I Gyfarch Aneirin
A’r maes yn orwag rhagor, Wedi rhoi yn ôl mewn drôr Firi beirdd, a’r haf ar ben, Ar ôl claearu heulwen Yr ŵyl, ga’i fentro holi … Y sêt, Nei, sut un yw hi? Yw hi mor llyfn ag mae’r llun Yn dishgwl? Ai hawdd disgyn Fel hedyn i’w chofleidiau I orffwys, fel i gwys gau? I’w dwy fraich, ai difyr oedd Suddo i wres hedd yr oesoedd? Ai’r pren collen a benna, Nei, i ble’r ei wedi’r ha’? Yw’r un pren yn peri i Dy ddwy goes bob dydd gosi I gael eistedd ar glustog Saer gwaith, mor hapus â’r gog? I Sisial mae'n gaer dal, deg, I Erwan, mynydd carreg; A yw Laura’n cael hurio'r Gadair hardd i'r ioga dro? Yw’r cathod yn gwybod gwerth Ei gwynfyd sgleiniog, anferth? Yn y sedd pan eisteddi, Oes pren o'r Hendre 'nddi hi? A deimli di fochau Dic Yn ei hestyll artistic? Yn ei graen, a glywi o'r gro Wynt ei becyn tybaco? A'r sedd dlos … ond aros di, Yn y fan ar gae'r Fenni Ces eistedd, wedi meddwl, Bnawn Mercher ar gader gŵl Dy gamp am adeg, a'i hud Un haf a deimlwn hefyd. Pery heulwen y Fenni Ym min hwyr yn dwym i ni; Drwy'r hydref pery hefyd Un haf braf, fe bery hud Dydd Gwener a Mercher mwy Yn nirfana Sir Fynwy. |
Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 oedd fy nghyd-bodlediwr hoff, Aneirin Karadog. Dyw hi ddim yn gyfrinach imi ddod yn ail i Nei yn y gystadleuaeth y flwyddyn honno, a hynny am gadair hardd iawn wedi ei chreu gan Emyr Garnon Jones a'i chyflwyno gan deulu'r diweddar Dic Jones er cof amdano, hanner canrif ar ôl iddo yntau ennill y Gadair yn 1966 am ei awdl enwog i'r 'Cynhaeaf'. Er mor anodd oedd ei lunio, dyma gywydd i longyfarch Aneirin ar ei gamp! Bu'n Eisteddfod lwyddiannus i'r ddau ohonon ni.
A poem to Aneirin Karadog, winner of the Chair competition at the National Eisteddfod in Abergavenny 2016. I came second to Aneirin in the competition – who better to win than my fellow-podcaster and good friend!
|