Carol Rybuddiol i'r Byd
Wrandawyr, a hen dywydd y gaea'n llwm dragywydd, Gwrandewch ar hyn o rybudd yn ufudd iawn gen i: O gwyliwch! chi'r esgeulus, fe droith hen gêm broblemus Monopoly'n anhapus eich hoffus ŵyl fach chi. Deuluoedd cystadleuol, rhowch heibio'r dis bach, bobol, Segurwch, cenwch garol yn weddol, ewch am nap, Beth bynnag wnewch-chi, biniwch y gwyrddion dai, gwaharddwch Y darnau oll a dyrnwch … cewch heddwch wedyn chwap. Dros ŵyl y geni, gwyliwch! Â'r cardiau siawns na ddawnsiwch, Whitechapel Road na rodiwch, a pheidiwch â'r straffîg; Ni ddaw dim oll ond galar o drethu brawd neu gymar, Neu gyrchu mam i garchar yn ddiedifar ddig. Rhaid cofio, wedi'r cyfan, ei bod hi'n ŵyl y baban, Er Brexit a'i figitian, mae'r gaea'n mynd i'r gell; Add'nedwn, gydeneidiau, i gwrdd o gylch y byrddau Yn Ionawr, pan gawn ninnau gydchwarae gemau gwell. |
Fis Rhagfyr 2019 ro'n i'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru – yr eildro imi gael y fraint, ar ôl mis Ionawr 2016 – a dyma gerdd a ddarllenais i ychydig cyn y Nadolig ar Sioe Frecwast Daniel Glyn ar Radio Cymru C2. Hyd y gwn i, does dim enw ar y mesur hyfryd hwn, a ddefnyddid o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen, yn bennaf ar gyfer carolau Mai.
I was BBC Radio Cymru's Bardd y Mis – poet of the month – in December 2019 (following a first stint in January 2016), and this is one of the poems I read during the month. It was on Daniel Glyn's breakfast show on Radio Cymru C2, and is a warning against the terrible perils of playing Monopoly with long-suffering members of your family over the Christmas holidays.
|