Ni 'da chi, bois
’Welodd neb hyn yn dod. Pawb yn codi Eu llygaid yn un haid ac yn oedi, A thân hawdd ein hafiaith ni – a’i wres braf Yn gwanhau’n araf, ac yna’n oeri. Beth yw stadiwm, dwed, heb dorf unedig, A gwres ein ffwrnes heb ddau dîm ffyrnig? Beth yw lle mewn pandemig? Beth yw cae Heb arno chwarae, ond brwyn a cherrig? Y stadiwm hon, mor astud ei meini, Yw caer y tair coron, cartre’r cewri, Lle tân o hafan oedd hi – ein draig flwydd, Ein pryd o danwydd, ein pair dadeni. Am heddiw, felly, oes modd, efallai, Aileni’r dadeni gynt a daniai, Na, nid mewn torf, ond mewn tai – bach di-sôn O Nedd i Fôn, o Gaerdydd i Fenai? Dewch, canwn, a chodwn y to chydig, Moriwn ein nodau dros Gymru unedig, Ac fel parêd berwedig – trown bob rhes O dai yn ffwrnes o danau ffyrnig. Os heddiw ffans hawdd a hoff o’n seddau Yn mwynhau annog yn wir ŷm ninnau, Heb angen trin pengliniau – na chlymu Asennau’n glasu na hen, hen gleisiau, Fe wnawn ein rhan o’r cefn, er hynny, A byw pob sgarmes, a’r lolfa’n c’nesu, Fel mewn sgrym, sgwyddau’n crymu – a thynhau, A’n holl gyhyrau fel pleth llwy garu. A dyma wres ein neges ni – ein tân I’r tîm o’n cartrefi: Safwn a chanwn ’da chi Yn y leinyp eleni. Dewch, bob un: ni ’da chi, bois. |
I gefnogi tîm rygbi Cymru yng ngemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, ces i fy nghomisiynu i lunio dwy gerdd arbennig gan Gymdeithas Adeiladu Principality. Darlledwyd fersiynau byr o'r ddwy gerdd – y naill yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg – ar y teledu a'r radio mewn hysbysebion wedi eu lleisio gan Cerys Matthews a'u cynhyrchu gan gwmni teledu Orchard. A'r argyfwng byd eang wedi gorfodi'r genedl i swatio mewn cartrefi ledled y wlad yn hytrach na chyrchu'r stadiwm yng Nghaerdydd, roedd y cwmni'n awyddus i atgoffa'r chwaraewyr ein bod ni gyda nhw o hyd, er gwaethaf pob dim. A bod eu hangen nhw arnon ni hefyd, wrth gwrs. Mewn byd lle aeth cyffwrdd yn beth i'w ofni, beth well nag ymgolli am ychydig yn y pleser o wylio dau dîm yn taclo ac yn gwasgu ac yn gwthio'i gilydd yn ddifaddau?
One of two poems commissioned by Principality Building Society to support the Welsh rugby team in the Autum Nations Cup. Read the English poem here.
|