eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfrau a chylchgronau newydd at y Nadolig

14/12/2016

0 Comments

 
Mae'r Nadolig ar y gorwel ond, os wyt ti'n debyg i fi, bydd yr holl siopa'n digwydd funud ola'. Dyma felly rai awgrymiadau am anrhegion llenyddol – yn boeth o'r wasg – a allai wneud y dasg flynyddol o lenwi hosanau'n ychydig haws.
Picture
Aeth pedair blynedd heibio ers i Ceri Wyn Jones gymryd yr awenau fel meuryn Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, gan osod ei stamp ei hun ar y gyfres yn syth drwy wobrwyo tîm y Glêr yn bencampwyr yn 2012! Cynnyrch amrywiol y cyfnod hwnnw – yn limrigau a phenillion telyn a chywyddau a sonedau – yw cynnwys y gyfrol ddifyr hon, Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas).

Lansiwyd y gyfrol mewn talwrn arbennig (beth arall?) rhwng trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth ym mis Tachwedd eleni, lle darllenodd Hywel Griffiths – aelod o dîm anhygoel y Glêr – yr englyn hwn ar gyfer y dasg gyntaf y noson honno, sef 'trydargerdd: hysbyseb bachog i'r gyfrol':

Cân ein cur, canon Ceri, a sŵn bît
        Sin y beirdd sydd ynddi,
    Cyfrol o glecs mor secsi,
    Rhydd a chaeth, mae'n rhodd i chi!


​Mae holl gynnyrch y talwrn ar gael i'w ddarllen ar lein fan hyn, ac mae'r recordiad ar gael tan 18 Rhagfyr.
Picture
Ar ôl cryn sibrwd a rhincian dannedd a darogan y byddai 2016 yn siŵr o gicio'r bwced cyn i'r Barddas diweddaraf godi ei ben dros y parapet – dyma gael drwy'r post rifyn y gaeaf o'r cylchgrawn hynod! A hwnnw'n rhifyn trwchus hefyd, yn llawn colofnau difyr ac ysgrifau ac adolygiadau, yn ogystal â llu o gerddi, wrth gwrs.

Mae talp helaeth o'r cylchgrawn yn tafoli cynnyrch barddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni eleni, lle enillwyd y Gadair gan fy nghyd-bodlediwr hoff, Aneirin Karadog. Dyw hi ddim yn gyfrinach mai fi oedd yn ail i Aneirin yn y gystadleuaeth honno, ac mae fy awdl i ar y testun 'Ffiniau' ar gael i'w darllen yn y Barddas cyfredol.

Cafodd yr awdl ei hysbrydoli gan daith lenyddol i ddinas Mwmbái yn 2014, lle bûm yn crwydro'r ddinas yng nghwmni cyfaill agos imi, ac un o feirdd Saesneg amlycaf India, Sampurna Chattarji. Cefais fy nharo gan y ffaith fod rhan o'r ddinas – Kala Ghoda – wedi ei henwi ar ôl cerflun du o geffyl a marchog a oedd yn arfer sefyll mewn man amlwg yno. Edward VII yw'r marchog hwnnw – Ymerawdwr India yn ei ddydd, ymhlith pethau eraill, ond Tywysog Cymru ydoedd pan grewyd y cerflun, a'r teitl 'Prince of Wales' sydd wrtho o hyd ym Mwmbái. Ond pan ddaeth India'n wlad annibynol yn 1947, symudwyd yr hen Edward truan a'i geffyl i sw leol, lle mae'n cadw cwmni heddiw i lu o adar egsotig …

​Cofia hefyd fod dau addasiad newydd i blant gen i yn y siopau gan wasg Atebol (sy â gwefan newydd sbon), ac mae'r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn O'r Pedwar Gwynt allan hefyd (ac ynddo gywydd marwnad arbennig i Gwyn Thomas gan Peredur Lynch).

If you're in need of some festive stocking-fillers, then look no further! Poet Ceri Wyn Jones, presenter of BBC Radio Cymru's flagship poetry programme, Talwrn y Beirdd, has gathered together the crème de la crème of the last five seasons into Pigion y Talwrn, including poems by the greatest poetry team this side of the Nile – Y Glêr! The latest edition of Barddas is out too, with articles, reviews and lots of poems, including my awdl that came second in this year's Chair competition at the National Eisteddfod in Abergavenny. It was inspired by a recent visit to Mumbai, where I was whisked around the city by a good friend of mine, one of India's foremost English-language poets, Sampurna Chattarji. Also out are two adaptations for children by me from Atebol (check out their new website).
0 Comments



Leave a Reply.


    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio