Archif Ddarlledu Cymru
Ni fu i wlad sgrin fel hon. Mae’n cynnau i’n hacenion A’n hwynebau pan ddeuwn, Ac yna, pan seinia’r sŵn, Gwylia hyn: daw’r rhaglenni I gynnau’n hwynebau ni. Croeso i fanc yr oes a fu A rhan fawr o’n hyfory, Trysordy teledu’r wlad A radio’n holl amrediad, Archif a phawb yn berchen Yng nghôl gwarchodol y Gen. Hoffi rhaglenni Cefn Gwlad? Wel, mae rîl yma ar alwad! Ond ust! Mae disgo distaw I’r gair a’r llun, wir, gerllaw. Siawns am gêm? Dim problem! Pryd? Mi awn i’r maes mewn munud. Cei fan hyn y cyfan: hwyl Y gân, ambell rôg annwyl, A thafodieithoedd hefyd, Lluniau byw ein lle’n y byd, Ac yma, gwylia, ar goedd Mae gwarchod ein hymgyrchoedd. Ro’n ni mlaen o’r dechrau’n deg, Yn hawlio’r holl dechnoleg. O’i chreu, nawr cawn chwarae’n ôl Sŵn ar gadw’n ddigidol, Chwaraewn o’r dechreuad Rubanau tapiau’n tref-tad. Y wefr hon, mae’n ŵyl o fri, Gŵyl yw hon o raglenni, Ac â’i lŵp maith o glipiau, Ie, pŵer hon yw parhau, Wrth i’n deunydd newydd ni A’n holl hanes ei llenwi. Ein dyddiau, mae’n dyst iddynt, Yma ar gof mae Cymru gynt, A hawdd ei chlywed wedyn, Gwlad a all ei gweld ei hun. Borwyr, ymchwilwyr, i chi Mae’n rhodd. Dewch mewn nawr iddi! |
Cerdd gomisiwn i ddathlu lansio Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr archif gyntaf o'i math drwy Brydain gyfan.
Darllenwyd y gerdd gan yr actores Annes Elwy yn agoriad swyddogol yr Archif yn y Llyfrgell Gen nos Iau 17 Mawrth 2023. Mae'r gerdd Saesneg gyfatebol ar gael fan hyn. A commissioned poem to celebrate the launch of the Wales Broadcast Archive in the National Library of Wales. A corresponding poem in English can be read here.
|