eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Pencampwyr y Talwrn 2017!

6/8/2017

0 Comments

 
Ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, daeth tîm y Glêr yn fuddugol yn rownd derfynol Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Ges i ac Osian, Iwan a Hywel ddim cyfle i ddathlu ar ôl y recordiad yn y Babell Lên – ond debyg y cawn ni ddigon o gyfleon yn nes ymlaen yr wythnos hon! Roedd hi'n ornest agos iawn rhyngon ni a'r Ffoaduriaid, ac roedd y rheini'n brin o ddau, gan fod Gruffudd a Gwennan wedi dod yn rhieni ddydd Mercher. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw, a chroeso i'r byd i Ddyfed Arthur. Llongyfarchiadau hefyd i Llion Jones o dîm Caernarfon am ennill Tlws Dic Jones am y gerdd gaeth orau yn y gyfres eleni, ac i'n Osian ni am ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau – clicia fan hyn i ddarllen y delyneg honno ar wefan Osian.

Gelli wrando'n ôl ar y ffeinal fan hyn unrhyw bryd cyn diwedd Awst.

Wele hunlun o'r llwyfan, a hwnnw mewn du a gwyn rhag iti gael dy ddallu gan ddrêps porffor newydd y Babell Lên! A bod yn deg, mae'r babell yn edrych yn llawer gwell ac yn fwy agos atat ar ei newydd wedd, a'r gynulleidfa i'w gweld yn llawer mwy cyfforddus ar y seti rhydd – da iawn wir.
Picture
Mae holl gynnyrch y gyfres ar gael i'w ddarllen ar lein ar wefan y Talwrn. Mae'r dolenni isod yn dy arwain at gynnyrch y Glêr ar hyd y daith, ac mae'r cerddi byrion yn rhoi blas bach o'r gwaith.

Trydargerdd 'Neges yn addo dialedd' gan Iwan Rhys o'r rownd gyntaf yn erbyn Ffostrasol:

RT @realDonaldTrump
Marciau isel gan Ceri Wyn!
Trist! Rhaid inni newid hyn!
Dagrau’r bluen eira wen!
Let’s Make The Talwrn Gerallt Again!

Trydargerdd 'Bwydlen' gan Osian Rhys Jones o'r ail rownd yn erbyn Criw'r Ship:

Ei ffelaffel a hoffaf, a'i hwmws
        A'i gwymon goruchaf,
    Ond drwy'r ŵyl yn daer holaf,
    A oes sglods a sgods a gaf?

Cwpled caeth gan Hywel Griffiths er cof am anifail fferm o'r rownd gogynderfynol yn erbyn Criw'r Llew Coch:

Mi wn mai galar yw'r 'mwww' –
Am riteiro mae'r tarw.

Triban beddargraff garddwr neu arddwraig gen i o'r rownd gynderfynol yn erbyn Tir Iarll:

Er hau dy hadau gleision
O dan dy rododendron,
Fe wledda'n ysgafala sgwod
O wlithod ar d'olwythion.

On Saturday the supergroup of poets known as Y Glêr won Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru's flagship poetry programme. Follow the links above to both read and to listen to a feast of poetry.
0 Comments



Leave a Reply.


    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio