Cywydd croeso
'Steddfod Gudd/Amgen 2021 Awst arall … a'r un stori, Mis heb ŵyl a dim Maes B, A'r glaw'n oer, a glynu'n od Yn d'wddf mae sôn am 'Steddfod, Rhyw gae aur yn Nhregaron Heibio'r glwyd fel breuddwyd, bron. Ond tybed? Mae'n Awst wedyn, A'r cnau yn y perci'n wyn, Ac os gwag o eisiau gŵyl Yw'r haf, consuriwn brifwyl Ar y we sy'n rhoi croeso I'r hollfyd heb gost, dros dro. Agorwn sgrin, yna sgrôl Ar lein drwy ŵyl wahanol, Gwnawn Faes o'r ardd, a chwarddwn, Eistedd ar sedd a chreu sŵn Heb orfod cau'r drysau'n drwm; Gwisgaf het, gwasgaf fotwm! Yn ein tai, gwnawn bartïon, Ffrydio'r ffair adre ar ffôn; Dyma 'Steddfod blaen bodyn O bell sy'n gwahodd pob un Â'i hashtag, ble bynnag bôn', I dagio Ceredigion. Ond nid rhithiol hollol yw'r Ŵyl hud – na, real ydyw, A'i rhyddid wedi'i wreiddio'n Llwyfan y Ganolfan hon; O Aber i bellter byd, O unfan i'r cyfanfyd. Ydi, mae'n Awst yma'n ôl, A sŵn hwn sy'n wahanol Ar lein ond, wir, eleni Ddiwedd haf, ni welaf i Lond Awst o brifwyl nad oedd: Rhannaf ŵyl, a'i throi'n filoedd. |
A'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol, daeth cyfle i gynnal 'Steddfod wahanol yn 2021. 'Steddfod Goll a gafwyd y llynedd, ac eleni – 'Steddfod Gudd! Penwythnos o gerddoriaeth wych ar lwyfan fawr awyr agored yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a llond wythnos wedyn o arlwy amrywiol y 'Steddfod Amgen hefyd.
Roedd cael cais i lunio cywydd croeso i'r cyfan yn fraint ac yn her – y gair 'dewch' sy flaenaf fel arfer yn y math hwnnw o gerdd, ond doedd y ferf honno ddim cweit yn tycio eleni. Yn ei lle, dyma daro ar y gair 'rhannu' – rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â rhannu'r mwynhad yn un dorf fawr rithiol. Croeso i'r 'Steddfod blaen bodyn! With the National Eisteddfod once again postponed until 2022, a different kind of Eisteddfod was held, nonetheless, in the first week of August 2021. This poem was commissioned to welcome people from all over Wales and beyond to enjoy a weekend of live music ond Aberystwyth Arts Centre's outdoor stage, as well as a week-long line-up of online cultural events.
|