Heddlu Dyfed-Powys
Rhowch bob notepad i gadw, Mae'n jiwbilî'r bois in blue! Nawr â'r cops yn hanner cant, Lle hawdd yw dathlu'u llwyddiant, Canmol hanner can mlynedd O droi'r rhod, o gadw'r hedd. I griw'r beat, mae bît y bardd, I dorf o'r fuzz, cadeirfardd; Pwy arall fyddai'n paru Hen firi llên efo'r llu, Neu'n urddo llanc yn fardd llys? Dwed, pwy ond Dyfed-Powys? O Lansilin i Solfach, Tyddewi, Cilmeri a Mach, Un sir i'r force yw o'r ffin I'r lli yn y gorllewin, Blanced o gymunedau O Faenor-bŷr fyny i'r bae. I'r llu wrth ddathlu, beth ddwed Am hynny bob cymuned? 'Diddiolch a diddiwedd Yw y draul o gadw'r hedd, Di-sôn am ein gweision gwae, Dison, nes bod eu heisiau.' A beth ddwed y bathodyn Yn ei gylch o arian gwyn? 'Cadwn, cynhaliwn yr hedd, Dyna'n rhaid a'n hanrhydedd, Am mai calon plismona, Onid e, yw enw da.' Wedi'r oes o gadw'n driw I heddwch, fe glywn heddiw'n Un gymuned gymwynas Yn seiren hir, glir y glas; Mae, bell draw, ar ambell dro, Yn seiren i'n cysuro. Chi weision, galon y gwaith, O'ch hoe yma, ewch ymaith Yn bobis triw i'r bobol, I'ch iau gymunedau'n ôl, Ewch i'r her ar ddechrau'r ha'n Weision i'r pum deg nesa'. |
Fy nhasg gyntaf fel bardd preswyl Heddlu Dyfed-Powys oedd llunio cerdd i ddathlu ei hanner canmlwyddiant fis Ebrill 2018. Mae rhan o'r cywydd yn sgwrs rhwng y cymunedau ar hyd a lled ardal enfawr Dyfed a Phowys, a'r heddlu sy'n eu gwasanaethu. Beth fyddai'r cymunedau hynny yn ei ddweud, tybed, ar achlysur fel hwn? Fe fentrwn i y byddai ein cymunedau'n achub ar y cyfle i ddiolch i'r heddlu am fod ar alw ym mhob cyfyngder, pan fo'u heisiau. A beth ddwedai'r heddlu, gan hynny? Pwysleisio'r ymroddiad anrhydeddus hwnnw i'n cymunedau, fe wn. Crisialir hynny mewn dau air sy'n britho'r gerdd, a'r rheini'n ffurfio'r gair gwych hwnnw, 'heddwas', sef y sawl a orchwylir i wasanaethu heddwch.
My first task as the Dyfed-Powys poet in residence – or force poet! – was to write a poem to celebrate the force's fiftieth birthday in April 2018. The poem is in part a conversation between the communities all across this vast area and the police who serve it. For the communities, the celebrations are an opportunity to thank the force for always being there when needed, and for the police also to renew their commitment. This alliance is encapsulated in the words 'hedd' and 'gwas' that chime throughout this poem, two words that form the Welsh word for policeman or police woman, 'heddwas': servant of the peace.
|