Ddoi di gen-i?
Ddoi di gen-i i Geredigion, Lle ma’r gole’n llenwi’r galon, Lle ma’ uno lli a mynydd, Lle ma’ donie’n ca’l adenydd? Dere i sir yr hen drysore, Ma’ hi’n lloches sy’n dal hanes rhwng dalenne, Sinema’r machlud, llwyfan hudol I ddrudwyod a’u dawns hynod, sydyn, swynol. Ddoi di gen-i i’r arfordiroedd? Dere’r bore i’r aberoedd, Ac i droedio gyda’r hedydd Drwy’r prynhawn ym mawn y mynydd; Mi weli o hirbell ymyl harbwr, Lle cei dithe ofal murie fel y morwr, A gweld, drwy’r awyr uchel – ’drycha! – Disglair wylan serch yn hedfan dros warchodfa. Ddoi di gen-i i’r tonne gwynion Ac i drefi gyda’r afon? Ddoi di gen-i? Bu ar gynnydd Er cyn co’ rai’n canu cywydd; Dere i’r sesiwn – bu ers oese Gwrw’n gymysg â gwin addysg yn neuadde Athrofeydd ei threfi hefyd; Gweld wnei dithe nad yw’n donie’n oedi ennyd. Calon cenedl, cist ei chwedle A stôr awen ei storïe, Bwrdd cyd-gwrdd ar feysydd gwyrddion, Seintwar saga’r tywysogion; I Ystrad-fflur, yn wŷr arwrol, Doent o’r cestyll i ymgynnull – yma i ganol Yr hen wlad fe ddôi treftad’eth Cymru gyfan, a châi darian ei chadwr’eth. Ddoi di gen-i i Geredigion? Gwn y doi! Ni bydd cloi cloeon Lle ma’ uno lli a mynydd, Lle ma’ donie’n cael adenydd; I mewn â’r teid, nawr ti yw awdur Cyfrol newydd yr holl lefydd, clorie llyfyr Iti yma’m mhob un tymor Yw rhai gleision Ceredigion: cer di i’w hagor. |
Cerdd i gefnogi ymgyrch Aberystwyth a Cheredigion gyfan i ennill statws Dinas Llên UNESCO. Cynhyrchwyd y fideo hyfryd isod gan Scott Waby, ac ef hefyd a fu'n gyfrifol am ffilmio lleoliadau ar hyd a lled y sir.
Dyma fersiwn Saesneg o'r gerdd: Ceredigion Starts | December 2024. Mae mwy o wybodaeth ar wefan yr ymgyrch: https://cityofliterature.wales/hafan. A poem to support Aberystwyth's and Ceredigion's campaign to gain UNESCO City of Literature status. The lovely video above was produced by Scott Waby, who was also responsible for filming locations all over the county. An English version of the poem is available here: Ceredigion Starts | December 2024.
|