Gŵyl y Castell
Mae’n Aber ŵyl. Mae’n hen bryd! Dethlwch, a chwifiwch hefyd Rif y sêr o faneri, Rhennwch a hyrwyddwch hi, Dewch o bell i gastell gŵyl Ar derfynau’r dref annwyl. Mae ’na ŵyl man na welwyd Affliw o ddim lliw ond llwyd; Chwalwn y garsiwn a’r gard, A dadwneud cadwyn Edward, Trown gastell y fwyell fain Law yn llaw’n gastell Owain. At ŵyl i bawb o’r teulu Heidio mae talentau lu, Drwy’r dre, ni chei fargen fwy Na’r Sadwrn amhrisiadwy; Am gìg, ni chei gynnig gwell: Nid yw’n costio’n y castell! Dere i’r ŵyl, nid ar alwad Didostur i gyrchu’r gad, Ond ar alwad curiad cân Arwyr llafar y llwyfan, Hedleinyrs mae’u dylanwad I’w glywed ledled y wlad. Be well i gastell na gìg? Gwell yw castell acwstig Nag un distaw gwrandawgar Ei gell a’i borth, a gwell bar O gwrw da nag o’r dur I dref heb brinder yfwyr! I’r dre, dere heb darian Galed hyll na ffaglau tân; Y gatrawd, gad hi gytre, Haid rydd sy’n galw’n y dre Yn Gymraeg yma am ragor, Am ‘fwy, mwy, mwy!’ uwchlaw’r môr. Yn nawns y don nos a dydd, Clyw dôn caneuon newydd; Daw i’r unlle’n daranllyd Y bandiau gorau i gyd; Glyw di’r gân? Sigla drwy’r gìg. Mae’n hiaith yma’n anthemig. I gìg yng Ngheredigion, Rhwng Teifi, Dyfi a’r don, Dewch i gyd, newidiwch gêr, Dewch, bawb, dewch heibio i Aber Yn dorf fwyn i’r dref annwyl, Dewch o bell i gastell gŵyl. |
Un o gerddi Bardd y Dref yw hon, cywydd croeso i Ŵyl y Castell yn Aberystwyth fis Medi 2024. Mae'n hawdd anghofio bod y castell sy heddiw'n adfeilion wedi ei godi fel rhan o goncwest Edward I, ac mai ei unig ddiben oedd gorthrymu'r Cymry a'u cadw o dan reolaeth Lloegr. Hawdd anghofio hefyd fod Owain Glyndŵr, dros ddwy ganrif yn ddiweddarach, wedi cipio'r castell yn ystod ei wrthryfel yn erbyn Harri IV. Y castell hwn, yn wir, oedd un o gadarnleoedd grymusaf Owain am flynyddoedd lawer, a bu hynny'n bwnc cerdd arall a luniais i ddathlu diwrnod Owain y llynedd: Gwarchae | Medi 2023.
Eleni, mae'r ffaith fod y castell yn lleoliad i ŵyl sy'n dathlu Cymreictod yn beth i'w ryfeddu. Mae ein dyled yn fawr i'r bobl weithgar a fu'n trefnu ac i'r sefydliadau a fu'n ariannu'r ŵyl. Am fersiwn pdf o'r poster, clicia ar y llun isod. A poem written as Bardd y Dref to celebrate Gŵyl y Castell, a Welsh-language music festival held in Aberystwyth castle in September 2024. For a pdf version of the poster, click on the image above.
|