Yn y Coch
Ar Faes C, ar hen lecyn Hael a braf ar ymyl bryn Y castell yn Llanelli, Yn y patsh sownd pitsiais i Ac Iwan dent fawr lân, las, A llwyddo i gael lle addas Iddi hi yn y ddaear A oedd, wir, drwch hir dri char Neu fwy o bob carafàn, A lled dau dractor llydan Bant, o oedd, o bob un tent, Di-ail westy o lasdent. Heddiw'n gynnar daeth Pharo Heibio'n lord heb un helô, Camodd, mesurodd y seit, Arsiodd o gylch ein hirseit, A gwaeddodd ei gyhuddiad Dros brifwyl annwyl fy ngwlad - 'Chi 'di creu problem,' stemiai Yn chwerw, 'fois, chi ar fai!' Yn cŵl, llyncais Jaffa Cêc, Eistedd, tybio mai pistec Oedd ei araith gynddeiriog ... Oedais, roedd ei lais fel og Yn troi pridd y tir, 'pa ran O eiriau y peg arian Bach 'ma so ti yn deall?' Pesychais, gwenais yn gall, 'Y peg,' dwedais heb regi, 'Pan bitsiais, ni sylwais i Ar ei fodolaeth, waeth wedd Mewn gwair ddim un yn gorwedd Yma, wir, ar fy marw, Ni allai, wir, ar fy llw.' Bron i'n corddi ni droi'n hyll, Cododd ei lais fel cudyll - 'Alla' i garantïo, Iti, was, ei fod e 'to!' Melltith ar dy lith, hen lanc, Profa dy grap, yr afanc, Neu rho daw ar dy wewyr, Rho gorc ynddi'r bwli byr! Lladdodd, un dydd, Ddafydd hen Y gŵr smyg, ie, Rhys Meigen, Canodd, pwniodd â'r pennill, Dychan y sod â chan sill, Tawodd, ac fe ddropiodd Rhys Yn ded iawn - nid daionus. Ti, hen gi bach y gwahardd, Cei wers, byt - paid croesi bardd! |
Yn ôl ein harfer, fe godais i ac Iwan Rhys babell fawr las ar Faes C ar ddechrau wythnos y brifwyl yn 2014. Roedd y maes carafannau y flwyddyn honno ar dir Castell y Strade nid nepell o brif faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli. Yn anffodus, fe gawson ni ychydig o drafferth ar ôl codi'r babell, gan fod y swyddogion yn taeru ein bod ni wedi ei chodi hi'n rhy agos at begiau safleoedd carafannau. Roedden ni, wrth reswm, yn pledio fel arall. Mae'r stori yn y cywydd hwn yn wir, bob gair, fwy neu lai.
Drwy lwc, doedd dim rhaid inni symud y babell yn y pen draw. Ar ddiwedd y gerdd, dwi'n cyfeirio at gerdd ddychan gan Ddafydd ap Gwilym i ŵr o'r enw Rhys Meigen (cerdd rhif 31 ar wefan dafyddapgwilym.net). Yn ôl y traddodiad, ychydig ar ôl iddo glywed cerdd Dafydd yn ei ddychan, dyma Rhys Meigen yn syrthio'n farw yn y fan a'r lle. Rhaid bod ofn grym y beirdd ar swyddogion Maes C hefyd! Darllenais y gerdd yn noson wych Yn y Coch, a drefnwyd gan Osian Rhys Jones a Rhys Iorwerth (Bragdy'r Beirdd) ac a gynhaliwyd yng Nghlwb Criced Llanelli ar nos Fercher yr ŵyl. This poem was written and perfomed during the National Eisteddfod in Carmarthenshire, 2014. It recounts a more or less true story of pushy campsite stewards and two plucky poets who held their ground, literally, against them. The poem served to remind them of the terrible power traditionally attributed to the words of a Welsh poet.
|