Sut i Goginio’r Wawr
A hoffet ti wybod sut i goginio’r wawr? Rhaid hollti dau wy mewn i fowlen fawr (Gofala nad aiff ddim o’r cynnwys i’r llawr!), Rho’r melyn i mewn gyda’r gwyn (dim plisg) A chlatshia di’r cyfan yn gyflym ’da wisg, Cyn ei arllwys yn araf i’r ffreipan fel disg, Un ddisg fawr, fawr berffaith - bydd yn edrych fel les, Yn welw a thenau, cyn iti gynnau’r gwres, Ac yna fe droith yn felynach fel pres Wrth ffrwtian yn dawel yn ei wely’n glyd, Ond yna fe fydd yn troi’n felyn i gyd, Nid melyn bach golau ond melyn dwfn, drud, Y melyn melynaf drwy’r byd yn grwn, Melynach na phig fach aderyn y bwn, Melyn mawr blasus y wawr yw hwn. |
Fe ddeffrais i un bore yn teimlo'n llwglyd iawn, a dyma fi'n cael syniad gwych. Es i'n syth i'r gegin a thynnu ffreipan a bowlen o'r cwpwrdd, a mynd ati wedyn i dorri dau wy i mewn i'r fowlen a'u wisgio'n gyflym gyda'i gilydd. Ar ôl arllwys y cyfan i mewn i'r ffreipan ac aros iddo gynhesu ar y stof, sefais yn amyneddgar yn gwylio'r cymysgedd yn troi'n felyn yn araf, araf.
A dyma fi'n cael syniad gwych arall. Roedd siâp y cymysgedd yn y ffreipan gron yn edrych yn debyg iawn i ... siâp yr haul yn codi yn y bore. Ac roedd lliw'r cymysgedd wrth iddo droi'n ara' deg o felyn golau i felyn tywyll yn debyg iawn i ... liw yr haul pan fo'r dydd yn gwawrio. Ac mi benderfynais yn y fan a'r lle y byddwn i'n ysgrifennu cerdd am yr haul yn codi yn y bore fel omled enfawr yn yr awyr! Perfformiais y gerdd hon yn Gymraeg ac yn Saesneg fel rhan o sioe Bx3 gyda chwmni theatr Arad Goch yn Aberystwyth yn 2012. Fel mae teitl y sioe yn ei ddangos, nid dim ond un bardd oedd yn perfformio, na dim ond dau chwaith - ond tri bardd. Y ddau fardd arall oedd Catrin Dafydd ac Aneirin Karadog, dau ffrind annwyl i mi. Cawson ni'n tri a'r cerddor talentog, Llŷr Edwards (ynghyd â Lowri Siôn, a gymerodd le Catrin am gyfnod), lawer iawn o hwyl yn perfformio'r sioe farddoniaeth, a gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, fe gymeron ni ran yng Ngŵyl Agor Drysau Arad Goch, Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr a Gŵyl Llên Plant Caerdydd.
Click here for an English version of this poem.
|