Seren Fach
a Llusernau Fil Os anodd dweud eleni Pa un sy gryfa’ i gyd, Ai’r golau, ai’r tywyllwch Ar hyd a lled y byd, Os amau wnawn, haws bod yn siŵr Yn lleisiau’r plant ar Sgwâr Glyndŵr. Gan lampau dirifedi Diferu mae’r Stryd Fawr, A thyfu mae canhwyllau’n Calonnau fesul awr, Aeth un yn ddau, nes cynnau’n sgil Un seren fach lusernau fil. Yng ngolau’r holl ffenestri, Chi’r plant fu’n cyfri’r coed, Ond mae rhai mwy i’w ffeindio – A welsoch rai erioed Mor wych â’r pedair coeden wen A’r un fawr werdd mor bell uwchben? Cydganwn, bobol Aber, Nes dweud i bellter byd Nad t’wyllwch, ond goleuni Sy ’leni’n gryfa’ i gyd, Er mwyn y lleisiau sy mor siŵr, Goleuni Duw ar Sgwâr Glyndŵr. |
I ddathlu goleuo tref Aberystwyth yn 2023, dyma gerdd i ddathlu'r orymdaith lusernau flynyddol. Clicia ar y ddelwedd isod i agor copi pdf ohoni. Mae'r gerdd Saesneg ar gael fan hyn: Sea of Lanterns | December 2023. I ddarllen cyfieithiad Iseldireg gan Margriet Boleij a Mary Burdett-Jones, clicia fan hyn: https://lluniadau.com/nl/elementor-3710/.
With the lantern parade and carols this year, a poem to celebrate the lighting of the town. Click on the image above to open a pdf copy. The English poem is available here: Sea of Lanterns | December 2023. To read a Dutch translation by both Margriet Boleij and Mary Burdett-Jones, click here: https://lluniadau.com/nl/elementor-3710/.
|