Eisteddfod Goll
[Cerdd agoriadol + Elin Fflur: 'Enfys'] Os ’dech chi fel fi, mae’r calendr yn dal I fynnu fod Steddfod ar ddechrau’r mis hwn, A pwy ’den ni i anghytuno? Mae’r cyfan, mi wn, Yn rhyfedd o wahanol, dim pafiliwn tal Na’r un gystadleuaeth, ond mae gynnoch chi sedd, Ac mae gynnon ni gyngerdd i ddathlu’r ha’. Does dim Bar Gwyrdd na Phabell Lên, na, Ond mae hi’n nos Sadwrn, ac mae yma wledd, Ie, gig orau’r flwyddyn – yn un dorf fawr, dewch, Na, ’se Awst ddim yn Awst heb y cyfle i fwynhau, ’Waeth beth fo’r tywydd, mewn clamp o gae. Felly, croeso i’r maes, eisteddwch, mwynhewch, Ac anghofiwch heno bob pryder, pob cur, Trech gair a chân na’r newyddion a’i fraw, A ble gwell i ddechrau, rhwng haul a glaw, Na chân dan y lloer? Dyma Elin Fflur … [Mared Williams a Band Pres Llareggub: 'Synfyfyrio'] Rhwng haul a glaw eleni, Rhwng ofn a brys a phoeni, Do, ymlonyddodd cwrs y byd Am ennyd, a distewi. Glywsoch chi’r trydar hwnnw, Y corau plu yn galw? Do, lle bu traffig gwyllt y lôn, Daeth côr o leisiau berw. Ond oriog yw’r trydarfyd, Mae’n mynd a dod mewn ennyd, Gwell heno’r llais sy’n felfed pur Fel dur – a band pres hefyd. [Monolog i'r egwyl #1] O sŵn eich tai a’r hewlydd Trowch heno draw i’r meysydd, I ganol gìg o leisiau braf Sy’n dathlu’r byd ar hyd yr haf. Ac os yw’r adar heno ’Di mynd i’r coed i glwydo, Mae gwledd o bell ac agos Y Steddfod Goll yn aros. [Al Lewis a Glain Rhys: 'Tydi Bywyd yn Berfformans'] Pan dawo sŵn y traffig Fe glywir cân y goedwig, Pan dawo floeddio’r byd a’i strach Fe glywir llais y galon fach. Ac ar ein maes ni heno Mae lle i bob un wrando, A lle i rannu gwên a gras A’n traed ar lwyfan o dir glas. Na, ’chawn ni ddim troi at y ffyrdd I godi peint mewn Bar mawr Gwyrdd, Ond daw, ymhell o helynt byd, Dau yma heno i gael te’n y grug. [Iwan ac Aled Huws: 'Dyddiau Du a Dyddiau Gwyn'] Cwestiwn: ydi’ch dyddiau chi’n pendilio Rhwng sicrwydd siŵr a hen betruso? Rhwng ‘be’ ddaw nesa’?’ ac ‘wn i’n iawn – Yr un peth eto, yn un cylch llawn.’ Mae’n dyddiau ni’n gwrth-ddweud ei gilydd, Mae’r bach yn fawr a’r hen yn newydd, Diwrnodau bychain yn hir ymlusgo, Wythnosau cyfain yn carlamu heibio. Daw’r wawr â chaethiwed bob yn bâr  gwefr darganfod ein milltir sgwâr, A dyna sut mae hi’r dyddiau hyn, Ie, dyddiau du a dyddiau gwyn. [Rhian Lois a John Ieuan Jones: medli o ganeuon clasurol] Yn ôl ddechrau ’leni – Pwy feddylie, Y bydden ninne’n treulio Talp o’n dyddie Yn cynnal ac yn cadw Ein perthnase, Gŵyl a gwaith, cydweithwyr A ffrindie, Yn fame, tade, neinie, teidie, Hwyr a bore, Mewn sgwarie? Felly sy ore weithie, Meddan nhw, Medli o hen wynebe Yn siarad am y gore, Ar fy llw. [Elain Llwyd a John Ieuan Jones: 'Pan Ddaw y Gytgan'] Tybed, pan ddaw’r argyfwng hwn i ben, Pan gawn ni agor ein drysau led y pen, Pan gawn ni eto gwrdd am goffi bach, Ysgwyd llaw, mân siarad a chanu’n iach, Pan gawn ni ailgydio’n y sgwrs a adawyd Fel gwreichion tân ar hen, hen aelwyd, Tybed a fydd gen i fwy’n gyffredin efo’r gath? Fyddwn ni’n nabod ein gilydd cweit ’run fath? [Catrin Finch a dawnswyr Bale Cymru: 'Camau Ymlaen'] Y cyfnod clo: cyfnod culhau. Argyfwng Rhy gyfyng ei ffiniau. A rhyfedd, wir, ufuddhau Mewn tu fewn i’r terfynau. Do, aeth hyn o storm yn normal – aeth byw Yn beth bach llawn gofal, Nes crebachu i betryal Y drws yn y pedair wal. Ie, i fod yn iach, crebachwn ein byd, Down i ben â’r byrdwn Yn rasol, a goroeswn Y galanas atgas hwn. Gwnawn yn llai ac yn lleol – ein byd ni, Byw dan wŷs a rheol, A gwnawn ein tai yn dai dol, Dau fedr yw’n dyfodol. Ond o dro i dro, daw’r awyr – i’n cwrdd Drwy ddrws cau ein gwewyr, Un bore mwyn heibio’r mur Daw i’n co’ fystyn cyhyr. A daw dydd pan fydd, fe wn – yr hual Yn rhoi, ac ystwythwn Wedi’r cyfnod hynod hwn: Dan glo’n y co’ fe’i ceuwn. [Dionne Bennett a Band Pres Llareggub: 'Dacw 'Nghariad i Lawr yn y Berllan'] Dacw ’nghariad yn ffonio am screentime, Tw rym di ro rym di radl didl dal, O na bai gen i well wifi, Tw rym di ro rym di radl didl dal. Dacw’r tŷ a dacw’r stafell, Dacw wên fawr drist o hirbell, Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, Tw rym di ro rym di radl didl dal. Dacw ’nghariad yn gaeth i’r unfan, O, na bawn i yno fy hunan … [Medli o ganeuon sioe gerdd] I fyd sy’n llawn gofidiau – canu’r cur Yw’n camp, a’n holl feichiau Yn sŵn un llais sy’n lleihau, Mewn un llais mae’n holl leisiau. Un llais, ond mae’n lluosi – un llais, ie, Ond gall ei sain gronni O’i fewn ein holl ofnau ni, Un llais dewr yw’n holl stori. Un llef fach, ond daw’r holl fyd – i wrando Ar fireinder bywyd; Yn haf ein hofnau hefyd, Un sioe gerdd yw’r nos i gyd. [Monolog i'r egwyl #2] Uwch y wlad mae’n machludo, A nogio i lawr fel tân glo Mae’r haul dros Gymru, a’r haf Yn oeri heno’n araf … Ond cyneuwyd caneuon Heno i oleuo’r ŵyl hon. [Casi Wyn: 'Efaill fy Fflam'] Be ’di rhyw faes heb dyrfâu, A llwyfan heb fonllefau? Ydi, mae’n rhyfedd heddiw Heb garafáns a heb giw, Heb stondinau llyfrau’n llu, Na sŵn y sgyrsiau hynny Am ‘ble ti’n aros?’, am blant, ‘Ail heddiw … gest ti lwyddiant?’ ‘Yma drwy’r wythnos?’ drosodd A thro! Ond morio’r un modd Y gân a wnawn, gwenwn ni, Hurio’r haf o’n cartrefi. Mae Steddfodau caeau’r co’ Ynghyn yng nghaeau heno. [Medli o ganeuon Robat Arwyn] Tasen i’n dweud fod ’na gân heb ei chanu, Neu ddwy neu dair, sa’n dod i hynny, A tasen i’n dweud fod Brenin y Sêr Yn yr awyr heno ’fo gwin beaujolais, Yn cynnau canhwyllau mawr llachar di-ri Ac yn dweud wrth y brifwyl mai ‘byw fyddi di’; Tasen innau’n dweud wedyn, er gwaeth, er gwell, Fy mod i’n eich caru chi i gyd o bell, Fysech chi’n gofyn wedyn, ‘wel, pwy bia’r gân?’ Ynte’n cydganu’r cyfan hyd yr oriau mân? [Monolog i'r egwyl #3] A’i sŵn coll, mae’r nos yn cau Amdanom, ond mae doniau’r Holl sêr a’u lleisiau arian Yma i dir mud oriau mân Y nos yn ein cymell ni – Ar gân tywynnant inni. [Bryn Terfel: 'Anfonaf Angel'] Yn nyddiau’n hofnau dyfnaf – a’r oriau Hirion ar eu tristaf, Mor oer yw tymor yr haf, Mor hir ac mor, mor araf. Yn ein gwendid gofidus – nid anodd Dihoeni’n flinderus, Hawdd digio neu bwyntio bys Diobaith yn ddrwgdybus. Nac ofnwn, ymdrechwn dro – yn y nos Cawn nerth i’n cysuro, Down drwy’r clwy’r a’r cyfnod clo: Enwn angylion heno. [Cerdd i gloi] Ydi, mae’r calendr yn dal i fynnu, mi wn, Fod Steddfod i’w chynnal ar ddechrau’r mis hwn, Ac mae’r cyfan yn rhyfedd o wahanol o’ch sedd, Ond mi gawson ni lwyfan, ac mi gawson ni wledd, Ac mae Awst yn debycach i Awst ’rôl mwynhau, ’Waeth beth fo’r tywydd, mewn clamp o gae. Ond cyn inni ddychmygu troi am adre, Olrhain ein camau drwy’r maes, a’r llwybre I gyd mor wahanol yng ngolau’r nos, Baglu wedyn nôl i’r babell drwy’r ffos Neu ffymblo’n wirion am allweddi’r car (Duw ŵyr ble mae hwnnw rhwng y glaswellt a’r tar), Neu cyn crwydro’n bwrpasol i’r garafán Dan ddwndwr pell Maes B a’r coesau’n wan, Does dim ar ôl i’w wneud, a hithau’n ha’, Ond cydganu’n hapus, a dweud ‘nos da’. |
Yn sgil gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, darparwyd arlwy anhygoel ar y radio, ar y teledu ac ar lein ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst. Gofynnwyd imi ysgrifennu'r cerddi hyn ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Goll (Orchard) ar S4C, a ddarlledwyd nos Sadwrn 8 Awst, sef dathliad o ganeuon gan rai o ganwyr a bandiau gorau Cymru. Y briff i mi oedd llunio cyfres o gerddi a fyddai'n gweithio fel dolenni rhwng pob set, gydag argyfwng y coronafeirws ac absenoldeb yr Eisteddfod yn gefndir rhyfedd i'r cyfan, a Ffion Dafis yn cyflwyno pob un ond dwy. Er mor siomedig oedd peidio â chael mynd i'r maes yn Nhregaron, roedd yn fraint cael bod yn rhan o raglen mor arbennig.
A series of poems commissioned as links for Eisteddfod Goll (Orchard), an S4C programme that aired on 8 August as part of the channel's brilliant provision in the absence of the 2020 National Eisteddfod.
|