I Gyfarch Sonia
Ar fy llw, déjà vu'n fyw! Ond dy gamp Di i gyd sy'n unigryw; Mae'n haf ym Môn, yn fy myw, Ond d'ail Fedal haf ydyw. Ar dâl polion, llifo'n llaes – yma'm Môn Mae'r llumanau hirllaes Er clod i'r em o Gemaes, Ti Sonia a gymatha'r maes. A'r newydd da, Sonia, a seiniwn – ar led Drwy'r wlad o'r pafiliwn, 'Eiddo'r orchest?' yw'r cwestiwn – Pen awduron Môn, mi wn. |
Ym mis Awst fe ges i'r fraint o gyfarch enillydd y Fedal Ryddiaith yn y seremoni brynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn. Doedd dim angen imi chwilio'n hir am ysbrydoliaeth i lunio'r gerdd – mae'r awdur buddugol, Sonia Edwards, yn frodor o Gemaes yng ngogledd yr ynys ac, at hynny, hi a enillodd y Fedal y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld â Môn yn 1999 (Rhwng Noson Wen a Phlygain). Roedd llunio'r gerdd gyfarch yn brofiad hyfryd iawn – llongyfarchiadau eto i Sonia ar ei champ! Clicia fan hyn am fwy o wybodaeth am ei chyfrol fuddugol, Rhannu Ambarél (Gwasg y Bwthyn).
A series or englynion presented to Sonia Edwards, the winner of the Prose Medal at the National Eisteddfod on Anglesey.
|