Serenestial
Edrycha draw i’r gofod fry Uwchben rhwng pob un seren sy, Does yno ddim ond gwactod du O dan ei ŵn Yn difa golau ar bob tu, Yn llyncu sŵn. Edrych eilwaith – fe weli di Nad yw yn hesb ein gofod ni, Fe dyf dychymyg ynddo’n lli Fel dawns ar dân, Ac yn y gwagle’n ôl y si Egina’r gân … Yr Haul Dychmyga – pe bai’r haul yn belen dân O faint pêl-droed, ni fyddai’r ddaear hon Fawr mwy na gronyn bach o dywod mân, Ewin dy fys wrth olwyn tractor gron, Neu stondin Barddas wrth anferthedd bras Y pafiliwn, a’r mân eisteddfotwyr Ar hyd y maes fel comets coeth ar ras O’i amgylch – ac eto, mor ddiystyr Yw’n holl ymdrechion ninnau i gyfleu Ei wychder … oni lwyddodd Dafydd gynt, Pan welodd yng ngwychder Morfudd ail-greu Yr haul ar ddaear lawr, a gwres ei hynt O gartre’i gŵr i’w ymyl gyda’r hwyr Yn gloywi’i fyd, ac yn ei losgi’n llwyr. Mercher Rwy’n amau nad yw’n gyd-ddigwyddiad llwyr, Y ffaith mai hithau’r blaned leiaf un O’u teulu ni, yn ôl y rhai a ŵyr, Yw’r un agosaf at y seren sy’n Ein cadw gyda’n gilydd, fel pe bai Rhyw gynneddf hŷn ar waith pan fwriwyd ni I’r gofod, ac a dynnodd y rhai llai Yn agos at ei mynwes gynnes hi … Ynteu ai diawledigrwydd ar ei rhan A barodd i’r un blaned ddal ei thir? Un belen greithiog, farwaidd, fud o dan Anferthedd gwyllt yr haul yn syllu’n hir Yng nghwrs ei rhod ystyfnig hi ym myw Y llygaid tanbaid hyn, a herio Duw. Gwener Gwylia dy hun rhag y blaned wen Sy’n pefrio’n loywach na’r sêr uwchben. Cofia nad yw ei hwyneb hi’n Y golwg gan mor arw’r hin. I lawr islaw’r cymylau does Na môr na chefnfor glas lle troes Yr anwedd gynt yn graig a chraith Yn nannedd gwynt y cosmos maith. Gwylia dy hun rhag y blaned wen A’i hinsawdd chwilfriw drosti’n llen. Y Ddaear Pan dynnwyd y llun cyntaf un o’r byd Yn chwe deg wyth dros orwel llwyd y lloer, Fe welwyd yn yr hunlun hwnnw hyd A lled ein hardderchogrwydd, gan mor oer A diffaith oedd dyfnderau’r gwacter mawr O’n cwmpas, ac mor llachar oedd ein lle Yn safn y gofod du, mor wych y wawr Annisgwyl yn nhywyllwch maith y ne’. Tynnwyd y llun yn Rhagfyr, tua naw O fisoedd ar ôl difa dros bum cant O bobl Fiet-nam mewn llaid a baw, Yn ddynion ac yn ferched ac yn blant. Roedd gan y ddaear yn ei hesgor hi Y ddawn i’n hudo, ar ein gwaethaf ni. Mawrth Mae e ’na, botwm standby’r bydysawd, Y cylch bach coch yng ngwaelod sgrin fawr ddu Y nos, y bwtwm sy'n dweud fod cysawd Tywyll yr haul yn dal i droi, a’r su Yn y cefndir – y pelydredd hwnnw A fu’n murmur yng nghlustiau’r sêr erioed – Yn cyson ganu grwndi’n ddisylw Ar ôl troi’r ffrwd newyddion a’r pêl-droed I ffwrdd. Gwrandewch. A glywch chi heno sŵn Y pŵer tawel hwnnw yn y clyw Yn codi’n uwch nes nad oes dim ond grŵn Y cosmos maith i’w glywed? Nes daw Duw I guddio’r miloedd darnau llwch sy’n haen Ar hyd y sgrin, a’i throi hi’n ôl ymlaen. Iau Yng nghoffi du’r gofod rhois fymryn o laeth A’i adael i ledu’n araf, araf nes aeth Yn gymysg y düwch a’r hufen i gyd, A rhes o rubanau mawr brith ar ei hyd, A throelli wnes innau’n drythyllus fy llwy Yn llygad yr ewyn nes cododd yn fwy, Ac i ganol y sidan rhois un siwgwr lwmp I raddol feddalu yng ngwaddod ei swmp. Coffi du’r gofod yn troi’n gappuccino, Cystal â dweud na fydd cysgu heno. Sadwrn Fe gododd yr Haul a gwaeddodd yn ddig, ‘Rhowch imi ryw lymaid i wlychu fy mhig!’ Daeth Mercher ato, ‘Espresso bach?’ ‘Dos o ’ma,’ ebe’r Haul yn llawn o strach. Daeth Gwener wedyn â llymaid o laeth, Ond gwaeddodd yr Haul, ‘mae hynny’n waeth!’ Pan fentrodd y Ddaear â gwydryn o ddŵr, Fe stranciodd yr Haul a chodi rhyw stŵr. Aeth Mawrth a’i win coch, ac Iau a’i gappuccino, Ar eu pennau’r drwy’r ffenest, ‘A wnewch chi gallio!’ Wranws a Neifion a’u coctels glas A daflwyd wedyn drwy’r drws yn gas. Ond yna daeth Sadwrn, ‘Paned o de?’ Gofynnodd yn betrus, a’r Haul ddwedodd, ‘Ie … Byddai paned yn dda – dim ond os ca’i e Mewn cwpan a soser …’ Dwedodd Sadwrn, ‘ok.’ Wranws Ar lan y môr mae carreg las a fu Ryw gan mileniwm yn ôl, dyweder, Yng nghesail craig fawr gwrs yn un o lu O gerrig tebyg, oni ddaeth amser I'w didol unwaith o dan ewin ton A’i throi yn nwylo’r heli’n garreg lefn, Ei gwastatáu a’i llathru’n belen gron I’w throelli’n ôl a mlaen a nôl drachefn. Rhyw gan mileniwm, neu ryw gan mil mwy? Ni waeth ar ryw nos Fawrth i’n deall ni A fu’r erydu taer ar waith yn hwy – Fe bery’r llanw mawr i’w threulio hi Am gan mileniwm arall ar ôl troi A llathru’r geiriau hyn mewn cerdd fach gloi. Neifion Tynnodd y tancer trwm ei howld yn rhydd O goflaid yr harbwr ac ymlwybrodd Yn raddol tua’r gorwel, ac ar rudd Y cefnfor hirfaith, yn llwyr fe roddodd Ei fryd ar gyrchu’r pellter, nes nad oedd O’i flaen ond chwip yr ewyn, nac o’i ôl Ond cynffon wen yr heli a sŵn bloedd Yr injan, onid aeth ei awr yng nghôl Yr harbwr gynt yn angof – ar wahân Ar ambell noson unig pan ddôi’r sêr I gynnau’r nen yn fflyd o wreichion mân; Ni allai lai na theimlo yn ei fêr Y dynfa gudd a drôi o bedwar ban Ei olwg ar ei waethaf tua’r lan. |
Ar nos Fawrth Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, cynhaliwyd cyngherdd arbennig o'r enw Serenestial. Dan arweiniad y delynores Catrin Finch, roedd y cynhyrchiad arbennig yn dwyn ynghyd nifer fawr o elfennau creadigol i greu un cyfanwaith hudolus – cerddoriaeth gan Catrin ei hun, dawnswyr Ballet Cymru, llais y gantores Elin Manahan-Thomas, cerddoriaeth feiolin Charlie Lovell-Jones, a'r actores Sara Lloyd-Gregory yn darllen cyfres o ddeg o gerddi a luniwyd gen i'n arbennig ar gyfer y noson.
Am rai misoedd cyn yr Eisteddfod, fe fues i wrthi'n ymchwilio i ryfeddodau'r haul a phob un o'r planedau yn eu tro. Penderfynais yn y pen draw mai'r ffordd orau o'i chwmpas hi fyddai dewis un ffaith neu nodwedd arbennig a chanolbwyntio arni yn y cerddi unigol. Er enghraifft, yn achos yr haul, roedd ceisio dirnad ei wir anferthedd yn fy arwain yn ôl dro ar ôl tro at gywydd enwog Dafydd ap Gwilym i Forfudd, a honno 'fel yr haul' yn ei gwychder enbyd (cerdd 111 ar wefan dafyddapgwilym.net).
Un o'r pethau mwyaf anhygoel i mi eu dysgu yng nghwrs yr ymchwil yw cymaint o ddüwch gwag sydd yn y gofod – ewch i'r wefan wych hon i gael syniad o'r pellteroedd aruthrol sydd rhwng yr ychydig blanedau sydd yn ei cysawd ni. Mae'r bydyswad yn wir yn lle arswydus, ac ein lle ni ynddo'n rhyfeddol. Am fwy o hanes creu'r cerddi, clicia fan hyn. Earlier this year I received a commission from Catrin Finch to write a series of ten poems on the subject of the sun and planets for a special concert at the National Eisteddfod. The finished work comprises six sonnets, three poems in rhyming couplets and one poem in the form of the Burns Stanza. Serenestial was performed in the Eisteddfod pavilion on 2 August. Being part of such an innovative production – alongside Catrin Finch, Elin Manahan-Thomas, Charlie Lovell-Jones and Sara Lloyd-Gregory – was a brilliant experience.
|