Gwnawn
Drigolion Aber a thu hwnt, Os dweud mae rhai mai lle bach brwnt Yw’r byd i gyd, a chwerw iawn, A ddwedwn ni’n wahanol? Pan welwn ni’n harweinwyr clyd Yn gwatwar cychod bach y byd, Y dre hon, ni, a drugarhawn, Ac estyn llaw groesawgar? Pan ofnwn nad achubwn ni Yr iaith, a wnawn, fel Jeremy, Ailgodi ein baneri’n uwch, A galw ar gyd-ddynion, clywch! Ac achub ar bob cyfle a gawn I’w siarad fesul sillaf? Pan ddygir arian prin y tlawd I dalu am foms, a godwn fawd A gofyn, plis, gaiff Cymru siâr O’r arian cochion cas sy’n sbâr I fildio tancs ym Merthyr? Neu A feiddiwn ofyn cyn eu creu Beth gollwn ni, nid beth a gawn? A feiddiwn ninnau ofyn? Pan sguba stormydd garw’r byd Nes dwyn ein nerth a’n taro’n fud, A godwn ni a sgubo’r traeth Yn ôl o’r prom i’r lle y daeth, Neu dim ond cwyno am y mès? A wnawn ni’r pethau bychain nes Y trown nhw’n bethau mawr a llawn Addewid fory nesa’? Pan welaf i’r sgwâr hwn yn llawn, Fe welaf ynoch, bawb, y ddawn I gydweithredu: trugarhawn, At wres ein gilydd, agosawn, I eiriau Dewi, ufuddhawn, Na ddigalonnwn, llawenhawn, A chadwn ym mhob calon lawn Yn ddyddiol ym mhob peth a wnawn, Bob nos a bore a phrynhawn, Y llw a dyngwyd yma … |
Cerdd yw hon a ddarllenwyd ym Mharêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth 2025. Tywysydd y parêd y flwyddyn honno oedd Jeremy Turner, cyn-gyfarwyddwr Theatr Arad Goch a gŵr rwy'n ei edmygu'n fawr am iddo, ochr y ochr â'i wraig Mari, wneud cymaint o gyfraniad i fywyd yn Aber a thu hwnt. A'r gair pwysig yw 'gwneud' – gofynnais i'r gynulleidfa yn Llys y Brenin y diwrnod hwnnw ddod â phob pennill i ben drwy ddweud yn uchel deitl gwreithredol y gerdd.
This poem was read in Aberystwyth's St David's Day Parade 2025. I asked the crowd to help finish each verse by saying aloud one word, 'gwnawn': we will. Will we do what we can to make Aberystwyth, Wales, and the world a better place?
|