eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #27 Rhagfyr 2018

27/12/2018

0 Comments

 
Mae rhifyn olaf y flwyddyn o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawn dop! Trosolwg yn gyntaf gan y bardd, y llenor a'r artist Iestyn Tyne, a hynny o'r holl gyfrolau barddoniaeth a gyhoeddwyd eleni, heb anghofio bod Iestyn ei hun wedi cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi eleni, sef Ar Adain (Cyhoeddiadau'r Stamp). Sgwrs wedyn am fy awdl 'Porth', a ddaeth yn ail am y Gadair eleni. Fe gyhoeddwyd yr awdl honno yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas ac, os hoffet ti glywed sgwrs arall amdani, y tro hwn ar BBC Radio Cymru rhyngof i a Dei Tomos, yna clicia fan hyn i wrando'r eitem gyntaf mewn rhaglen ddifyr iawn sy ar gael tan 19 Ionawr. Clywir llais swynol Gruffudd Antur yn y pos fel arfer, ond fe'i clywir hefyd yn canu deuawd efo fi mewn clip a recordiwyd yn nhalwrn Siop y Pethe (clicia fan hyn am fwy o hanes y talwrn hwnnw). Casgliad o englynion Nadoligaidd a geir y tro hwn yn yr Orffwysfa, a hynny gan y prifardd o Frynhoffnant, Idris Reynolds. Yn ogystal â'r holl eitemau arferol, roedd lle yng nghynffon y podlediad i un englyn Nadoligaidd arall, y tro hwn gen i fel bardd preswyl Heddlu Dyfed-Powys:

Clywch, lu'r hedd, mae'n wledd drwy'r wlad! Seiniwn gân
        Noson geni'r ceidwad;
    Yn y côr, brenin cariad,
​    Dwyfoldeb mewn preseb rhad.

1. Croeso a chlonc
2. 10.10 Pwnco: trosolwg gan Iestyn Tyne o gyfrolau barddoniaeth 2018
3. 18.50 Sgwrs ag Eurig am ei awdl
4. 29.35 Pos rhif 22 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog + clip byr o dalwrn Siop y Pethe (32.30)
5. 34.40 Yr Orffwysfa: detholiad o englynion Nadolig gan y prifardd Idris Reynolds
6. 41.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: barddoniaeth Lydaweg
7. 52.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
8. 01.03.40 Y Newyddion Heddiw
​9. 01.08.45 Englyn i gloi gan Eurig

The last Clera podcast of the year – available on both SoundCloud and iTunes – is a whopper! A review of the year's poetry books by Iestyn Tyne, whose own second collection of poems is available here, an item on my poem 'Porth', which came second in the Chair competition at this year's National Eisteddfod and was published recently in Barddas – another discussion on Dei Tomos's programme on BBC Radio Cymru is available until 19 January – as well as a selection of Christmas englynion by Idris Reynolds.
0 Comments

Llyfr newydd: Teulu Tŷ Bach

7/11/2018

0 Comments

 
Mae chwech o storïau doniol newydd i blant rhwng 7 ac 11 oed (Cyfnod Allweddol 2) wedi eu cyhoeddi gan CAA – Canolfan Adnoddau Addysgol – sef Cyfres Halibalŵ:
  • Syniadau Slei gan Mari Løvgreen
  • Y Tocyn Raffl gan Anni Llŷn
  • Project Poli gan Gwenno Mair Davies
  • Tŷ Tomi Treorci gan Dafydd Llywelyn
  • Iârgyfwng! gan Gwennan Evans
  • Teulu Tŷ Bach gen i
Yng ngeiriau golygydd y gyfres, Fflur Aneira Davies:

'Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r llyfrau gwreiddiol hyn i blant Cymru. Maen nhw wedi’u hysgrifennu gan awduron ifanc a phoblogaidd sy’n gweithio’n gyson gyda phlant yr oedran hwn, felly maen nhw’n adnabod eu cynulleidfa yn dda. Bydd y nofelau bywiog, yr hiwmor a’r lluniau lliw gan arlunwyr talentog yn siŵr o apelio at ferched a bechgyn ledled Cymru. Mae’r gwerthiant wedi bod yn wych yn y pythefnos cyntaf ers eu cyhoeddi.'

Yn rhyfedd iawn, rydw i, Fflur, Mari a Gwenno i gyd yn raddedigion o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a hynny'r un flwyddyn! Roedd yn braf iawn cwrdd â'r tair eto yn lansiad y gyfres yn Ysgol Gynradd Llanbryn-mair ddechrau Tachwedd.

Mae fy stori i, Teulu Tŷ Bach, wedi ei ddarlunio'n wych gan Rhys Aneurin ac yn sôn am dri chymeriad rhyfedd sy'n byw yn y tŷ bach hwnnw, sef Blodwen a'i gŵr, Cleif, a'u ci Sam. Mae Blodwen yn hoffi garddio, mae Cleif yn hen bysgotwr tal, tal ac mae Sam y Ci'n treulio'i amser yn trio cael gafael ar y Gath Drws Nesaf …

Mae syniadau a gweithgareddau difyr i gyd-fynd â'r storïau ar wefan Hwb, sy'n addas i oedolion eu defnyddio gyda phlant wrth hybu iaith a llythrennedd mewn ysgolion ac yn y cartref.

Ceir adolygiadau ar wefan Mam Cymru ac ar flog Bethan Gwanas.
Picture
Picture
Picture
Picture

Cyfres Halibalŵ is a new series of six funny stories for children aged 7 to 11 (Key Stage 2) from CAA. My story – Teulu Tŷ Bach – is brilliantly illustrated by Rhys Aneurin and is about Blodwen, Cleif and Sam the dog, a trio of weird and wonderful characters who live in a very small house nextdoor to a very mischievous cat and her very grumpy owner. Funnily enough, four of the authors – Fflur, Mari, Gwenno and I – are all 2004 graduates from the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University. Ideas and activities based on the stories are available on the Hwb website, and can be used to boost language and literacy both in school and at home.
0 Comments

Podlediad Clera #25 Hydref 2018

31/10/2018

0 Comments

 
Cyrhaeddodd rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera'n hwyr iawn yn y mis, jyst mewn pryd ar gyfer noson Calan Gaeaf (SoundCloud ac iTunes, fel arfer). Ac mae hwn yn rhifyn arswydus o lawn! Y bardd Ifan Prys yn westai arbennig, y prifardd Hywel Griffiths a chyn-olygydd Barddas Elena Gruffudd yn adolygu cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 (gyda golwg yn benodol ar y mân gystadlaethau barddoniaeth), Gorffwysgerdd newydd sbon gan neb llai nag Aneirin ei hun, a honno'n ymateb i'r gerdd gen i yn yr Orffwysfa ym mis Medi. Hynny i gyd a'r holl eitemau arferol, o bos Gruffudd Antur i'r llinell ddamweiniol.

1. Croeso a chlonc
2. 12.10 Pwnco: trafod barddoniaeth y brifwyl gyda Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd
3. 38.05 Pos rhif 20 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 41.40 Yr Orffwysfa: 'Kenavo Eurig' gan Aneirin
5. 45.05 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: yr anthem genedlaethol
6. 51.20 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
7. 59.55 Y Newyddion Heddiw

The October Clera podcast is here! With special guest Ifan Prys, reviewers Hywel Griffiths and Elena Gruffudd, a brand new poem by Aneirin himself and all the regular items – and everything's freely available on both SoundCloud and iTunes.
0 Comments

Llyfr newydd: Yr Arth Aruthrol

1/10/2018

0 Comments

 
Mae cyfrol newydd liwgar a doniol iawn i blant wedi ei chyhoeddi gan wasg Atebol. Addasiad gen i yw Yr Arth Aruthrol o'r gyfrol Saesneg Boogie Bear gan David Walliams, a'r darluniau gan Tony Ross. Y llyfr hwn oedd y gwerthwr gorau ym mis Hydref yng nghategori'r llyfrau Cymraeg i blant. Dyma'r disgrifiad ar wefan Gwales:

Stori lawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, o bysgota, o fwyta ac o gysgu. Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg. Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth … yn waeth o lawer!
Picture

My Welsh adaptation of a book for children by David Walliams and Tony Ross – Yr Arth Aruthrol – is now available in the shops and online. Gwales website describes it as 'a very humorous story about a white bear living in the North Pole who loves swimming, fishing, eating and sleeping. One day, she wakes from her sleep far from home. Things have never been worse, but they are about to become worse... much worse!' Published by Atebol, this adaptation was the best-selling Welsh book for children in October.
0 Comments

Llyfr newydd: Pawen Lawen!

1/10/2018

0 Comments

 
Mae ail gyfrol Casia Wiliam fel Bardd Plant Cymru wedi ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, sef Pawen Lawen! Cerddi gan Casia a chan Feirdd Plant y gorffennol am fyd natur yw'r cynnwys y tro hwn, a hynny ar sawdl cyfrol y llynedd am fwystfilod o bob math.

​Yng ngeiriau Casia yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Ers i mi ddechrau ar fy ngwaith fel Bardd Plant Cymru, rydw i wedi holi plant mewn sawl ysgol pa thema fydden nhw'n ei dewis ar gyfer casgliad o gerddi, a dro ar ôl tro mae plant wedi dweud 'Byd Natur', felly rydw i wedi gwrando! Mae'r gyfrol hon yn llawn cerddi gwych am anifeiliaid slei, dail direidus, anturiaethau anhygoel allan yn yr awyr agored, a llawer mwy. Digon i wneud i chi daflu'r llyfr drwy'r ffenest a chychwyn allan am antur eich hun …

Yn eu plith, mae gen i ddwy gerdd, y naill am y ffaith fy mod i'n casáu garddio, a'r llall am oen bach.
Picture

Following the success of previous collections of poems for children from Gwasg Carreg Gwalch by both the current Bardd Plant Cymru and former holders of the post, a new collection has been edited by Casia Wiliam, Pawen Lawen!
0 Comments
<<Previous
Forward>>

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio