Y Gofeb
yn ganmlwydd oed Pan sylla’ i o’r ’stafell dop Dros do pob tafarn, tŷ a siop, Mi wela’ i’r llechi llwyd i gyd Fel môr yn rowlio i ben draw’r byd. Ac ar ôl syllu’n ddigon hir, Mae’n hawdd anghofio ble mae’r tir, Ond ar y gorwel, dacw’r tŵr Disymud uwch y dilyw dŵr. Ac ar y brig un angel sy, A deiliach yn ei dwylo cry’, Ac mae hi’n dawnsio ar un droed Yng ngheg y gwynt grymusa’ ’rioed. Cwch bach o beth yw calon, A bywyd ydi’r eigion, Be wnei-di pan ddaw’r tonnau’n lân I dorri styllod cwch yn fân? Wel, cwyd dy ben Uwch trais a sen, Mae’r angel dros y toeon tamp Yn gloywi ’leni fel tae’n lamp. Goleudy yw hon i galon dyn, A heddwch ydi’r golau sy’n Disgleirio ohoni, wynt a glaw, Yn obaith inni, waeth beth ddaw. |
Cerdd yw hon i'r gofeb ryfel drawiadol ar benrhyn y castell yn Aberystwyth. Gan mlynedd yn ôl, yn 1923, agorwyd y gofeb o waith y cerflunydd o fri Mario Rutelli i nodi aberth milwyr y Rhyfel Mawr. Yr unig ffordd i sicrhau na all yr un erchyllterau ddigwydd eto yw drwy wneud heddwch yn flaenoriaeth.
Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Aberystwyth am gomisiynu'r gerdd fel rhan o brosiect Bardd y Dref, i'r ffotograffydd a'r gwneuthurwr ffilmiau Scott Waby am gynhyrchu'r fideo isod ac i'r cynghorydd Emlyn Jones am ddwyn y cyfan ynghyd. A poem to the striking war memorial on the castle headland in Aberystwyth, commissioned by Aberystwyth Town Council to mark the memorial's centenary.
|