Gwarchae
ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr Mae Aber fawr dan warchae A’n cefnau at y môr, A llai a llai ers dyddiau O fwyd a dŵr yn stôr, A ffrwydron duon peli dur Y canon mawr yn curo’r mur, Yn curo, curo’r gaer fel gordd, Ond dal dy dir! Mae Owain Ar ei ffordd. Mae baner mab y brenin Yn chwifio ar y maes, A mygu fel tân eithin Mae rhes o danau llaes, A rhai sy’n dwedyd mai peth doeth I fintai fach dan bared boeth Yw styried pa delerau sy, Ac ofn i’w weld yn llygaid llym Rhys Ddu. Ond lliwiau’r mab darogan Sy’n chwifio ar y mur A saif o hyd yn gadarn Er gwaetha’r peli dur; Mil gwaeth na’r fyddin wrth y ddôr A’r gynnau mawr ac ewyn môr Yw meiddio sôn am ildio nawr, A’r si ar led … daw Owain Gyda’r wawr. |
Ar Ddiwrnod Owain, dyma gofio'r rhan bwysig y chwaraeodd castell Aberystwyth yn y gwrthryfel, un o'r ychydig gestyll a ddaliwyd gan y Cymry hyd y diwedd. Bu'r castell – lle bu Owain yn cytundebu â brenin Ffrainc, neb llai – yn un o'i gadarnleoedd grymusaf.
Bu'r Saeson, dan fab y brenin Harri IV, yn gwarchae'r castell am gyfnod maith yn erbyn un o gadfridogion Owain, Rhys Ddu o Forfa Bychan. Ymosododd y Saeson â dau ganon afreolus – y tro cyntaf i arfau o'r fath gael eu defnyddio ar dir Cymru. Er trafod telerau â'r gelyn, fe wrthododd Owain ei hun i'r garsiwn ildio'r castell ar boen eu bywydau. Dan orchymyn Owain y Glyn yn unig y daeth meddiant y Cymry o'r castell i ben yn y diwedd olaf un. Clicia ar y ddelwedd isod i agor copi pdf ohoni. On Owain Glyndŵr's Day, we'd do well to remember the important part Aberystwyth castle played in the rebellion, one of the few castles held by the Welsh until the end. The castle – where Owain made an agreement with the king of France, no less – was one of his most powerful strongholds.
The English, under their prince, the son of King Henry IV, besieged the castle for a long time against one of Owain's generals, Rhys Ddu of Morfa Bychan. The English attacked with two unruly cannons – the first time such weapons had been used on Welsh soil. Despite negotiating terms with the enemy, Owain himself refused to let the garrison surrender the castle on pain of their lives. Only under the command of Owain y Glyn did the Welsh yield the castle in the very end. Click on the image above to open a pdf copy of it. |