Arad Goch
ar ei newydd wedd Mae yn y dre ddirgelion, Mae yn y dre wahoddion, Mae yn y dre un lle sy'n llawn – Os awn – o hud a swynion. Doi heddiw o hyd iddo Lle gweli'r haul yn gwawrio, A sglein cylltyrau arad cain O haearn cywrain arno. Mor rhwydd yw agor drysau Heb guro, heb ddweud geiriau, A hwylio i mewn i neuadd fawr Bum llawr rhwng cyfyng furiau. Der mas i wres y croeso, Der mewn i'r dramâu heno, Der nôl drachefn … ond siawns gen i Na weli'r holl ddirgelion! |
Ddiwedd Medi 2019, cynhaliwyd diwrnod agored yn adeilad Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth er mwyn nodi agor yn swyddogol fynedfa newydd yr adeilad ar Stryd y Baddon. Lluniwyd y gyfres hon o dribannau ar gyfer yr achlysur hwnnw. Cyfeirir yn yr ail bennill at waith celf hardd a gomisiynwyd gan y gof Ann Catrin Evans i'w osod uwchben y drws ar flaen yr adeilad.
A poem to mark the opening of Cwmni Theatr Arad Goch's brand new front entrance on Bath Street in Aberystwyth.
|