Er Cof am Eifion Gwynne
Awyr ddu ar Ffordd Ddewi – a di-haf Wedi Eifion heddi Yw’r holl dref, a’r cartrefi A wnaeth yntau’n olau i ni. Eifion Gwynne, dim ond unwaith – Eifion Gwynne, Fwyna’ gŵr diweniaith, Eifion Gwynne ddiofn ganwaith, Ac Eifion Gwynne gefn y gwaith. Eifion Gwynne finiog ei ên – Eifion lyfn Ei lais ym mhob angen, Eifion Gwynne, addfwyna’ gwên, Eifion follt fan y fellten. I’r dre fu’i gartref i gyd – ac i’r bois Ar gae’r bêl bob munud Fe rôi Eifion wefr hefyd, I bawb fe oleuai’r byd. Rhag pob galar, daearodd – ein tai oll, At iws, diogelodd; O’i ddaearu fe dduodd Pob tŷ am hynny’r un modd. Er duo heno’r tai hyn – byw o hyd Wifrau bach diderfyn Y cof, a ddywed wedyn Sut i gynnau’r golau gwyn. Bu’n dad ac yn gariad gwir – brawd a mab Er dim oedd, a chywir, Un o’r sêr a drysorir, Capten a derwen ei dir. |
Ym mis Hydref eleni fe fu farw Eifion Gwynne mewn damwain enbyd yn Sbaen. Roedd Eifion yn drydanwr, yn chwaraewr rygbi o fri, ac yn ŵr teulu uchel ei barch yn Aberystwyth a thu hwnt. Fe fyddem yn codi llaw ar ein gilydd yn aml pan fyddai'n gyrru heibio yn ei fan lwyd gyfarwydd, ac arni fflach felen y daranfollt drydan. Fedra'i ddim dweud fy mod i'n adnabod Eifion yn dda, ond roedd gan y ddau ohonom lawer iawn o ffrindiau'n gyffredin. Mae gan bawb air da i'w ddweud amdano. Cyflwynir y gyfres hon o englynion er cof amdano, a hynny mewn cydymdeimlad dwys â'i wraig Nia, ei blant a'i deulu.
A poem in memory of Eifion Gwynne, electrician, rugby player and devoted family man from Aberystwyth who died recently in a tragic accident. In deep sympathy with Eifion's wife Nia and their family.
|