Yn y Coch
Bybl i bawb yw Aber, Neuadd fawr tair blynedd fer, Swigen aur lle swigiwn ni O afael ein cartrefi  dim i'w wneud ond mwynhau Diodydd a nodiadau. Ond mae'n fybl mewn dyled, Bybl lawn ar ymyl blêd. Tyllwn ni'r twll yn y wal Â'i gan ceiniog i'n cynnal; Â'r peiriant arian taerwn: 'Un tenyr, syr!' yw ein sŵn. Nythwn ym mhlygion eithaf Overdraft o Fedi i'r haf, A gwariwn am y gore Ein haur yn adrannau'r dre, Adeiladu dyledion Di-hid yn nhafarndai hon. Ac, un dydd, dan glogyn du, Un dydd i'n hanrhydeddu, Bwriwn, bawb, yr hen bybl Efo'n gorymdeithio dull, A rhannwn â'n rhieni Ei theilwng gynhebrwng hi, Ein bybl ni, heb wybod Heno, er byrstio, ei bod I'r radd hon yn ei rhyddhau Ar un amod, rwy'n amau, Amod ein bod heb oedi'n Ymroi i'r swm a roes hi. Cawsom o'i banc swm bob un, Wodiau hirfaith diderfyn O eiriau crisp, pentwr crwn Nefolaidd bob o filiwn, Iaith i'w dweud wrth heidio i dŷ, Iaith i'w gwario wrth garu. Cawsom lond llaw, bawb, o hyd O iaith fân, iaith y funud, Pob rôg fu'n gwario geiriau'n Y Cŵps ar ôl amser cau, Pob hogan fu'n eu canu Yn wyllt iawn yn y Llew Du. Os mawr swm a roes yma Am siarad iaith amser da, Ledled y wlad ei leihau A wnawn wrth yngan enwau Ein gwlad faith yn ein hiaith ni, A'u hyngan rhag eu trengi. Cawsom y siec, a s'im sôn Am log neu geiniog union; Hon yw siec yr holl sieciau, Siec yr iaith i sicrhau Nad hwyl fawr y tâl a fu, Na rhith fawr iaith yfory. Tra bybl, tra bo Aber, Tra tref fôr, tra tair awr fer, Delwn oll, fe dalwn ni Ein dyddiol ddyled iddi. Daliwn ni i dalu'n ôl Ar dafodau'r dyfodol. |
Ym mis Gorffennaf 2010, a hithau'n dymor graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ces wahoddiad i fod yn siaradwr gwadd yn seremoni raddio Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Pan raddiais innau nôl yn 2003, daeth neb llai na Dafydd Iwan i ddweud gair pan gynhaliwyd y seremoni yng Nghapel y Morfa. Doedd gen i ddim cof beth ddywedwyd y prynhawn poeth hwnnw, ond dwi'n cofio iddo chwarae'r gitâr yn y pulpud.
Wn i ddim sut i chwarae gitâr, ond fe wn i gywydda! Dyma feddwl am yr hyn a oedd yn wynebu'r graddedigion – roedd gobaith newydd, wrth gwrs, ond roedd hefyd ddyledion ariannol i'w talu am flynyddoedd i ddod. Rhag digalonni pawb cyn dechrau, felly, dyma daro ar ddyled wahanol – dyled ieithyddol. Mae mynd i'r coleg yn Aberystwyth a dod yn aelod o UMCA fel agor cyfri newydd sbon ym manc y Gymraeg, a chael clamp o fenthyciad wrth wneud. Fy mhrofiad i oedd symud o ysgol uwchradd lle roedd siarad yr iaith y tu hwnt i'r dosbarth yn beth digon henffasiwn yng ngolwg llawer, ac amrywiaeth tafodieithol yn beth i'w ddirmygu. Roedd Aber yn hollol wahanol – Cymraeg o fore gwyn tan nos, a thafodieithoedd Gwynedd, Clwyd, Sir Gâr, Penfro, y canolbarth a thu hwnt i'w clywed drwy'r trwch. Dyma ddyled yr ydw i hyd heddiw wrth fy modd yn ei thalu'n ôl. A poem written for the UMCA graduation ceremony at Aberystwyth University in 2010. As a former student of Aberystwyth, I'm fully aware that three years spent enjoying life – and studying – almost exclusively through the medium of Welsh is something to treasure. Graduates leave Aber with debt – not merely financially, but linguistically too. And the only way to repay that debt to the Welsh-language is to keep on speaking it wherever life takes us.
|