Capel Galilea, Llanilltud Fawr
Fel arfer, ein harfer ni Yw cau peil o’n capeli, Troi’r rhai cain yn gwt i’r ci. Mae’r gynneddf ym Morgannwg I dorri cnydau iorwg, Dod â’r gwaelod i’r golwg. Adfail Duw, fe’i aildowyd, Plisgyn capel a wisgwyd  charthen o lechen lwyd. Dwy wal oer a deilwra O’u hadwy ddwy ffenest dda, Goleuwyd Galilea. Capel y croesau helaeth, Dan ei do anwylo wnaeth Y creiriau, fel carwriaeth. Anwylo’r Lladin eilwaith, Fel na ddirywia’n rhyw iaith Anealladwy, yn llediaith. Daw’r dref i’r capel hefyd, A thrwy ei borth yr â’r byd I gell dawedog Illtud. Iti’r sant, o’r to i’r sail, Lluniwyd o wyll hen y dail Fynedfa o hen adfail. |
Yn 2013 fe adnewyddwyd yn helaeth ran orllewinol hen eglwys Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Gelwir y rhan honno yn gapel Galilea, sef hen derm am borth eglwys neu ran fwyaf gorllewinol yr adeilad. Mae'n debyg fod y capel wedi ei adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg, ond roedd yn adfail erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Codwyd arian i'w adnewyddu ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol ym mis Tachwedd 2013.
Achubwyd ar y cyfle i roi cartref newydd i rai o drysorau hynaf yr eglwys, sef casgliad o groesau Celtaidd cain o'r nawfed a'r ddegfed ganrif. Ceir yno hefyd ar yr ail lawr le i gynnal digwyddiadau, ac yno ym mis Tachwedd 2015 fe gynhaliwyd prynhawn o sgyrsiau difyr ar y seintiau gan brosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru, prosiect ymchwil cyffrous y bûm i'n rhan ohono yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.
Lluniais y gerdd gomisiwn hon, sef cyfres o englynion milwr i'r capel newydd, fel Bardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Roedd gofyn imi ymweld â'r capel yn Llanilltud Fawr (a ddyluniwyd gan Davies Sutton Architects) ac â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y linciau isod i ddarllen y cerddi eraill. ● Stormy Castle, Bro Gŵyr (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Old Farm Mews, Dinas Powys ● Ffwrnes, Llanelli ● New Barn, Felindre ● Melin Talgarth (ceir fersiwn Saesneg hefyd) A series of englynion milwr for the newly-renovated Galilee Chapel at the church of Llanilltud Fawr in the Vale of Glamorgan, written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014. There are English versions of two other poems that formed part of the same commission, namely Talgarth Mill and Stormy Castle.
|