eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012

Awn Ninnau yn Bananas

Ym maes y bêl mae’r mis bach – yn ei ôl
       A’r hen elyn bellach
  Yn y drws, a hyder iach 
  Y curwn ei bac … hwyrach. 

Mae’r hen ods i Gymru’n waeth – fel erioed,
       Fel yr hen elyniaeth,
   Ond rhag mynd nôl i Gatraeth
   Herfeiddiwn y rhifyddiaeth

Gyda’r hen awen heno – a galwn
       Y gelyn a’i herio …
   Gyda thân gadewith o,
   Gatland, England yn danglo!

Ar galonau’r gelynion – codwn ofn!
       Cadwn ni’r ffin yfflon!
   A daw i godi â’i dôn
   Glyndŵr galonnau dewrion!

Rhown ysbryd a rhown asbri – yr awen
       I’r chwaraewyr heddi
   Â’r gân fawr a ganaf i,
   Delwedd i’w hysbrydoli …

Ond er angerdd y gerdd, gwn – nad yw hi
       Ond awen lawn tensiwn
   Rhag cau ffrwyn y cyffro hwn;
   Oes, mae eisiau emosiwn

Yr anthem cyn y gêm, yn geg – i gyd,
       Ond mil gwell yw gosteg
   Y dyn nad yw’n gwylltio’n deg
   Â’i lais cŵl a’i seicoleg.

Aiff Shane yn broffesiynol – at y gwaith,
       At y gêm flynyddol,
   Nid ar ei hyd ond ar ôl
   Mae Shane yn emosiynol.

Mi gei di Mike gadw mas – a Stephen
       O’r stof ar y teras …
   Yma’n wyllt lle mae ’na ias
   Awn ninnau yn bananas!

​Rhwng 2010 a 2014 roedd y brif raglen foreol ar BBC Radio Cymru yn cael ei chyflwyno gan Caryl Parry Jones a Dafydd Du (Dafydd Meredydd bellach). Roeddwn i wrth fy modd yn gwrando wrth fwyta fy nghorn fflêcs, nid yn unig oherwydd yr hwyl roedd y ddau'n amlwg yn ei gael yn y stiwdio, ond am fod Rhaglen Dafydd a Caryl yn rhoi llwyfan yn achlysurol i farddoniaeth. Mae'n siŵr gen i fod eu bod, yn hynny o beth, wedi paratoi'r ffordd ar gyfer cyfres lwyddiannus Bardd y Mis ar Radio Cymru.

Dyma un o ddwy gerdd a luniais i'n arbennig ar gais Rhaglen Dafydd a Caryl (clicia fan hyn i weld y gerdd arall), sef cyfres o englynion i dîm rygbi Cymru'r ar ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012. Gall fod yn amhosib weithiau i gefnogwyr y tîm cenedlaethol gadw'n cŵl pan fo'r gêm yn agos, ond dyna'n union yw'r hyn y mae'n rhaid i'r chwaraewyr ei wneud ar y cae.
Picture

​A series of englynion about the ability of Wales's international rugby team to keep cool when it matters, while their supporters go bananas in the stands! Originally written for Dafydd and Caryl's breakfast show on BBC Radio Cymru. Click here for more poems written for the national radio station.
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio