Y Goeden Nadolig
Be wnei-di, goeden gadarn gre’, Mor bell o’r coed ar sgwâr y dre? ‘I’r coed â’i fwyell fawr daeth gŵr, A’m gosod yma i sefyll, siŵr.’ Ai gwell y pridd, hen goeden fawr, Na llwydni’r palmant plaen ar lawr? ‘Mae ’nhraed i’n oer iawn, yden’, ond Mae’n ddifyr sefyll yma’n stond.’ Be weli di, hen goeden dal? ‘Mi welaf i fod mwy i wal Na sment a brics, a mwy i dre Na phalmant stryd a gorsaf drên.’ Wel, paid â malu, goeden ffôl! ‘Na, wir i ti, o’r sgwâr yng nghôl Y dre fach hon, mi glywaf i Garolau llawen ger y lli.’ Be arall glywi di, hen bren, Rhwng heol yr Hen Gol a’r Gen? ‘Dwi’n clywed lleisiau heb eu hail Holl blant y dre – a Ioan Guile.’ Ai gwell eu lleisiau, goeden hud, Na’r adar mân yn gân i gyd? ‘Llawn cystal lleisiau’r gân, os gwell, Ag adar bach y goedwig bell.’ Am beth yr o’n-nhw, goeden werdd, Eleni’n mynnu canu cerdd? ‘Am gariad, er pob trais a sen, Nad yw byth yn dod i ben.’ Ond byddi di, hen goeden hardd, Cyn hir yn mynd, gan siomi’r bardd! ‘Daw’r cariad hwn o farw’n fyw, Fel fy nodwyddau, bythwyrdd yw.’ A fedrwn, goeden fawr y stryd, Wneud rhywbeth i dy gadw’n glyd? ‘Lapiwch o’m cwmpas olau’r sêr Yn llaes fel siôl obeithiol bêr, Ac yn y flwyddyn newydd sbon, Pan gewch chi’n ôl y sgwâr fach hon, Na pheidiwch chi â g’leuo’r dre, Goleuwch eraill yn fy lle.’ |
Cerdd i ddathlu goleuo'r goeden Nadolig ar Sgwâr Glyndŵr yn Aberystwyth. Daeth torf fawr i wylio'r orymdaith lusernau a chynnau'r goeden, a diolch i bawb a fu'n trefnu'r digwyddiad arbennig.
Dyma fersiwn Saesneg o'r gerdd: Oh, Christmas Tree | December 2024. A poem to celebrate the lighting of the Christmas tree on Glyndŵr Square in Aberystwyth. A large crowd came to watch the lantern parade and the lighting of the tree, and thanks to everyone who organized this special event. For an English version of the poem: Oh, Christmas Tree | December 2024.
|