Old Farm Mews, Dinas Powys
Tŷ Seren, mwyaren Mai – Merlot mawr O liw mawn, o'r simnai I'r ddôr, Tempranillo'r tai, A Bwrgwyndy byw'r gwindai. Tŷ Cornel, tŷ'r ymwelwyr – tŷ'r hewl fach, Tŷ'r helô fawr brysur, Hafod cyfarfod dau fur, Tŷ popeth mewn pot pupur. Tŷ Caredig ddiddig, ddoeth – zinc a'i wres Sy'n crasu'r cwrt chwilboeth, Hafan, o'r porth i gyfoeth Y clochdy calch a du coeth. Tŷ Cerrig acw'n brigo – dros y tai, O'r drws teg i'r bondo, A'i wal fawr wen yn hwylio Lan fry ar wely o ro. |
Nid yw tai'r Old Farm Mews yn Ninas Powys yn tynnu'r llygad o'r ffordd – prin y gellir eu gweld o gwbl ar gyrion y sgwâr – ond o ddod o hyd iddyn nhw, mae'r pedwar tŷ newydd hyn yn rhyfeddol o unigryw. Mae eu henwau – Tŷ Seren, Tŷ Cornel, Tŷ Caredig a Thŷ Cerrig – yn adleisio eu cymeriad, o Dŷ Seren a'i waliau cochlyd i Dŷ Cerrig a'i waliau uchel, gwyn.
Lluniais y gerdd gomisiwn hon, sef cyfres o englynion sy'n ymateb i gymeriad pob un o'r tai yn eu tro, fel Bardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Roedd gofyn imi ymweld â'r adeilad newydd (a ddyluniwyd gan Hoole and Walmsley Architects) yn Ninas Powys, ac â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y dolenni isod i ddarllen y cerddi eraill.
● Stormy Castle, Bro Gŵyr (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Ffwrnes, Llanelli ● New Barn, Felindre ● Melin Talgarth (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Capel Galilea, Llanilltud Fawr A poem for Old Farm Mews in Dinas Powys, written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014. There are English versions of two other poems that formed part of the same commission, namely Talgarth Mill and Stormy Castle.
|