eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016

Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg

[cyflwyniad]

Dwi ddim fel yr hen feirdd stiff,
Dwi ar iaith yn chwarae riff,
Nid oes o Bilbo i'r Ynys Werdd
Gystal cerdd, na chystal cwiff!


[y môr ac ieithoedd lleiafrifol]

Wele'r cefnfor agored,
Wele niwl ac esplanêd,
Wele'n yr aig leiner wen
Ar hwylio draw i'r heulwen.

Mor hawdd fyddai'i morio hi,
Cawn i docyn i'w dec-hi
Am geiniogwerth, a chwerthin
A chadw gŵyl, drachtio gwin.

Ond gen i'n y mwrin mae
Un bad ag olion bodiau
Fy nhaid a'i daid o wedyn,
Ôl gwaith, ar ei hwyliau gwyn.

Mae ei rwyfau'n fy mrifo,
A rhoi sglein ar ei risgl o
Yn boenus, boenus i'r byw,
Ond wedyn, fy mad i ydyw.


[i gloi'r noson]

Eurig wyf, nid euria,
Ewch â fi i'r taberna,
Yno fe ganaf gerddi pwnc
Am lwnc o sagardoa!


[Bilintx Kalea]

Mewn tre yn llawn kaleak
Di-ail o grand – wele grac,
Crac tin o lôn ddi-sôn, sur
Heb ddyfodol, bedd fudur.

Lôn o laid i'r basgiaid bach,
Lôn galed, a lôn gulach
Wrth yr eiliad, un gadwyn
I'n cau, ni waeth beth fo'n cwyn.

Lôn gul i Gymry, lôn gaeth,
Lôn araf lawn o hiraeth,
Un lôn gul yn gywilydd,
Coridor heb olau dydd.

Hawliwn y lonydd helaeth,
Lonydd cŵl, nid lonydd caeth,
Nid lôn San Juan o henaint,
Lôn shots a zorrotz, nid saint!

Nid lôn bŵl, ond Lôn Bilintx,
Lôn fawr gain, nid ugain insh,
Lôn hastio, nid lôn astud,
Lôn banciau a bariau'r byd.


[pêl-droed Cymru a Gwlad y Basg]

Drwy'r ddaear, gorau chwarae – i bob clwb
Yw cael hawl i'r gemau
Mawr a mân – i Gymru mae
Yn freuddwyd fyw, i raddau.

Hanner canrif o frifo – derfynwyd,
A'r faner sy'n chwifio,
Aeth hen chwarae caeau'r co'
Yn chwarae gwell, a churo!

I Williams, daeth ein hamser – ac i Vokes,
Gaeaf hir i Gunter
A Coleman dan ein baner
Drodd yn haf yn haf ein her.

I Wlad y Basg, mae dwy asgell – a gôl,
Oes, i'w gweld o hirbell;
Er bod golud byd mor bell,
Maes ein cam sy'n ein cymell.

Daw amser i'r banerau – gyd-chwifio
Gyda chi fel ninnau,
Daw awr canu, camu i'r cae,
Daw eich awr i gyd-chwarae.


[croesawu'r gynulleidfa i'r cyngerdd olaf]

Ongi etorri! nawr tewch â'ch twrw,
Gagiwch eich ffôn, mae'r galon yn galw;
Y beirdd sy'n dod yn barod i'ch bwrw
Fel hen anturwyr o flaen y teirw!
Yn ein cytgan mae'r llanw'n odliadur,
Ewyn oferwyr yw'r awen ferw.


[ffarwelio]

Rhwng pedair wal Kursaala – dweda'r beirdd
        O bedwar ban yma
    Wedi'r ŵyl a'r hwyl yr ha' –
    Nos da i Donostïa!

Picture
Karen Owen yn Oñati
Ysgrifennwyd y cerddi byrfyfyr hyn ar ymweliad â Gwlad y Basg ganol Gorffennaf 2016. Derbyniais i a Karen Owen wahoddiad i gynrychioli Cymru yng ngŵyl barddoniaeth fyrfyfyr Europa Bat-Batean yn Donostïa (San Sebastian yn Sbaeneg), dinas lan môr hardd iawn ar Fôr Gwasgwyn.

Mae traddodiad anhygoel o farddoni byrfyfyr yng Ngwlad y Basg. Daw'r bardd (bertsolari) i'r llwyfan i dderbyn y testun, ac fe gymer wedyn ryw bump i ddeg eiliad i fyfyrio cyn mynd ati i lafarganu cerdd newydd sbon. Testunau syml sy'n cael eu gosod gan amlaf – gair neu thema gyffredinol – ond weithiau ceir llinell osod neu hyd yn oed gyfres o linellau neu eiriau y dylid eu cynnwys yn y gerdd. Mae cystadlaethau cenedlaethol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, ac mae'r rowndiau terfynol yn denu pobl yn eu miloedd. (Mae crynodeb gwych o'r traddodiad ar flog Leusa Llewelyn.)

Roedd yn agoriad llygad, ac yn ddigon i sobri'r beirdd byrfyfyr Cymreig mwyaf pybyr! Bu'n rhaid i mi a Karen ofyn am ychydig mwy o amser i gyfansoddi – rhyw hanner awr neu dri chwarter – gan esbonio bod cyfansoddi ar gynghanedd yn anos o lawer na llafarganu'n rhydd! Fe ges i gyfle hefyd i amlinellu cymhlethdodau'r gynghanedd mewn darlith yn ystod yr ŵyl.
Theatr drawiadol Kursaala
Dechrau'r chwyldro ar Bilintx Kalea (llun Karen Owen)
Yr Awstriaid, Hans a Norbert, a'r Basgwr, Julio, wrth eu gwaith yn Kursaala
Noson yn y Tabakalera
Roedd beirdd o wledydd eraill yn cymryd rhan yn yr ŵyl – rhai o Wlad y Basg ei hun yn ogystal ag Awstria, Ciwba, Cyprus, Mecsico ac Ynysoedd Baleares – a phob un yn arfer ei grefft fyrfyfyr anhygoel ei hun. Cymerais i a Karen ran mewn pedwar digwyddiad. Yn y cyntaf, a gynhaliwyd mewn theatr o'r enw Aquarium ym mhorthladd Donostïa, roedd gofyn inni gyflwyno ein hunain mewn ychydig linellau ac i ddweud gair o ffarwél yn yr un modd ar ddiwedd y noson. Rhoddwyd testun inni hefyd, sef 'y môr ac ieithoedd lleiafrifol'.

Cymerais i ran yn unigol mewn dau ddigwyddiad yn yr awyr agored, y naill yn ninas Donostïa a'r llall yn nhref wledig Oñati. Fy nhestun yn Donostïa oedd stryd (kalea) yn yr hen dref a enwyd ar ôl un o feirdd enwocaf Gwlad y Basg, Indalecio Bizcarrondo (Bilintx i'w ffrindiau). Y broblem â Bilintx Kalea, fodd bynnag, yw ei bod hi'n un o strydoedd lleiaf Donostïa, a pheth gwarthus iawn, yn ôl y Basgwyr, yw bod un o'u beirdd gorau wedi ei goffáu mewn rhan mor ddistadl o'r ddinas. Yn Oñati, gofynnwyd imi lunio cerdd ar lwyddiant diweddar tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Ewro 2016. Er bod gan Wlad y Basg dîm pêl-droed cenedlaethol, nid yw UEFA yn ei gydnabod ac ni all y wlad gymryd rhan yn y prif bencampwriaethau rhyngwladol.

Yn goron ar y cyfan, cynhaliwyd cyngherdd mawreddog yn theatr Kursaala ar aber afon Wrwmea yn Donostïa, lle gofynnwyd imi groesawu'r gynulleidfa ar ddechrau'r noson. Gofynnwyd hefyd i mi a Karen lunio ychydig linellau i ffarwelio ar y diwedd.

Bu'r holl brofiad yn un bythgofiadwy. Diolch – eskerrik asko – i bawb a oedd ynghlwm â'r ŵyl, i Karen am ei chwmni gwych (kerecce!​), ac yn arbennig i'n cyfieithydd dawnus, Begotxu Olaizola!

​Am ychydig mwy o hanes yr ŵyl, clicia fan hyn.
Picture
Y machlud yn Donostïa

2016ko uztailean Karen Owen eta biok bertsolaritza jaialdi batean parte hartu genuen Donostian, Euskal Herrian. Geure olerkigintzaren fineziaz oso harro gaude galesdunok, baina hala ere euskararen bertso tradiziokoek, hots, ustekabean zeinnahi gai jarrita olerki inprobisatuak berehalaxe botatzen dituzten batbateko birtuosoak diren horiek, ez dute parerik. Hemen bildutako olerkiak jaialdian errezitatu nituen, bakoitza ordubetean gehienez ere antolatzaileek hautatutako gaiei buruz idatzirik baina hori bai, erritmo eta aliterazioaren galesezko arauak ondo beteaz! Esperientzia ahaztezina izan da. Eskerrik asko honetan aritu diren guztiei!

In July 2016, Karen Owen and I took part in a festival of improvised poetry in Donostia (San Sebastian in Spanish) in the Basque Country. The Welsh pride themselves in the intricacies of their poetry, but nothing can rival the improvised virtuosos of the bertso tradition, who, on being given any random theme, can perform improvised poetry in a matter of seconds. I performed the poems gathered here during the festival and, in each case, wrote them in less than an hour – albeit in cynghanedd! – on subjects chosen by the organisers. I will treasure the experience – eskerrik asko to all involved!
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio