brosiect Gelynion-Enemies Cymru yn 2015. Mae cerdd Zoë - a gyhoeddir yn y rhifyn hwn hefyd - yn barodi gwych o gywydd a ganodd Syr Dafydd Trefor i'r eglwys ym Mangor yn 1527 (bydd fy ngolygiad o gerdd Dafydd yn ymddangos ar wefan Cwlt y Seintiau maes o law).

Ceir yn y rhifyn hwn hefyd gyfres o gerddi gan SJ Fowler a ysgrifennwyd mewn ymateb i ffotograffau gan Kate Mercer (cyhoeddir y cerddi ochr yn ochr â'r lluniau), a hynny ar gyfer arddangosfa The Night-Time Economy yng nghanolfan gelfyddydol Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Bydd yr arddangosfa (a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) ar agor drwy gydol mis Ebrill, a bydd hefyd yn ymweld â'r Rich Mix Gallery yn Llundain 17-31 Gorffennaf. Cefais fy nghomisiynu i gyfieithu i Gymraeg rai o'r cerddi, ac mae'r cyfieithiadau hynny ar gael i'w darllen yn yr arddangosfa.

The spring issue of the quarterly poetry magazine, Poetry Wales, is out now. As well as a shedload of poetry, the magazine features a host of articles and reviews on poetry in Wales and beyond (click here to see the full list of contents).

The reviews section for this issue includes my review of Gerallt Lloyd Owen's posthumous collection of poetry, Y Gân Olaf (Cyhoeddiadau Barddas, 2015). The first paragraph of the review can be read on this blogpost.
Picture
This issue also includes 'Haji Ali Dargah', a Welsh poem inspired by a visit to the tomb of the Muslim saint Haji Ali in Mumbai as part of the Walking Cities project (funded by the British Council) in 2014. I wrote the poem for a collaborative performance with Zoë Skoulding as part of the Gelynion-Enemies Cymru project in 2015. Zoë's poem - which also features in this issue - is a brilliant parody of a poem composed by Syr Dafydd Trefor for the cathedral church in Bangor in 1527 (my edition of Dafydd's poem will be available soon on the Cult of Saints website).

The issue also features a series of poems by SJ Fowler written in response to photographs by Kate Mercer (both poems and photos are shown in the magazine) for The Night-Time Economy exhibition at the Riverfront arts centre in Newport. The exhibition is supported by the Arts Council of Wales and runs until the end of April, and will also visit the Rich Mix Gallery in London 17-31 July. I was commissioned to translate some of the poems into Welsh, all of which are available to be read at the exhibition.
Picture
0 Comments
<<Previous
Forward>>

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio