I Gyfarch Erin
Tyrd, Erin, i'r tir dyrys – i adfer Hyder bro ddifrodus Yr ŵyl, ac ymlid ar frys Ofid y gwynt dolefus. Erin, ag awch, saernïo gwaith – a wnest, A'i wneud yn gyfanwaith, Wyt, Erin wych, yn trin iaith Er neb i'w chwyldroi'n obaith. Ara' dwf, hir a dyfal – i fesen, Ond ar faes dihafal Gyda'r melfed a'r Fedal, Coded Mesen, derwen dal. O rym a dewrder, hiwmor – a dawn dweud, Nid awdur wyt rhagor, Rwyt ti'm mro Deifi, dan do'r Brifwyl hon, yn Brif Lenor. |
A series of englynion presented to Sioned Erin Hughes, the winner of the Prose Medal at the National Eisteddfod.
|