Guto'r Glyn o Ddyffryn Ceiriog oedd y mwyaf o feirdd y bymthegfed ganrif, oes aur barddoniaeth glasurol yn y Gymraeg. Cafodd oes faith a bu'n teithio Cymru benbaladr er pan oedd yn ifanc iawn. Canodd gerddi i rai o Gymry mwyaf ei ddydd, yn cynnwys Herbertiaid Rhaglan ac abad Ystrad-fflur. Roedd yn feistr llwyr ar fesur y cywydd ac ar fesurau'r awdl, a gallai ganu ar y gynghanedd mor rhugl â phe bai'n siarad. Yn ŵr ifanc, gwasanaethodd ddug Iorc fel saethydd yn Ffrainc, bu'n byw am gyfnod fel bwrdais yng Nghroesoswallt ac, yn ei henaint, fe'i ymgeleddwyd yn abaty Sistersaidd Glyn-y-groes ger Llangollen, lle'i claddwyd.
Fel aelod o Brosiect Guto'r Glyn yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, bûm yn cyfrannu at y gwaith mawr ac arloesol o olygu holl waith y bardd. Mae'r golygiad cyflawn bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar lein ar Wefan Guto'r Glyn. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn darllen holl waith y bardd, yn cynnwys 36 a olygwyd gen i. Mae'r golygiad ar lein yn cynnwys aralleiriadau i Gymraeg heddiw, cyfieithiadau Saesneg a nodiadau helaeth ar faterion testunol ac esboniadol. Ni bu erioed mor hawdd darllen, dehongli a mwynhau barddoniaeth un o feistri'r canrifoedd.

Guto'r Glyn from the Ceiriog Valley was the greatest poet of the fifteenth century, the golden age of classical poetry in the Welsh language. He had a long life and traveled to every part of Wales from a young age. He sang poems for some of the greatest Welshmen of his day, including the Herberts of Rhaglan and the abbot of Strata Florida. He was a complete master of the cywydd metre, among others, and he could sing in cynghanedd as fluently as if he spoke. As a young man, he served the duke of York as an archer in France, he lived for a time as a burgess in Oswestry and, in his old age, he was cared for in the Cistercian abbey of Valle Crucis near Llangollen, where he was buried.
As a member of the Guto'r Glyn Project at the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, I contributed to the substantial and innovatory work of editing Guto's complete works. The edition is now available free of charge online on the Guto'r Glyn website. Click on the link above to read all of the poet's work, including 36 poems that I edited. The online edition includes modern Welsh paraphrases, English translations and extensive notes on textual and explanatory matters. It has never been so easy to read, interpret and enjoy the poetry of one of the greatest masters of Welsh poetry.