Un o uchafbwyntiau 2016 i mi oedd bod yn rhan o gynhyrchiad arloesol ac aml-gyfrwng Serenestial dan arweiniad Catrin Finch. Perfformiwyd y cyngerdd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni fis Awst. Lluniais gyfres o ddeg o gerddi am y planedau a'r haul yn arbennig ar ei gyfer. Mae bellach yn bosib gwylio'r holl gynhyrchiad ar lein ar wefan S4C neu ar iPlayer y BBC. Os hoffet ti ddarllen cerddi Serenestial (a berfformiwyd yn arbennig ar y noson gan Sara Lloyd-Gregory) wrth wylio'r rhaglen, clicia fan hyn. Darlledwyd y rhaglen am y tro cyntaf neithiwr, a bydd ar gael i'w gwylio tan ddiwrnod olaf Tachwedd. Earlier this year I was commissioned by Catrin Finch to compose a series of ten poems on the subject of the sun and its eight planets for Serenestial, a special concert at the National Eisteddfod in Abergavenny. The concert is now available online on both the S4C website and on BBC iPlayer (until the end of November). To read the poems as you watch, click here.
0 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|