Cariad@Iaith
Ar ôl llyncu'r holl lafariaid, Garglo bwced o gytseiniaid, Sipian ambell 'fore da', Cnoi'n ofalus ar 'nos da', Llowcio 'diolch' fesul dau, Brathu mewn i ddeg 'su'mae' ... Fe fydd rhywbeth mwy na iaith Gennyt ti ar hyd y daith, Sef y gallu i brofi'r byd Heddiw yn Gymraeg i gyd. Dos i flasu'r ddaear hon Ar dy dafod newydd sbon! |
Cafodd yr wythfed gyfres o'r rhaglen deledu boblogaidd Cariad@Iaith ei ffilmio yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth. Er gwell neu er gwaeth, gofynnwyd imi feuryna ymryson rhwng dau dîm o selèbs a oedd yn cymryd rhan yn y gyfres. Gyda'r cantor direidus Wynne Evans yn cadw'r sgôr, bron i bethau droi'n reiat, ond tîm Nia Parry aeth â hi yn y diwedd!
Gofynnwyd imi hefyd lunio cerdd yn annog dysgwyr i ddal ati, er mor anodd y gall y gwaith o ddysgu iaith newydd ymddangos weithiau. Meddyliais am y drafferth rwy'n ei chael o dro i dro pan fyddaf yn siarad Saesneg am sbel, a hithau'n ail iaith imi. Mae fy ngheg yn dechrau brifo ac yn mynd i deimlo'n rhyfedd ar ôl ynganu cynifer o eiriau dieithr, bron fel pe bawn i wedi cael tafod newydd sbon. Learning Welsh can be difficult. I can only imagine that, after a while, it can feel a bit like having a brand new tongue. That's certainly how I feel sometimes after speaking English, my second language, for a long period, as my jaw starts to ache from pronouncing words that are so different to the Welsh I use from day to day! This poem was commissioned by cariad@iaith/love4language, an S4C reality television series in which people attempt to learn the Welsh language.
|