Daeth megis seren wib bodlediad Clera ola'r flwyddyn! Ac mae'n stoncar – sgwrs ddifyr iawn â'r bardd a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Llŷr Gwyn Lewis (gelli ddarllen ei awdl yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas), cywydd Nadoligaidd newydd sbon gan Anwen Pierce a'r holl eitemau arferol. At hynny, fe wahoddwyd Clera gan yr Urdd i recordio eitem am weithdy a gynhaliwyd yn y ddinas gyda'r prifardd Osian Rhys Jones a chriw o ddisgyblion lleol, a hynny ar gyfer llunio cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Diolch yn arbennig i Llio Maddocks am fod yn ohebydd gwych inni! Bydd y cywydd gorffenedig yn cael ei gyhoeddi ar Clera yn y gwanwyn. Mae'r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes neu, yn symlach fyth, isod.
1. Pwnco: englyn newydd sbon i'n noddwr hael, Llŷr James (05.00), a sgwrs â Llŷr Gwyn Lewis am yr awdl a anfonodd i gystadleuaeth y Gadair eleni (06.30) 2. 27.40 Pos rhif 10 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 33.00 Yr Orffwysfa: cywydd am ddeuoliaeth y Nadolig gan Anwen Pierce 4. 35.20 Eitem am yr hwyl o greu cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 5. 41.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 47.05 Y Newyddion Heddiw
The last Clera podcast of the year – available on both SoundCloud and iTunes – includes a fascinating interview with Llŷr Gwyn Lewis about a poem he sent to this year's Chair competition at the National Eisteddfod, a brand new poem by Anwen Pierce and an item on a poetry workshop held in Cardiff with the poet Osian Rhys Jones.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|