Merêd a Phyllis
Gorau gŵyl, gair ac alaw, Awen a llais law yn llaw, A gorau dau ym mhob dull, Dau ganwr yn cydgynnull, Dau lawlaw â’r alawon, Cynheiliaid enaid y dôn. Yn chwarel cainc a thelyn, Cloddient â’u talent cytûn, Tynnu o greigiau’r geiriau gynt, Cael awen hen ohonynt, A rhofient i’w rhoi hefyd Yn aur byw i Gymru a’r byd. Yr un, ym mwthyn Bryn Mair – neu firi Boston fawr, fu’r cywair, Rhoddent linell o gellwair I sêr ffilm a seiri ffair! Ac yn eu co' roedd storws I'r un a ganai'n eu drws, Câi hen groeso'r cyngor call, Rhan y ddau o'r hen ddeall; Rhannent a glywent heb glo, A chlywn eu hymchwil heno. Bydd byw fel newydd eu hen, hen ruddin Tra cân deg agos, tra cnwd ac egin, Tra rhoir rhyw werth ar wylo a chwerthin, Tân at y gaeaf, sŵn tant ac ewin, Tra henddysg grefftus, tra sgrin – i’w gwylied, Tra lôn agored, tra alawon gwerin. |
Cerdd yw hon a gomisiynwyd gan yr Ŵyl Cerdd Dant yn Aberystwyth, 2025, i ddathlu dau a wnaeth gymaint dros ganu gwerin, Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Bydd y sawl a gyfarfu'r ddau'n cofio'n dda eu caredigrwydd, eu hangerdd a'u hwyl, ac mae llawer iawn o ymchwilwyr – a'm chwaer, Leila, yn eu plith – yn tystio i'r croeso cynnes ac i'r cyfarwyddyd hael a gawsant yn Afallon, cartref y ddau yng Nghwm Ystwyth. Bydd cenedlaethau'r dyfodol, at hynny, yn fawr eu dyled i'w gwaith mawr ym maes alawon gwerin.
This is a poem commissioned by Yr Ŵyl Cerdd Dant in Aberystwyth in 2025 to celebrate two who did so much for folk singing, Meredydd Evans and Phyllis Kinney.
|