I Gyfarch Gruffudd Owen
Ar faes ryw dri o fisoedd Yn ôl mewn heulwen, pan oedd Y dail i gyd o liw gwyrdd, A fy iaith hithau'n fythwyrdd Ar lan Taf, drwy'r haf hefyd O'r gaer i'r Bae roedd y byd Yn ŵyl wych â'i dwylo ar led, Gŵyl ddi-gur, gwledd agored, Prifwyl am byth yn profi Drwy'n cyd-fyw unigryw ni Ei bod yn ddinesig bêr, Ac yna brynhawn Gwener, Dy awdl di, o'i saernïo, Dy gerdd di a gurodd, do, Enillodd, cipiodd y cae, Rhagorodd ei rheg eiriau, Ŵr hoff, a hawliodd, Gruffudd, Holl glod Eisteddfod Caerdydd. Euthum i'w darllen neithiwr. Llwyr fwynhau geiriau'r tri gŵr – Tair barn deg, tri beirniad da – Tu fewn wnes gyntaf, yna Oedais. Fe greffais, Gruffudd, Ar dy awdl … a rhyw Gaerdydd Wahanol a hollol hyll A du dan awyr dywyll A welwn, rhyw anialwch O lid yn swatio dan lwch Ei olosg pell, hellscape oedd, Radyr Blade Runner ydoedd. Gruffudd, rhagorai uffern Ar hyn o sin! Heb rin sêr Na lloer, heb ymgynnull iaith, Heb un haf, heb win afiaith, Dinas anghymdeithasol Nad yw'n tecstio heno'n ôl, Heb y wawr ddinesig bêr, Heb ŵyl undydd, heb lawnder. Nid yw Datguddiad Ioan Cynddrwg ei olwg â’r gân! Dy lên, o'i darllen, o Dad – Mae dyn yn poeni amdanad! A daeni, Gruff, d’adenydd? Cefna ar ddystopia Caerdydd! Os yw’n ddinas ddiflas dda I ddim – mae’n hafaidd yma! Ar bob stryd, bywyd sy’n bêr (Mwy na heb) yma’n Aber O hyd, lle doist i 'studio, Ym Mhanty cartrefu un tro. Dere'n ôl i’n Hadran ni! Cei dŷ'n hawdd, cei dy noddi, Rho feiros rhyw fyfyrwyr Ar dân! Ac os lloriau du'r Ddinas oer chwalodd yn sêr Dy fobail, adfywia Aber Dy gyswllt ag eosiaid – Mae adar mân yma'n haid A llon gyfeillion a gwin Yn nhrigiannau Brogynin. O ddifri, cei gwmnïaeth A chartre iach ar y traeth Yn Aber, fel llawer lle, Adran i’w galw’n adre Am dy fod ti'n cau llinyn Deupen y wlad: pen o Lŷn Yn un llaw ac, yn y llall, Y ddinas eirias arall. Yma daw’r deupen 'leni Yn rhwymyn tyn ynot ti. Yn y tai oll, os wyt ti Yn eilun ym Mhwllheli, Os y ddinas ddihenydd Sy’n dy enwi di bob dydd, Heno, dy hawlio cyhyd, Brifardd, mae Aber hefyd. |
Fis Awst 2018 fe enillodd Gruffudd Owen Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Er ennill cadair, roedd y gamp yn goron hefyd ar wythnos lawn llwyddiannau i Gruff – ef hefyd a enillodd Stôl y Siwperstomp ar nos Lun yr Eisteddfod, a Stôl y Stomp Werin ddydd Iau. Er dod yn ail iddo yn y gystadleuaeth, ro'n i wrth fy modd yn ei weld yn codi i'r llwyfan yn Theatr Donald Gordon ddydd Gwener, ac yn ymfalchïo hefyd iddo ennill gradd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth – ac felly hefyd enillydd y Goron ddydd Llun, Catrin Dafydd!
Roedd Gruffudd yn westai arbennig yn noson agoriadol Cicio'r Bar yn y Stiwdio Gron yng Nghanolfan y Celfyddydau ar 22 Tachwedd. A finnau'n llywio'r noson honno gyda Hywel Griffiths, roedd yn gyfle gwych imi gyfarch Gruff ar gerdd. Ceir cywydd i fardd arall a'm curodd yng nghystadleuaeth y Gadair fan hyn! Gruffudd Owen capped a very succesful National Eisteddfod in August 2018 by winning the Chair competition on the last Friday. For the fifth time in twelve years, I came second! Nonetheless, this poem addressed to Gruff – a graduate from Aberystwyth University's Department of Welsh and Celtic Studies – celebrates his success, and was read in the Cicio'r Bar poetry night at the Aberystwyth Arts Centre on 22 November, with Gruff as the special guest.
|