eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Gwobrau Gŵyl Ddewi Awards 2019

16/3/2019

0 Comments

 
Cynhaliwyd Gwobrau Gŵyl Ddewi yn yr Hen Goleg eleni yng nghwmni'r Is-ganghellor Elizabeth Treasure a'r siaradwr gwadd, Sara Gibson, i ddathlu'r hyn y mae myfyrwyr ac aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth yn ei wneud dros yr iaith Gymraeg. Cynhaliwyd y seremoni arbennig brynhawn Iau 14 Mawrth. Llongyfarchiadau mawr i'r chwe enillydd – dyma'r englynion a luniais iddynt. (Clicia fan hyn i ddarllen am seremonïau 2017 a 2018.)
Picture

Rebecca Snell
Gwobr Pencampwr y Gymraeg
Mae gan bawb yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd – fel llawer arall – edmygedd mawr o Rebecca, nid yn unig am ei gallu academaidd a chreadigol, ond hefyd ei dyfalbarhad a’i hangerdd heintus, meddwl agored dros yr iaith.

Dysgu iaith, dewis gweithio. Sibrwd iaith,
        Asbri’r dydd yn gwawrio.
    Medru iaith, cael mynd am dro
    Ar heol heb ei thrio.


Anne Robbins
Gwobr Pencampwr y Gymraeg
Yr hyn a’m trawodd wrth ddarllen am Anne yn sgil y wobr hon oedd ei diwydrwydd mawr y tu hwnt i’r ddarlithfa, wrth iddi roi iaith ei hastudiaethau yn yr Adran ar waith ym mhob agwedd ar ei bywyd yn Aberystwyth.

Am nad y dysgu’n unig – yw dy nod,
        Y ni sy’n freintiedig
    Dy gael, yn hael drybeilig,
    Yn Aber, Anne, ar y brig.

​
Demi John
Gwobr Astudio drwy’r Gymraeg
Bydd yr iaith yn werthfawr iawn iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol, meddai Demi, a hawdd gweld sut y mae hi wedi rhoi lle amlwg i’r Gymraeg yn ei bywyd – bu’n gwirfoddoli’n ddiweddar fel cwnstabl, ac mae ganddi bâr o gyffion sy eto heb eu defnyddio!

Mewn handcuffs neu mewn cyffion, neu yn rhydd,
        Mae’r iaith yng Nghwm Cynon
    Heddiw eisiau heddweision …
    Dyma job i Demi John.
Janet Hardy
Gwobr y Dysgwr Disglair
Daeth Janet i Aber yn 1975, a bydd ei phrofiad ar y llwybr at yr iaith yn gyfarwydd i nifer sy’n mynd i’r afael â’r her o geisio dysgu’r Gymraeg, ond yr hyn sy’n arbennig am ei stori yw’r ffaith iddi ddal ati, a dal ati, a dyfalbarhau nes ei bod yn rhugl – fel cnwd o ŷd yn tyfu.

Mae’r hewl drwy Gymru i’r heulwen weithiau’n hir
        Weithiau’n hallt ddiorffen,
    Eto mae drwy’r gwynt ym mhen
    Y daith, iaith sy’n wenithen.


Trish Sadler-McGrath
Gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle
A hithau’n gweithio yn Undeb y Myfyrwyr, mae Trish yn gwybod yn well na neb pa mor effeithiol y gall cydweithio fod, ac mae’r ffaith ei bod yn rhoi lle canolog i’r Gymraeg yng ngwaith yr Undeb yn dyst i’r weledigaeth honno.

Ar wahân drwy’r hen dir hwn – yn ein swydd,
        Hawdd suddo dan fyrdwn
    Y daith, ond os cydweithiwn,
    Hyder y pac goda’r pwn.


Elin Royles
Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg
Un agwedd ar gyfraniad enfawr Elin i’r Gymraeg yn y Brifysgol yw ei gallu i lywio ac arwain trafodaethau am yr iaith mewn pwyllgorau a chyfarfodydd di-ri, felly dyma gyflwyno yn yr englyn hwn gynnig sy’n dyst i’r cyfraniad arbennig hwnnw.
​
Un cynnig pwysig heno – bawb, a roir
        Ger bron, codwch ddwylo!
    Byw wnawn trwy’r iaith bob un tro …
    Elin, mae pawb yn eilio.


This year's Gŵyl Ddewi Awards were held at the Old College on 14 March to honour the students and staff of Aberystwyth University who have made a notable contribution to the advancement of the Welsh language. My poems mark and celebrate their achievement. (Past years available here and here.)
0 Comments

Dwy gerdd newydd: I Gyfarch Gruffudd Owen + Cymdeithas John Gwilym Jones

22/11/2018

0 Comments

 
Rhaid bod rhywbeth yn y dŵr yr hydref hwn, oherwydd fe sefydlwyd dwy fenter lenyddol newydd sbon ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor o fewn ychydig fisoedd i'w gilydd.

Yn Aber fis Tachwedd, lansiwyd noson gyntaf Cicio'r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau gen i a Hywel Griffiths, a hynny yng nghwmni prifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Gruffudd Owen, a'r band Blodau Gwylltion, sef prif lenor yr Eisteddfod, Manon Steffan Ros, ac Elwyn Williams. Lluniodd Hywel gerdd i gyfarch Manon ar ei champ, ac ysgrifennais innau gywydd i gyfarch Gruffudd – mae'r gerdd honno ar gael i'w darllen ar y wefan hon.

… Enillodd, cipiodd y cae,
Rhagorodd ei rheg eiriau,
Ŵr hoff, a hawliodd, Gruffudd,
Holl glod Eisteddfod Caerdydd …


Mae Cicio'r Bar yn rhoi llwyfan rheolaidd yn Aber i farddoniaeth a cherddoriaeth, a chynhelir y noson nesaf – yng nghwmni bardd o fri (i'w gadarnhau) a'r band Patrobas – nos Wener 8 Chwefror. Clicia fan hyn i archebu tocynnau.

Ym Mangor ddechrau Medi, sefydlwyd cymdeithas newydd er mwyn dathlu llenyddiaeth yn ei holl amrywiaeth, sef Cymdeithas John Gwilym Jones. Gofynnwyd imi lunio cywydd i ddathlu sefydlu'r gymdeithas, ac mae'r gerdd honno hefyd ar gael i'w darllen ar y wefan.

Mae'r ddwy fenter, ynghyd â sefydlu cangen o Fragdy'r Beirdd yn Nghaernarfon ym mis Hydref, yn dysg i fywiogrwydd y sîn gelfyddydol heddiw, a'r sîn farddol yn arbennig. Hir y parhaent!
Picture
Picture

The autumn heralded the launch of two new cultural ventures in both Aberystwyth University and Bangor University that reflect the current strength of the Welsh-language poetry scene. Cicio'r Bar, a quarterly poetry event held in Aberystwyth Arts Centre, was launched by Hywel Griffiths and I in November with two special guests, the winner of the Chair competition at the National Eisteddfod, Gruffudd Owen, and the band Blodau Gwylltion, who's lead singer Manon Steffan Ros won the Prose Medal at this year's Eisteddfod. My poem for Gruffudd can be read on this website. In Bangor in Semptember a new cultural society was set up to celebrate literature in all its variety, Cymdeithas John Gwilym Jones. The poem I was commissioned to write for the society is also available on this website.
0 Comments

Cerdd newydd: Heddlu Dyfed-Powys

30/4/2018

0 Comments

 
Fis Ebrill eleni fe ges i fy mhenodi'n fardd preswyl Heddlu Dyfed-Powys, a hynny ar achlysur dathlu ei hanner canmlwyddiant. Ar 27 Ebrill fe gynhaliwyd digwyddiad i ddathlu'r pen blwydd arbennig yng nghwmni'r darlledwr Huw Edwards a thorf o heddweision a chyfeillion, a hynny ym mhencadlys yr heddlu ar gyrion Caerfyrddin. Mae'r gerdd gomisiwn a ddarllenais yn y digwyddiad hwnnw nawr ar gael i'w darllen ar y wefan hon drwy glicio fan hyn.

Mae'n dyst i weledigaeth Heddlu Dyfed-Powys bod yn prisio barddoniaeth fel modd i ymwneud â'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu ar hyd a lled y wlad. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill dros y flwyddyn nesaf, yn cynnwys rhai ar stondin yr heddlu ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd ddiwedd Mai.

​Yng ngeiriau'r Prif Gwnstabl Mark Collins, dwi bellach yn 'force poet'! Diolch i Mark am ei eiriau caredig ac i Irene a Carol a phawb arall o Heddlu Dyfed-Powys am fod mor groesawgar.

In April I was appointed poet in residence for Dyfed-Powys Police as part of their fifty year celebrations. On 27 April I took part in a special event alongside the broadcaster Huw Edwards and a host of policemen, policewomen and friends at their headquarters near Carmarthen. The commissioned poem that I read at the event can now be read on my website by clicking here.
Picture
​It is a testament to the vision and dedication of Dyfed-Powys Police that they regard poetry as a way of both celebrating the force and engaging with the communities they serve. I'm looking forward to taking part in other events over the next year, including at the National Urdd Eisteddfod in Llanelwedd at the end of May.

​In the words of the Chief Constable Mark Collins, I'm now a 'force poet'! A big thank you to Mark and to Irene and Carol, and to everyone else at Dyfed-Powys Police, for their warm welcome.

Cerdd Newydd: Heddlu Dyfed-Powys

0 Comments

Gwobrau Gŵyl Dewi Awards 2018

16/3/2018

0 Comments

 
Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Gŵyl Dewi y llynedd, dyma ddychwelyd eleni i'r Hen Goleg i ddathlu'r hyn y mae myfyrwyr ac aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth yn ei wneud dros yr iaith Gymraeg. Cynhaliwyd seremoni arbennig brynhawn Gwener 16 Mawrth, a'r machlud ar y môr drwy ffenestri hirion y neuadd fawr yn geflen drawiadol i'r cyfan. Llongyfarchiadau mawr i'r pedwar enillydd – dyma'r pedwar englyn a luniais i'r enillwyr.
Picture

Steph Davies
Astudio drwy'r Gymraeg
Mae dyfalbarhad Steph wrth ddysgu'r iaith – hi yw'r unig aelod o'i theulu yng Nghaerffili sy'n medru Cymraeg ar hyn o bryd – yn ein hatgoffa mai braint a hawl pob Cymro a Chymraes yw siarad ei iaith ei hun.

Ynot er dydd dy eni – roedd un rhodd,
        Un rhodd nawr a rwygi
    Yn agored pan ddwedi,
    'Y mae hon yn iaith i mi.'

​
Delyn Fritter
Pencampwr y Gymraeg
Wrth ddarllen am yr hyn y bu Delyn yn ei wneud dros yr iaith, roedd un frawddeg yn ei hamlygu ei hun o'r dechrau: 'Mae'r Gymraeg yn fy nghysylltu â hanes, traddodiadau a diwylliant Cymru – mae'r iaith Gymraeg fel un teulu mawr.'

Drwy'r wlad, o Went draw i Lŷn – ry'n ni oll
        Drwy ein hiaith yn perthyn
    I deulu enfawr Delyn,
    Yn ei hiaith mae Cymru'n un.
Lucy Hodson
Dysgwr Disglair
Fe glywais yn ddiweddar rywun yn dweud fod dysgu ieithoedd yn ein galluogi i weld y sbectrwm lliwau'n llawn, yn hytrach na phrofi'r byd mewn un lliw'n unig. Gall Lucy bellach weld Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Ar hyd y wlad, tir di-liw – a wêl rhai,
        Ni wêl rhai ond unlliw,
    Ond drwy siarad, daw'r wlad liw
    I rai, wel, yn amryliw.


Branwen Davies
Hyrwyddo'r Gymraeg yn y Gweithle
O blith yr holl bethau y mae Branwen wedi bod yn eu gwneud er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg, fe dynnodd un fy llygad yn syth, sef cyflwyno Gair yr Wythnos yn y swyddfa – o bethau bychain, yn wir, y daw llwyddiant mawr yn y man.

Bob wythnos, am iti osod – un gair
        Ar gof, am eu gwarchod,
    I'th fawrhau mae degau'n dod,
    Ac Aber sy'n eu gwybod.

Following the success of the Gŵyl Dewi Awards last year, a special ceremony was held at the Old College on 16 March to honour two Aberystwyth University students and two members of staff for making a great contribution to the advancement of the Welsh language. In writing my short poems to each of the winners, I realised again how important seemingly small decisions can be in the work of reminding everyone in Wales – and many beyond – that Welsh is their language.
0 Comments

Llyfr Newydd | New Publication: Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall

11/2/2018

1 Comment

 
Mae casgliad newydd o gerddi am Gymru ac am India, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, nawr ar werth. Cyfrol amlieithog yw hi a luniwyd ar y cyd gen i a Sampurna Chattarji, un o feirdd Saesneg mwyaf blaenllaw India, a chyfrol sy'n benllanw ar gyfnod maith o gydweithio rhyngom. Yng ngeiriau'r cyflwyniad:
A new collection of poetry, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, is now for sale. This multilingual collection contains poetry by both myself and Sampurna Chattarji, one of India's foremost English-language authors, and is the high point of a long partnership, as explained in the book's introduction:
This book marks the culmination of a partnership in poetry that spans seven years and two countries some 5000 miles apart. A journey that began in 2011 as part of a poetry translation workshop at Tŷ Newydd Writing Centre in north Wales has pulled into its orbit places as far removed from each other as Aberystwyth and Bombay/Mumbai, as well as Thiruvananthapuram, Porth-cawl, Cardiff, London, Kolkata, Swansea and Shantiniketan. We have both been afforded a fleeting, deeply enriching glimpse of each other's home towns, cities and nations. And in turn gained an insight into those things and places that we believed to be most familiar to us: streets, communities, homes, poems, even words themselves.
Mae'r casgliad yn cynnwys adrannau o gerddi yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Bangla am Mumbái, am Aberystwyth ac am Kolkata, ynghyd â cherddi ymryson/kobir lorai, adran o gyfieithiadau, nodiadau ac atodiadau diddorol sy'n olrhain ein trafodaethau am y byd a'r betws ar hyd y blynyddoedd. Mae un o fy ngherddi Saesneg, 'Two Parched Poets', ar gael i'w darllen ar y wefan hon.

Cyhoeddwyd y gyfrol gan Poetrywala fel rhan o gyfres o gyfrolau gan feirdd o Gymru ac o India ym mhrosiect Cysylltiadau Barddonol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (a ariannwyd gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru). Dyma'r pedair cyfrol arall yn y gyfres:
  • Aerial Roots gan Subhro Bandopadhyay a Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow gan Avner Pariat a Rhys Trimble;
  • Interversions gan Nia Davies a Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall gan Anitha Thampi a Siân Melangell Dafydd.
​Am fwy o wybodaeth am yr hyn y bues i a Sampurna'n ei wneud ar y prosiect, yn cynnwys casgliad o luniau a phum podlediad yn trafod hanes ein hymweliadau â Kolkata, ag Aberystwyth ac â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn y llynedd, clicia fan hyn.

Ddiwedd Ionawr fe es i'n ôl i India ar gyfer rhan olaf y prosiect, sef er mwyn lansio'r gyfrol a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn Kolkata, yng ngŵyl lenyddiaeth enfawr Jaipur (darllena erthygl o bapur newydd Live Mint fan hyn) ac yna yn Delhi (ceir erthygl fan hyn o India Today). I weld fideo ohonof i a Sampurna'n darllen ein gwaith yn Jaipur, clicia fan hyn.

Bu'r daith a'r prosiect ar ei hyd yn brofiad arbennig iawn – diolch i'r beirdd ac i'r cyfeillion lu a fu'n rhan o'r antur, ac yn arbennig i Alexandra Büchler ac, wrth gwrs, i Sampurna.
The book includes sections of poetry in Welsh, English and Bangla on Mumbai, Aberystwyth and Kolkata, as well as a series of ymryson/kobir lorai debate poems, a section of poems in translation, notes and appendices that trace our conversations over the years about almost everything in between. One of my English-language poems, 'Two Parched Poets', can be read on this website.

The collection is published by Poetrywala and is one of a series of poetry collections by poets from Wales and India produced as part of the Poetry Connections project by Literature Across Frontiers (supported by British Council Cymru and Wales Arts International). These are the four other books in the series:​
  • Aerial Roots by Subhro Bandopadhyay and Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow by Avner Pariat and Rhys Trimble;
  • Interversions by Nia Davies and Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall by Anitha Thampi and Siân Melangell Dafydd.
For more on what Sampurna and I got up to on the project, including a collection of photographs and five podcasts about our time in Kolkata, Aberystwyth and at the National Eisteddfod on Anglesey last year, click here.

In January I returned to India for the last leg, namely to launch the book and to take part in events in Kolkata, at the Jaipur Lit Fest (read an article on the Live Mint website here) and lastly in Delhi (article here from India Today). A video of Sampurna and I reading our work in Jaipur is available here.

The tour and indeed the whole project from start to finish was a wonderful experience – thanks to the all the poets and friends that took part in the adventure, and especially to Alexandra Büchler and, of course, to Sampurna.
Picture
Picture
Picture
1 Comment
<<Previous
Forward>>

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio