Brexit
Mewn oes ôl-ffeithiol, mae’n ffair, Mo'yn callio namyn cellwair, Mor rhwydd o chwim yw’r addo, Mor hawdd y’i diddymir o, Y mae'r gwir mor wag ei werth, Mae’r addewid mor ddiwerth. Y wlad swrth i’r tabloids aeth A'u glafoer yn ysglyfaeth, Saig goch iawn i wasg o'i cho', A gwasg fu'n mwynhau gwisgo Llid a baw yn nillad barn – Enough's enough, myn uffarn. Mor naïf fu'n Cymru ni, Llif naïf oedd yn Nheifi, Coeliodd afon Cledd hefyd Y llwon gweigion i gyd, Roedd yn Nedd atgasedd gwên, Roedd naïfrwydd yn Hafren. Y Fflint hen, ffŵl iawn oet ti, A Brit taeog bro Tywi, Biswail hen dail lond Aled – Y gŵr hy ei hun a gred Un celwydd newydd un waith, Celwydd a lynca eilwaith. Roedd Berffro'n coelio celwydd Llwon gwleidyddion y dydd, Yng Nghynon, llwon yn lli, Do, sarhawyd Sirhywi, Poeri i wyneb Glyn Ebwy … A chael eu teyrngarwch hwy. Mor frau lwyfannau'r Fenni, Pwy sy'n wir o'n cwmpas ni? Pa les heno goelio gwarth Di-addewid gwlad ddiarth? Mewnfudwyr min haf ydym, Haid o ffoaduriaid ŷm. |
Drannoeth y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin, deffrois i'r newyddion syfrdanol fod y bleidlais i adael wedi mynd â hi. Bydd goblygiadau pellgyrhaeddol y canlyniad hwnnw yn parhau i ddod i'r amlwg am flynyddoedd i ddod. Dagrau pethau yw bod effeithiau byrdymor y bleidlais – o'r addewidion a sarnwyd dros nos i'r ansicrwydd parhaus – yn pylu mewn cymhariaeth â'r anghrediniaeth fod cynifer o bobl wedi coelio addewidion ffals y coeg-wleidyddion, y cachgwn hynny a ddirmygodd yr arbenigwyr ac a wrthododd wedyn gymryd y llyw pan ddaeth yn amser rhoi Brexit ar waith.
Nid oes ond gobeithio y bydd modd lliniaru effaith y bleidlais yn y tymor hir. Hynny a dechrau datgymalu hualau'r Deyrnas Unedig o'r diwedd gyda refferendwm newydd arfaethedig ar annibyniaeth yn yr Alban, a bleidleisiodd yn unfrydol o blaid aros. Ro'n i o'r hyn lleiaf yn falch y bore hwnnw ym Mehefin fy mod i'n byw yn un o'r ychydig ardaloedd yng Nghymru a bleidleisiodd i aros yn Ewrop. Darllenais y gerdd hon yn noson wych 'Sieffre, Sieffre' a drefnwyd gan Fragdy'r Beirdd ar nos Fawrth yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. This cywydd was written in response to Brexit – the lies that fuelled it, the vacuum that allowed the lies to fester and the speed with which so many empty promises were abandoned by the shameless leaders of the leave campaign within a few hours of victory. Written at the beginning of August, the poem was performed in a fringe event at the National Eisteddfod in Abergavenny. The uncertainty concerning Brexit's course and the damage it could yet inflict in Wales persists.
|