Mae rhifyn Mehefin o bodlediad Clera (sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes) yn glompyn! Fe drion ni'n gorau i gwtogi'r cynnwys, ond y gwir da amdani yw bod toreth enfawr o bethau'n digwydd yn y sîn farddol ar hyn o bryd, yn cynnwys: sgwrs ag Elwyn Williams, gweinyddwr y Fedwen Lyfrau, a gynhaliwyd eleni yng Nghaerfyrddin ddiwedd Mai; recordiad arall o'r Fedwen, y tro hwn o sgwrs am gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn rhwng Nei ei hun a Beti George, dau o feirniaid y gystadleuaeth eleni; sgwrs â bardd a anrhydeddwyd yn y Fedwen eleni ac sy wedi lansio cyfrol newydd o gerddi, Cyrraedd a Cherddi Eraill (Barddas), sef y prifardd Alan Llwyd; cerdd newydd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, o'i gyfrol newydd o gerddi, Cuddle Call? (Gwasg Carreg Gwalch); sgwrs ag Elis Dafydd am ffilm a gynhyrchwyd ganddo'n ddiweddar ar gyfer cynhadledd i ddathlu gwaith y diweddar Gwyn Thomas; a sgwrs ag Idris Reynolds a rhai o aelodau ei ddosbarth cynganeddu am gyfrol newydd o'u gwaith, I Gofio'r Gaeafau. Hynny i gyd a'r holl eitemau arferol – ffiw!
1. Sgwrs gychwynnol, ac englyn newydd sbon i Lŷr Hael (04.15) gan Gruffudd Antur 2. 06.05 Sgwrs ag Elwyn Williams, gweinyddwr y Fedwen Lyfrau 3. 09.20 Sgwrs am gategori barddoniaeth LlYF a recordiwyd yn y Fedwen Lyfrau 4. 19.00 Pos rhif 15 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 22.45 Sgwrs ag Alan Llwyd am ei gyfrol newydd, Cyrraedd 6. 32.05 Yr Orffwysfa: 'Lôn Sidan y Syniadau' gan Ifor ap Glyn 7. 35.00 Sgwrs ag Elis Dafydd am y diweddar Gwyn Thomos 8. 52.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.01.55 Eitem am gyfrol newydd gan ddosbarth cynganeddu Idris Reynolds 10. 01.06.40 Y Newyddion Heddiw
June's edition of the Clera podcast is a monster! Available on both SoundClound and iTunes, this month's feast has three items from Y Fedwen Lyfrau (an annual book festival held this year in Carmarthen), including a discussion on the Wales Book of the Year Welsh-language poetry category, as well a poem by the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn, from his new collection, Cuddle Call?, and a talk with poet Elis Dafydd, creator of a recent film celebrating the work of the late Gwyn Thomas.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|