Eurig Salisbury
Bardd, gŵr Rhiannon a thad Llew.
Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Poet, husband to Rhiannon and father to Llew.
Lecturer in Creative Writing at the Department of Welsh and Celtic Studies in Aberystwyth University.
Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Poet, husband to Rhiannon and father to Llew.
Lecturer in Creative Writing at the Department of Welsh and Celtic Studies in Aberystwyth University.
Fe’m ganed yng Nghaerdydd ac fe’m magwyd yn Llangynog yn Sir Gâr. Treuliais lawer o fy mhlentyndod yn teithio gyda fy rhieni a fy chwaer, Leila, a fy mrawd, Garmon, i ymweld â theulu yn y gogledd-ddwyrain - magwyd fy mam yn Nhregeiriog a fy nhad ym Mhrestatyn. Cefais fy addysg yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin. Deuthum i Aberystwyth fel myfyriwr yn 2001, gan ennill gradd BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004. Arhosais yn Adran y Gymraeg hyd 2006 i ymchwilio ar gyfer gradd MPhil (‘Canu Cynnar Guto’r Glyn’).
Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’m penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Treuliais naw mlynedd hapus iawn yno, gan gyfrannu at dri phrosiect arloesol ym maes barddoniaeth yr Oesoedd Canol, sef Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, Prosiect Guto'r Glyn a phrosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru. Ym Medi 2015 cefais fy mhenodi'n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n awdur cyhoeddedig (Llyfr Glas Eurig, 2008; Sgrwtsh!, 2011) ac wedi cyfrannu fel bardd ers blynyddoedd i fywyd diwylliannol Cymru. Cyhoeddir fy ngherddi’n gyson yn Barddas a Taliesin, ac rwy’n cyfrannu’n aml i raglenni radio a theledu. Dysgais gynganeddu yn fy arddegau cynnar, ac enillais gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Roeddwn yn un o griw o feirdd ifanc a fu ar daith farddol Crap ar Farddoni yn yr un flwyddyn, a chyhoeddwyd detholiad o’r cerddi mewn casgliad o’r un enw. Ynghyd â Hywel Griffiths, Iwan Rhys ac Osian Rhys Jones, rwy'n aelod o dîm y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Cefais fy mhenodi’n Fardd Plant Cymru 2011-13, sef y tro cyntaf i fardd ymgymryd â’r swydd am gyfnod o ddwy flynedd. Fe’m comisiynir yn rheolaidd gan Lenyddiaeth Cymru i ymgymryd ag ystod eang o wahanol weithgareddau barddonol, o weithdai mewn ysgolion a gwyliau llenyddol (Tafwyl, Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, Gŵyl Llên Plant Caerdydd, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol) i gystadlaethau stomp a slam, a hynny ar hyd a lled y wlad. Bûm yn tiwtora llenorion ifanc ar fwy nag un achlysur yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac roeddwn yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2014. Rwy’n Olygydd Cymraeg i gylchgrawn Poetry Wales, ac felly â’m llaw ym mrywes barddoniaeth Saesneg yng Nghymru hefyd. Rwy’n cyfieithu fy ngwaith i’r Saesneg ac yn cyfieithu gwaith Saesneg gan feirdd eraill i’r Gymraeg. Roeddwn yn rhan o Gadwyn Awduron India-Cymru 2010-12, a ariannwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig, cynllun a oedd yn galluogi beirdd o’r ddwy wlad i gydweithio yng Nghymru ac yng Ngŵyl y Gelli Kerala 2011. Arhosais yn India am gyfnod byr ar ôl yr ŵyl honno er mwyn teithio i Bangalore a Mumbai i gynnal gweithdai mewn ysgolion gyda Sampurna Chattarji, un o feirdd Saesneg mwyaf blaenllaw India. Yn 2012 cymerais ran yng nghynllun Scrittura Giovani gyda Gŵyl y Gelli, gan ymweld â gwyliau llenyddol yn Mantua a Berlin. Fel un o Gymrodyr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2012-13, cymerais ran mewn gwyliau llenyddol ym Mangladesh, Cenia, Colombia a Hwngari, yn ogystal â’r Gelli Gandryll ei hun. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn gwyliau a digwyddiadau llenyddol yn St Andrews, Monfalcone a Forlì. Mae fy ngwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, yn cynnwys Bangla, Malayalam ac Eidaleg. Cefais gyfle i ail-ymweld â Mumbai yn 2014 fel rhan o brosiect Walking Cities (a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig), gan gydweithio eto â Sampurna ac un arall o feirdd blaenllaw India, Ranjit Hoskote, yn ogystal ag un o feirdd blaenllaw Cymru, Rhian Edwards. Daeth criw’r prosiect i Gymru yn 2015, ynghyd â chriw arall a fu’n cydweithio yn Kolkata, ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau a theithiau yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Talacharn a Llundain. Tua’r un pryd, cymerais ran ym mhrosiect Gelynion-Enemies Cymru, a roddai lwyfan i farddoniaeth amlieithog ac arbrofol ar sail gydweithredol mewn cyfres o nosweithiau barddol ar hyd a lled Cymru. Yn 2016, enillais y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, a hynny â fy nofel gyntaf, Cai. Ddiwedd y flwyddyn honno fe ddechreuais i a phrifardd y Gadair yn yr Eisteddfod honno, Aneirin Karadog, y podlediad barddol misol cyntaf oll yn Gymraeg, sef Clera. Dychwelais i India ddiwedd 2017, y tro hwnnw i ymweld â Kolkaka – eto yng nghwmni Sampurna Cattarji, a fu'n ymweld â Chymru dros yr haf – fel rhan o brosiect Cysylltiadau Barddonol (Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau). Cynhyrchwyd cyfres o bodlediadau fel rhan o'r prosiect, a chyhoeddwyd cyfres o gasgliadau o farddoniaeth, yn cynnwys Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall (2018) gen i a Sampurna. Rhwng Awst 2018 a Ionawr 2019, bûm yn Bennaeth Adran dros dro ar Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. |
I was born in Cardiff and raised in Llangynog, Carmarthenshire, and was educated at Ysgol y Dderwen and Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Much of my childhood was spent with my parents and sister, Leila, and brother, Garmon, visiting family in north-east Wales - my mother was raised in Tregeiriog and my father in Prestatyn. I came to Aberystwyth as a student in 2001 and graduated in Welsh and Film and Television Studies in 2004. I remained in the Welsh Department to gain an MPhil degree on the early work of Guto’r Glyn (2006).
After a period working as a translator for the Welsh Assembly Government, I was appointed research fellow at the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, Aberystwyth. I spent nine happy years at the Centre and contributed to three innovative projects on medieval Welsh literature, namely the Poets of the Nobility Series, the Guto'r Glyn Project and the Cult of Saints in Wales project. In September 2015 I was appointed Lecturer in Creative Writing at the Department of Welsh and Celtic Studies in Aberystwyth University. I’m a published author (Llyfr Glas Eurig, 2008; Sgrwtsh!, 2011) and have been active as a poet in Wales for over fifteen years. My poems are regularly published in Barddas and Taliesin, and I’m a frequent contributor to both television and radio programmes. Having learnt the craft of cynghanedd in my early teens, I went on to win the Chair competition at the National Urdd Eisteddfod in Denbighshire in 2006. I was also part of a group of young poets who embarked on a poetry tour in the same year, Crap ar Farddoni, from which a selection of poems were published in a collection of the same name. Together with Hywel Griffiths, Iwan Rhys and Osian Rhys Jones, I form part of Y Glêr, a team of poets who compete regularly on BBC Radio Cymru's flagship poetry programme, Talwrn y Beirdd. I was appointed Bardd Plant Cymru (Welsh Children’s Laureate) 2011–13, and was the first to hold the post for two years. I’m regularly commissioned by Literature Wales to undertake a wide variety of different literature-based activities across the country, from school workshops to literature festivals (Tafwyl, Dinefwr Literature Festival, Cardiff Children’s Literature Festival, the Urdd Eisteddfod and the National Eisteddfod) to stomp and slam competitions. I have tutored young writers at the Tŷ Newydd Writing Centre and was one of the Welsh-language judges for Wales Book of the Year 2014. I’m Welsh-language editor for Poetry Wales magazine, and regularly translate my work into English as well as English poetry by other poets into Welsh. I was part of the India-Wales Writers’ Chain 2010–12, a project funded by both Wales Arts International and the British Council that enabled poets from Wales and India to work together creatively both in Wales and at Hay Festival Kerala 2011. Afterwards, I stayed in India for a short while and visited both Bangalore and Mumbai to hold poetry workshops in schools with Sampurna Chattarji, one of India’s most prominent English-language authors. In 2012 I took part in the Scrittura Giovani project with the Hay Festival, visiting literature festivals in Mantua and Berlin. As one of Hay Festival’s International Fellows 2012–13, I took part in festivals in Bangladesh, Kenya, Colombia and Hungary, as well as Hay on Wye itself. I have also taken part in literature festivals and events in St Andrews, Monfalcone and Forlì. My work has been translated into a number of languages, including Bangla, Malayalam and Italian. I was fortunate enough to be able to return to Mumbai in 2014 as part of the Walking Cities project (funded by the British Council), reuniting with Sampurna Chattarji and another of India’s foremost poets, Ranjit Hoskote, as well as one of Wales’s foremost poets, Rhian Edwards, all of whom came to Wales in 2015 for the second leg of the project. Alongside another group of poets who had visited Kolkata as part of the same project, performances were held in Cardiff, Bridgend, Laugharne and London. At the same time, I took part in Gelynion-Enemies Wales, a project that focused on producing and performing multilingual and experimental poetry in a collaborative setting for a series of events across Wales. In 2016 I won the Prose Medal at the National Eisteddfod in Abergavenny with my first novel, Cai. Later that year I teamed up with the winner of the Chair, Aneirin Karadog, to start Clera, the first monthly poetry podcast in Welsh. I returned to India in 2017, this time to visit Kolkata – again with Sampurna Chattarji, who visited Wales in the summer – as part of the Poetry Connections project (Literature Across Frontiers). A series of podcasts were produced, and a series of poetry collections published, including a joint publication with Sampurna, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall (2018). Between August 2018 and January 2019 I was acting Head of the Department of Welsh and Celtic Studies. |