To Iau ar Ben Tŷ Awen
Mae 'na griw ym Mangor wen, Un criw i swcro'r awen, Criw llafar sy'n creu llwyfan Ac wrth roi gwerth ar y gân Yn bloeddio'n anterth chwerthin, 'Nosweithiau byw, yn syth bìn!' Yn nyddiau'r gwrth-lenyddol, Awn liw nos i hawlio'n ôl Ein llais iach, ac yn holl sŵn Ein huchafiaeth fe chwifiwn Benrhyddid baner addysg Dros gymdeithas dinas dysg. Prydyddion, parod oeddynt I'w chyrchu drwy Gymru gynt, Bangor oedd maenor y medd, Bar gwin holl lwybrau Gwynedd … Ewch, broliwch ei bri eilwaith Y noson hon yn ein hiaith! O gerdd i gerdd, fesul gig, Yn frwd, yn eangfrydig, Fesul llef a sillafau A churo dwylo di-au, O'r sail, ail-dyfu mae'r sîn Yn ir fel coeden eirin. Mae 'na griw ym Mangor, oes, 'Croeso!' meddai'r criw eisoes; Dewch oll, a hastiwch allan, Mae glas gymdeithas ar dân I agor llys, i greu llên, Yn do iau ar dŷ awen. |
Fis Medi 2018 fe lansiwyd cymdeithas lenyddol newydd sbon ym Mhrifysgol Bangor, sef Cymdeithas John Gwilym Jones. Fel y nodir ym mhroffil y gymdeithas ar Twitter, ei nod yw 'dod â llenyddiaeth yn fyw yn Ninas Dysg' drwy ddathlu diwylliant yn ei holl amrywiaeth yn enw'r cawr dramodydd John Gwilym Jones. Comisiynwyd y cywydd hwn i ddathlu sefydlu'r gymdeithas, a hynny gan un o'i sylfaenwyr – a phrifardd newyddaf Eisteddfod yr Urdd – Osian Owen. Ef, yn wir, a roddodd imi deitl y gerdd a'i llinell olaf, sef arwyddair y gymdeithas.
A poem commissioned to mark the launch of a new cultural society in Bangor University, Cymdeithas John Gwilym Jones.
|