eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #41 Chwefror 2020

27/4/2020

0 Comments

 
A ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd – yn gyfansoddiadol, o leiaf – mae rhifyn y mis bach o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yn rhoi llais i wrthdystiad y beirdd. Yn ogystal â gorffwysgerdd yr un gen i ac Aneirin, ceir cerddi hefyd gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled a Siân Northey – blodeuged o wyth cerdd, felly, i gadw'r fflam yn fyw. Gelli ddarllen fy ngherdd i, 'Parliament Square', ar y wefan hon drwy glicio fan hyn. Ceir hefyd rywfaint o hanes taith Aneirin i Lydaw'n ddiweddar, a thaith arall gen i i India, y tro hwn i Kolkata, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o gerddi i blant, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ar y cyd â Sampurna Chattarji. Trafodaeth hefyd ar feirniadu mewn eisteddfodau – yn cynnwys tips i gystadleuwyr a sylw i wefan wych Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – hanes noson ddiweddaraf Cicio'r Bar gyda Mari George a Bwca, ynghyd â'r holl eitemau eraill arferol.
Clera · Clera Chwefror 2020
1. Hynt a helynt Aneurig, o Lydaw i Kolkata
2. 15.25 Pwnco: beirniadu eisteddfodol
3. 29.55 Pos rhif 36 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 33.10 Y Gorffwysgerddi: rhesaid o gerddi i nodi gadael yr Undeb Ewropeaidd
​5. 43.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 50.40 Y Newyddion Heddiw

In the wake of the UK's departure from the European Union, February's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) has a medley of poems by eight poets that form a challenge to those who think the battle's over (read mine here). We also hear from Aneirin about his recent visit to Brittany, I share some stories from my recent visit to Kolkata, and we both discuss the role of adjudicating in eisteddfodau all across Wales.
0 Comments

Podlediad Clera #38 Tachwedd 2019

26/4/2020

0 Comments

 
A dilyn yr eitem gyntaf o Ŵyl Gerallt yn y rhifyn diwethaf o bodlediad Clera (sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes), sgwrs arall o'r ŵyl a geir yn rhifyn mis Tachwedd, y tro hwn rhwng enillydd y Gadair eleni, Jim Parc Nest, a'r archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd. Daw'r orffwysfa y tro hwn o flodeugerdd newydd o gerddi doniol a olygwyd gan Gruffudd Owen, sef Chwyn (Cyhoeddiadau Barddas), cerdd gan y bardd ddigrifwr o fri Iwan Rhys am y gwaith trist o eillio'i farf. Achubodd Nei ar y cyfle yng Ngŵyl Gerallt i holi Karen Owen am ei CD newydd o gerddi ac am ei chyfrol arfaethedig o farddoniaeth ac, at hynny, ry'n ni wedi cyrraedd y drydedd rownd, sef rownd y gân, yn Nhalwrn y Beirdd Ifanc rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Phiwmas y Preseli. Dwi hefyd, o'r diwedd, wedi dewis enw ar gyfer fy nghyfrol newydd o farddoniaeth, sef Llyfr Gwyrdd Ystwyth – bydd honno mas yn fuan!
Clera · Clera Tachwedd 2019
1. Hanes y byd a'r betws
2. 13.40 Pwnco: sgwrs o Ŵyl Gerallt rhwng Jim Parc Nest a Myrddin ap Dafydd
3. 23.45 Pos rhif 33 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 28.05 Sgwrs â Karen Owen am ei gwaith CD newydd o gerddi
5. 38.00 Yr Orffwysgerdd: 'Marwnad fy Marf' gan Iwan Rhys
6. 43.35 Talwrn y Beirdd Ifanc: y drydedd rownd o'r ornest gyntaf
7. 01.02.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
8. 01.07.15 Y Newyddion Heddiw!

Following on from a recording from Gŵyl Gerallt on last month's Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes), this month's podcast has another recording from the festival, a conversation this time between this year's winner of the Chair at the National Eisteddfod, Jim Parc Nest, and the new archdruid, Myrddin ap Dafydd. A shorter conversation also with Karen Owen about her new CD and collection of poetry, as well as a poem by Iwan Rhys from a new anthology of humorous poems, Chwyn​ (Cyhoeddiadau Barddas).
0 Comments

Podlediad Clera #36 Medi 2019

2/10/2019

0 Comments

 
Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – ychydig yn wahanol i'r afer, am fod llais Aneirin yn eisiau! Heblaw am ddarn bychan ar y dechrau lle mae Nei'n esbonio pam, wrth gwrs. Yn ei absenoldeb, fe ges i gwmni Gruffudd Antur a dau westai arbennig, Phil Davies a Richard Owen, y ddau o'r Cyngor Llyfrau gynt ac yn eisteddfodwyr brwd a phrofiadol. Diolch i'r tri am sgwrs Bwnco ddifyr iawn yn cloriannu agweddau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst fis Awst, o'r Babell Lên i gyfrol y Cyfansoddiadau. Daw'r orffwysgerdd gan y prifardd Tudur Hallam o'i gyfrol newydd sbon o gerddi, Parcio (Cyhoeddiadau Barddas). At hynny, mae'r rhifyn hwn yn gartref i eitem newydd a chyffrous iawn, sef cynnyrch dwy ornest arbennig o Dalwrn y Beirdd Ifanc gyda'r meuryn brifardd Ceri Wyn Jones. Y tro hwn, cystadleuaeth y limrig yw'r arlwy, a hynny o'r ornest gyntaf a gynhaliwyd yn Sinema Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli. Mwynhewch!

1. Ble mae Nei?
2. 06.00 Pwnco: adladd yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Phil Davies a Richard Owen
​3. 34.30 Pos rhif 31 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 42.30 Yr Orffwysgerdd: 'Gwynion' gan y prifardd Tudur Hallam
5. 46.40 Talwrn y Beirdd Ifanc: y rownd gyntaf o'r ornest gyntaf
6. 59.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
7. 01.08.35 Y Newyddion Heddiw

September's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – takes a look back at the National Eisteddfod hend at the beginning of August in Llanrwst with two guests, Phil Davies and Richard Owen, both seasoned eisteddfod-goers! A poem also by Tudur Hallam from his new collection, Parcio, and an item from a special Talwrn y Beirdd Ifanc competition recorded in July in Aberystwyth Arts Centre between two teams of young poets, Bwystfilod Bro Myrddin (the beasts of Bro Myrddin) and Piwmas y Preseli (Preseli pumas). But where's Aneirin?
0 Comments

Gorsedh Kernow, Medi 2019

8/9/2019

0 Comments

 
Ddechrau Medi eleni, es i a Hywel Griffiths i gynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow yn Lanust. Roedd y croeso'n gynnes, y cwrw'n braf a'r haul yn gwenu. Ar ôl cyrraedd nos Wener, aeth y ddau ohonon ni ati i lunio cerdd i'w darllen yn y seremoni heulog brynhawn Sadwrn, a gelli ddarllen y gyfres honno o dri englyn drwy glicio fan hyn.

Peth gwych arall inni'n dau oedd gweld aelodau gleision yr orsedd yn cael eu derbyn, a Gwenno Saunders yn eu plith am roi lle mor ganolog i Gernyweg ac i'w hetifeddiaeth Gernywaidd yn ei cherddoriaeth. Yn ei haraith o'r llwyfan, gwnaeth y Bardd Mawr Liz Carne – yr archdderwydd, i bob diben – yn eglur y dylid ystyried y Cernywiaid yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain, a'u diogelu a'u hyrwyddo ochr yn ochr â lleiafrifoedd eraill. Roedd gwneud hynny, meddai Liz, yn bwysicach nag erioed yn nhymor gwallgof Brecsit. Galwodd hefyd am gydnabod Cernyw'n wlad ar wahân i Loegr.
Picture
Roedd y seremoni yn ei chyfanrwydd yn eithriadol o debyg i seremonïau Gorsedd Cymru, a dylanwad Iolo Morganwg ar bob dim, o'r ddawns flodau i'r floedd am heddwch. Ond roedd dau wahaniaeth nodedig, ac eithrio'r ffaith fod pob dim mewn Cernyweg yn gyntaf ac yn Saesneg wedyn. Y cyntaf oedd y pwyslais mawr ar Arthur. Hyd yn oed yn y chwedlau Cymraeg, yng Ngelli-wig yng Nghernyw yr oedd llys Arthur, a does syndod, mewn gwirionedd, fod ei enw i'w glywed mor aml yn y seremoni. Rhoddwyd ei gleddyf deuddarn, at hynny, yn fy nwylo i a Hywel, ond wn i ddim a fyddai Iolo wedi cydsynio! Yr ail wahaniaeth oedd y ffaith fod yr holl orseddogion yn dod at ei gilydd ar y diwedd er mwyn canu'r anthem, a phawb yn gosod ei law ar ysgwydd rhywun arall. Roedd yn ffordd drawiadol iawn o ddod â'r dathlu i ben.
Roedd sgwâr blodeuog y dre – triongl, mewn gwirionedd – yn gartref i dair tafarn (yn cynnwys ein gwesty yn y Commercial), ac mae tafarn y Star gerllaw'n gartref i griw anffurfiol o ganorion tafarn. Daeth y criw o ddynion lleol at ei gilydd yn y dafarn rai blynyddoedd yn ôl a dechrau cydganu caneuon traddodiadol. Maen nhw bellach yn enwog drwy Gernyw ac wedi ysbrydoli criwiau eraill i ddechrau canu. Cawson ni ymuno â nhw ar y nos Sadwrn, a helpu criw o Grwydriaid Crwbin – o bob criw dan haul! – oedd wedi mentro i Gernyw ar eu taith flynyddol, i ganu ambell gân Gymraeg.

Doedd y môr namyn deng munud o gerdded i'r dwyrain o'r dref, ac fe es i a Hywel am sgowt i weld traeth o'r enw Porth Nanven. Mae'r fan yn enwog am ei daeareg anhygoel – mwy am hynny gan Hywel fan hyn – ac am ei cherrig crynion, yn fân ac yn fawr, a dreiglwyd yn llyfn gan y môr a'r canrifoedd, a chymaint yw eu hynodrwydd nes bod eu dwyn o'r fan yn erbyn y gyfraith! Roedd arwydd yng ngolwg y tonnau'n nodi'r gwaharddiad hwnnw, a chadw ato'n ddau fachgen da wnaethon ni. Ond dyma ddau beth o Gernyw nad oedd arnon ni gywilydd eu dwyn gyda ni'r holl ffordd adref i Gymru – brawdoliaeth a chyfeillgarwch.
Picture

In early September, Hywel Griffiths and I travelled to Cornwall to represent Gorsedd Cymru in Gorsedh Kernow. We were given a very warm and generous welcome to St Just and were privileged to take part in the ceremony. I spoke of our morning visit to Porth Nanven beach, where a sign told us that taking away the distinctive rounded stones was against the law (more about it's amazing geology by Hywel here). We abided by that law, but we will certainly take away feelings of warm comradeship, hospitality and new friendships. Hywel added that in times of so much talk of estrangement and division, nowhere more than the British Isles unfortunately, coming together to strengthen bonds between us was more important than ever, and it was a privilege to be here to do so with you. As two poets, we thought it would be fitting to read a poem, composed soon after our arrival in Lanust, to mark the occasion: you can read it here.
0 Comments

Podlediad Clera #35 Awst 2019

11/8/2019

0 Comments

 
Cafodd podlediad Clera mis Awst ei recordio, yn ôl ein harfer bellach, yn fyw yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Ein gwesteion arbennig oedd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, a Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, ynghyd â'r posfeistr ei hun, Gruffudd Antur. Daw'r orffwysgerdd gan Gruffudd Owen, a'r eitem eisteddfodol Gemau a Giamocs gan bawb! Hynny oll a llawer mwy, yn cynnwys Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Flwyddyn.

1. Croeso o'r Babell Lên yn Nyffryn Conwy
2. 06.20 Pwnco: sgwrs ddifyr iawn â Phrif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn
3. 22.15 Pos rhif 30 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 27.55 Yr Orffwysgerdd: cerdd newydd sbon gan y prifardd Gruffudd Owen
5. 33.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis … y Flwyddyn!
6. 40.50 Gemau a Giamocs

August's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – was recorded live at the National Eisteddfod in Dyffryn Conwy with special guests Lleucu Siencyn, Chief Executive of Literature Wales, the current Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen, and our very own quizmaster Gruffudd Antur.
0 Comments
<<Previous
Forward>>

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio