Mis Mai oedd hoff fis Dafydd ap Gwilym, ond eleni mae Mehefin wedi bod yn hael iawn, iawn â'i heulwen, wir! Mae podlediad Clera ar gael, fel arfer, ar SoundCloud ac ar iTunes, a'r tro hwn yn cynnwys sgwrs fer ag Osian Owen, prifardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cerdd newydd – ecsgliwsif, yn wir – gan Mererid Hopwood, a sgwrs â Morgan Owen, un o lenorion y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli eleni. Hynny i gyd a'r holl eitemau arferol – yn cynnwys eitem newyddion doreithiog iawn – a phwnco difyr yn trafod gwaith llenorion Cymraeg oddi cartref (yn cynnwys Elis Gruffudd), gan ofyn y cwestiwn – ar drothwy hunan-alltudiaeth Nei i Lydaw bell – a yw gadael Cymru am gyfnod yn rhoi golwg newydd i lenor ar ei iath a'i wlad.
1. Croeso ac englyn o fawl i Llŷr James (03.30) 2. 04.10 Sgwrs ag Osian Owen, prifardd Cadair yr Urdd 3. 06.40 Pwnco: beirdd a llenorion alltud 4. 20.45 Pos rhif 16 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 24.10 Yr Orffwysfa: 'Rhwng Tri a Phedwar' gan Mererid Hopwood 6. 26.35 Sgwrs â Morgan Owen yng Ngŵyl y Gelli 7. 34.55 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 41.15 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – includes visits with two of Wales's most popular cultural highlights, the Urdd Eisteddfod and the Hay Festival, as well as new poetry by Mererid Hopwood and, in anticipation of Nei's upcoming sujourn in Brittany for a year from the end of August, a discussion on Welsh writers who have lived and worked far from home, including Dafydd ap Gwilym, William Salesbury and Elis Gruffudd.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|