Rygbi Sir Gâr
Sir Gâr sy'n faes rhagori, Bro'r galon hirgron yw hi; Ym mhob tŷ, peth cry' fel cred Yw'r gêm hon drwy'r gymuned; Mae'n gêm o'r crud, mae'n fudiad, Ac mae hi'n gêm yn y gwa'd. O Wyn Jones i Barry John, Sefyll fan hyn mae'r safon; Creu hanes mae'r to nesa', Arwr yw Ken ar y ca'; O Ben-boyr i Ben-y-banc, Sêr Grav yw'r Sir Gâr ifanc. Pan fo'r donie'n serennu, A chege'n groch ac yn gry', A phob un 'da'i gily'n gôr, Yn un tîm ar ben tymor, O wlad i dra'th, ffald i dre, Sir Gâr sy ar ei gore. |
Lluniais y gerdd hon ar gyfer Prosiect Plethu Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023. Roedd yn bleser dathlu'r ffaith fod y sir yn ddim llai na phwerdy sêr rygbi, ac roedd yn fraint clywed y geiriau wedi eu gosod ar gerdd dant gan Nia Clwyd.
A poem to celebrate Carmarthenshire's wealth of rugby talent, written for the National Urdd Eisteddfod in 2023.
|