Ffwrnes, Llanelli
Hei! A glywi di Fel dyfroedd Dafen Y sŵn a'i eco Sy yn ein hacen? Sŵn taro duloyw, A sŵn troi dalen, Sŵn Lliedi lew Yn swnllyd lawen? Dyma sŵn iaith, gwaith a gwên Ein dyddiau, Ein ffair yn nesáu, Ein ffwrnes awen. |
Un o'r adeiladau mwyaf newydd yn Llanelli yw theatr Ffwrnes. Mae'r enw ei hun yn dyrchafu'r diwydiannau sy'n gymaint rhan o hanes y dref, ond fel yr afonydd sy'n dal i lifo dan yr wyneb – Dafen a Lliedi yn eu plith – mae isleisiau newydd i'w clywed ar lwyfannau'r hen dref.
Lluniais y gerdd gomisiwn hon, sef hir-a-thoddaid sy'n dathlu asbri'r adeilad newydd, fel Bardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Roedd gofyn imi ymweld â'r adeilad newydd (a ddyluniwyd gan Lawray Architects) yng nghanol Llanelli, ac â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y dolenni isod i ddarllen y cerddi eraill.
● Stormy Castle, Bro Gŵyr (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Old Farm Mews, Dinas Powys ● New Barn, Felindre ● Melin Talgarth (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Capel Galilea, Llanilltud Fawr A poem for Ffwrnes theatr in Llanelli, written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014. There are English versions of two other poems that formed part of the same commission, namely Talgarth Mill and Stormy Castle.
|