Tafla foncyff arall ar y tân – mae podlediad Clera cyntaf 2018 wedi cyrraedd! Mae'r podlediad ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes, a'r tro hwn yn trafod popeth o ganu mawl i dywysogion i ganu dychan i'r werin i ddod o hyd i amser i ganu yn y lle cyntaf. Ry'n ni'n trafod sut y dylid acennu geiriau estron mewn cerddi caeth, ac yn gofyn a oes lle heddiw i'r anterliwt fel ffurf ddychanol boblogaidd. Cafodd y drafodaeth ar yr anterliwt ei hysgogi gan berfformiad diweddar gan Gwmni'r Morlan yn Aberystwyth, sef anterliwt Donald Bricit a Stryd y Domen – diolch i John Roberts, y cyfarwyddwr, am ei gyfraniad i'r sgwrs. Diolch hefyd i fardd yr Orffwysfa'r mis hwn, Tudur Dylan Jones, am lunio cywydd hyfryd am bwysigrwydd arafu yng nghanol prysurdeb bywyd. Ac mae'n amlwg nad oes dim prysurach na Chlera mis Ionawr, sy'n cynnwys hefyd bos newydd gan Gruffudd Antur a'r holl eitemau eraill arferol. Blwyddyn newydd dda i'n gwrandawyr oll!
1. Pwnco: englyn newydd i'n noddwr hael, Llŷr James (09.00), a sgwrs wedi ei symbylu gan y prifardd Emyr Lewis ynghylch sut y dylid acennu geiriau estron wrth gynganeddu (09.40) 2. 18.40 Pos rhif 11 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 22.00 Yr Orffwysfa: cywydd o obaith i ddechrau'r flwyddyn gan y prifardd Tudur Dylan Jones 4. 24.40 Trafodaeth am yr anterliwt, yn sgil cynhyrchiad diweddar gan Gwmni'r Morlan yn Aberystwyth 5. 36.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 6. 42.35 Y Newyddion Heddiw
The first Clera podcast of 2018 has arrived, like a crackling log on a winter fire. And there are plenty of items to warm our listeners this month, from how to use words from other languages in cynghanedd to a discussion on the anterliwt – a Welsh poetic form of play that was popular in the eighteenth century and recently revived as political satire for a production in Aberystwyth. Available on both SoundCloud and iTunes.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|