Tir Newydd
Atlasau Taliesin Pori ar fap yr wyf i’n Atlasau mawr Taliesin, Troi pob dalen felen, fawr Fesul cynfas lac, enfawr, A chwilio, bodio bydoedd Y tir gwyllt nad ŷnt ar goedd. Mae ar un map o bapur Gerwin lun morlin a mur Lle’r aeth ar goll Arthur gynt Yn llanw’r gorllewinwynt, Map i’r lle mae pair y llys, Map Annwfn, map i ynys. Papur ei antur yntau Yw heddiw f’un i i’w fwynhau, Cartograff y crwt Gwair yw, A grid o sgwariau ydyw Yn adfer yn chwarteri Urban ein Manhattan ni. Awn i gyrchu o garchar Y ddinas gudd yn y sgwâr, A chorddi’r Gaer Siddi sydd Yn niwyg Efrog Newydd. Adre’r awn yn brifeirdd, dro, Â phair hen o’r ffair honno! Edrych fel Ymerodraeth ’Does eisiau arfau terfysg – y dwyrain Ar y rhain ar ynys Gul y tyrau i gael torri’n Ddiddiwedd ei hannedd hi – yn llanast: Y llun sy’n ei hollti. Y llun sy’ heno’n llenwi’r Sinemâu â sŵn y môr Yn rhwygo hon ar agor, Neu’n rhoi haint yno ar hyn I’w gadael yn wag wedyn, Neu anghenfil dreng, ynfyd – i’w gwanu; Ac oni ddaw hefyd Bawb i’w weld? Fel pe bai o, O bosib, am gydbwyso Ei ddelweddau o lwyddiant Am byth â myth y methiant: Yr holl siopau’n rhychau’r ânt – a daw’r chwyn I drochioni’r palmant, Holl Manhattan yn anial, Dim tyrfâu’n y tyrau tal, Rockerfeller Center’n sarn A Soho’n fès o haearn, Adfeilion yn East Village, Dibyn lle bu Brooklyn Bridge. Fel pe bai rhywrai o hyd – am yrru America i’w gweryd, A bwrw hon efo’r brain I’w bedd, fel pe na byddai’n Edrych fel Ymerodraeth – nes ei gweld Yn sgip i dreftadaeth O dan y sêr; hyd nes aeth Yn Athen, yn hen haniaeth. Wylan Deg Wylan deg ar lan y dŵr, lloeren hirben yr harbwr, Manhattan ni all brynu deunydd ysblennydd dy blu. Plu eira – pwy, o lawr pae y cynigwyr ceiniogau Sy’n ddigon ffôl i holi pris dy glog adeiniog di? Peri gwymp! Aur yw ei gwerth (dy fol gaeafol gyfwerth). Herwr, hwsmon y tonnau. Awyren uwchben y bae. A weli di dros y don acw ferch y cyfarchion? Dacw hi. Hwde, cywydd i’w drin fel y sewin sydd yn rhwydi’r aig – Cymer, dro, docyn cennad cyn cinio! Cer, brysia tuag ati a chyrch yr aer i’w chaer hi. Mynna hynt i mewn i hon yna chwilia’n ei chalon. Hi yw’r un ar yr ynys. Y gannwyll losg yn y llys. Dis y don, a gludaist di gywyddau tebyg iddi? Anfonodd llawer clerwr o dwrist air dros y dŵr, A theithwyr dros y mur, mwn, er mesur eu hemosiwn. Ond a welaist di, wylan, gystal am gynnal y gân I’r ddynes hardd yn y siâl? Yr eneth yn yr anial. Franwen firain y foryd ar draeth ei hiraeth cyhyd. Ei heiddo dros glod y glêr yn y bae yr holl bŵer. Dyro di’n win neu wenwyn ei geiriau teg ar y twyn. Oni ddôi, fy niwedd i o’r lan, wylan, a weli, Am gynnal yn y galon lun y ferch greulonaf hon. Ei hwyneb hi sy’ ’mhob peth bob awr, wyneb yr eneth. Yr eneth yn yr anial. Y ddynes werdd yn y siâl. Ellis Island Mae aeres drom ar y strand, Fferi ar y lli a’i llond O gargo’n dymuno mynd I solas Ellis Island. Deil hon i gludo olynwyr Y mudo heno i dir – Dim ond i weld min y dŵr, A rhythu am awr wrth y môr Ar hen luniau’r ciwiau cul, Y rhai trwm reit i’r ymyl; Dyn â’i gas dan ei gesel, Dynes â’i chês yn ei chôl. Ar gerdyn post a phoster Mae’r eigion yma ar agor; Dociau braf, dinas lafar, Dynes werdd o dan y sêr. Rhy hawdd yw coelio, ar ei ddoc eilwaith, Holl addunedau’r sloganau ugeiniaith: Bod d’anwybod yn obaith – a gorwel Dy ryddid i’w weld ar ddiwedd y daith. Ond am nad oedd ond dymuniad iddi, Am nad oedd ym Manhattan na chyni Na sen, dim ond dadeni – cyfoethog Y tyrau’n annog, y mentrwn honni Na syllodd neb yn wyneb pegynau Ei hynys enwog fel y gwnes innau, Gan ddarllen llinell denau’r – entrychion Uchel un noson, a’i chael yn eisiau. Déjà Vu (ar Ellis Island) Mae’r llun sgwâr yn gyfarwydd. Mae’n llenwi’r wal. Mae’n llun rhwydd i’w dynnu, er bod dinas fawr, hurt o fawr, reit tu fas yn un sail i’w danseilio. Llun o ddeg dyn ydi o, dynion llwyd eu hennill wir yn pwyntio at y pentir hwn yn filain ofalus. Dynion milain chwain a chwys. Uwchlaw’r rhain, yn fain, yn fawr, yn fod ynfyd o enfawr, mae dyn arall sy’n gallu gweld y dynion surion sy oddi tano. Mae o’n wyllt, yn ŵr sad o arswydwyllt, yn pwyntio at y pentir hwn yn wyllt â’i ewin hir. Yn y tir ei hun mae twll caeëdig, ac mae’r ceudwll a oedd yno i ddynion llwyd ar gau. Ond breuhau bron hyd yr ymyl (ow’r drama) mae’r plwg – tuag ato mae’r pla o ddynion llwyd oedd yn llon at li’r pentir yn pwyntio’n filain, ac mae’r gŵr main, mawr yn anfon neges enfawr: Today Keep Leaky Plugholes From the Blight Shut Tight with Tolls! Ar bwys mae llun sgwâr arall sy’n llai na holl sŵn y llall. Llun cyfarwydd, rhwydd a rhad. Llun o undyn. Llun Indiad. Y Fferi Olaf Y fferi olaf i’r ffair o Ellis Island sy’n hwylio’n deisen yn heli Slic y bae, hen gymylau’r mis olaf Yn rhyfedd o braf, a heddiw, o bris Dau docyn unnos ynghyd cawn ninnau Wylio’r doc hir o lawr y dec, oriau Cyn dŵad goleuadau, a chanlyn Dinas oer cyn i’r dawnswyr eu cynnau. Mae ennaint nos ym Manhattan Isa’n Gloywi ffenestri pob caffé nostra, Pob trum, pob wal yn dala golau’r sêr, Tŵr ar bob acer yn nhir Tribeca’n Gwyrdroi pob troedfedd yn llechwedd llachar, Godre Soho gudd hyd ei gwydrau sgwâr Yn chwarel dawel, daear yn troi’n rhos, Ac arlliw agos ar gaerau lliwgar Yn duo’r llennyrch a’r dyfnder llonydd Rhwng adeiladau, gan gynnau gweunydd Manhattan, fesul mynydd caregog, Yn rhiniog wyntog o hen geunentydd A chopaon. Cyn hir bydd ffynhonnau’r Ddinas yn torri i ddawnsio’n y tyrau, Try’r llygad at oleuadau benthyg Tan yfory. Cyn hynny cawn ninnau Ei daro, am eiliad o’r ymylon, Ar uchelfannau’r pegynau gwynion, Fel agor ein golygon, gefn Ionawr, Ar aurora fawr Eryri o Fôn. Empire State Building Heblaw staer, be’ welaist di – islaw hwn? Ai slabs dirifedi? Rhyw dŵr dur wedi oeri? Mynydd mawn oedd o i mi. O stryd y rhostir rhedyn – roedd erwau O ddur yn ymestyn, A’r crag ar ei gopa gwyn Yn gyforiog o Ferwyn. Ffordd dyrpeg godre gwydrau – a droediais O’r strydoedd i’r llethrau, A samba ciws ymhob cae’n Gorlenwi’r holl gorlannau. Ar gyfyl ymyl amwys – pob helynt Roedd pwli i baradwys, Ac roedd rhaff dros bob affwys Yn gwneud dôl o glogwyn dwys. Canlyn rhigol y gole, – ris wrth ris, I dir uwch bob cyfle, A chodi’n uwch dan y ne’ Lan i’r heulwen yn rhywle, Ac yno, dan ddyrnodau – gogleddwynt A gyrwynt esgeiriau, Roedd strydoedd yn ystradau, Palmant yn benceunant cau. Gwelais yn ngwe garegog – a rhyfyg Yr Avenues talog, Ar fy ngwir, yn Nhír na nÓg, Ddyffrynnoedd eu ffair enwog. Ac yn gawres dros gestyll – Manhattan Mae hon eto’n sefyll Yn uwch na neb, dros bebyll, Dros bafin gwerin y gwyll. Tir uchelgais welais i – yn y dur O dan ei ffenestri; Pan welaist y paneli Balast, dwed – be’ welaist di? I Ofyn Ystafell We’re sorry, sir, yw ei sŵn, We’re certainly sorry – soon, Yw ei farn, barn y babŵn. Rwyf i’n glaf am ystafell Gêl i ni gael hwyl, un well Na’r un yfflon hon (sy’n hell). Un â bath, rwy’n gobeithio, Nid hen swît iawn i swatio, Swît llawn ‘ys tywyll heno’. Uchod yn yr entrychion Neu’n y gwraidd a oes un gron, Garedig i gariadon? Ystafell nad yw’n gell, gwed? Ystafell well o ran lled, Ystafell eos Dyfed? Ble mae’r fforest o westy Fu, un waith, ar wefan hy?! Daear doldir a deildy? Nawr Al, rho inni rywle Arall, was, a gwnawn ni’r lle’n Baradwys uwchben Broadway. Ar ei silff ymhell o’r sŵn Ynghau ym mreichiau marŵn Ystafell uchel llechwn, Uchel fel Rockerfeller ... Ok enough! Can we offer A fairer suite for free, sir? West Thirty-fourth Thirty-Fourth at ei phethau Sy’n mynd fel mewn sinemâu; Y monochrome yn y cracs Yn ddrama rwydd i’r IMAX, A daw pob adeilad yn Adeilad Woody Allen Mas ym medlam symudliw Manic y ceir. Mae un ciw Yn mynnu fy ffrâm innau; Y llu fan hyn sy’n llyfnhau Eu hesgidiau fel sgadan Hyd ymyl hewl, cyn mynd 'mlân. Dyma wylio’r ciwio cul. Drama drom hyd yr ymyl. Deri ar glogwyni gwan. Dreigiau’r isfyd ar groesfan. Dynion siwtiau duon, dwys, Didrafferth hyd yr affwys. Dwy laes iawn mewn sbectols od. Dyn hapus o dan i-pod. Dau ddyn, sŵn dwy ddynes iau, Ddiamynedd, a minnau. Dinas sydyn y sidewalk Yn dannod toll y DON’T WALK. America Times Square Rwyt ti’n ifanc dy strancio – ac mae gweld Camau gwag dy grwydro Mor rhyfedd! Ond mae rhifo Dy ddwy ganrif fel rhifo – dwy eiliad O heulwen i Gymro; Dy hanes, beth amdano? A dwi’n hoff o dy wên hy, – dy actio Hectic wrth wamalu Diwylliant, a dy allu I greu gwlad, adeiladu, – bloc wrth floc, Fel hud, dy fasnachdy Yn fawr, fawr fel yfory! Ond mae sgrechian dy hanes – i bob man, Fabi mawr, yn gyffes: Nid wyt nawr un dot yn nes Ar dy ddeial at Wales – nac at go’ Marro na Biwmares; Nid yw Donaw’n dy hanes! Felly pam yr holl ddrama? Pam aros Campau mawr fan yma Yn dy wylio di’n dala Hanes ei hun, hynny sydd – gennyt ti’n Ddau gant oed? Oherwydd, Yn fras, fod dinas Caerdydd Yn iau nac Efrog Newydd. |
Fe groesawais i a Rhiannon y flwyddyn 2008 gyda miliynau o bobl eraill ar strydoedd Efrog Newydd nid nepell o Times Square. Roedd yn wyliau bythgofiadwy. A hithau'n ynys, roedd Manhattan yn fy atgoffa o hen gerdd yn Llyfr Taliesin (c.1300-50), 'Preiddiau Annwfn', sy'n disgrifio cyrch Arthur ar Gaer Siddi, castell gwydr ar ynys hudol ac arni ffynnon ryfeddol, pair gwerthfawr a thrigolion bythol-ifanc.
A ninnau'n dathlu hen, hen ddigwyddiad, cefais fy nharo'r calan hwnnw gan y ffaith ein bod yn gwneud hynny yn un o ddinasoedd ifancaf y byd. A ninnau hefyd yn Gymry, yn perthyn i genedl sy'n boenus o ymwybodol o'i hanes a'i gorffennol maith, roedd rhywbeth yn chwithig ynghylch dathu'r flwyddyn newydd yng ngwlad ifanc Unol Daleithiau America, a hynny'n agos at sgwâr sy'n enwog am fesur amser. Dyma ddechrau ysgrifennu cerdd y gwanwyn hwnnw, ac un arall ac un arall eto, a phob un yn archwilio gwahanol agweddau ar ryfeddodau Efrog Newydd drwy lygaid Cymro. Er mor ifanc yw'r ddinas honno, mae'n bur hen mewn cymhariaeth ag ysbryd urban y Gymru Gymraeg. Anfonais y cerddi i gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 dan y ffugenw Kong. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, cefais fy nyfarnu'n ail orau yn y gystadleuaeth. Roedd Emyr Lewis, un o'r beirniaid y flwyddyn honno, o blaid fy nghadeirio, ond nid felly'r ddau feirniad arall. Mae gen i gof byw o eistedd yn y pafiliwn ar brynhawn Gwener y brifwyl, a theimlo fy nghalon yn curo fel gordd wrth wrando'r feirniadaeth. Mentrwn i nad oes dim yn fwy hunllefus gyffrous na gwrando beirniadaeth o lwyfan prifwyl heb rithyn o syniad beth yw barn y beirniaid am y gwaith. Dyma'r cerddi a anfonais i'r gystadleuaeth, yn y drefn wreiddiol a heb fawr ddim diwygio.
Cyhoeddwyd y cerddi'n wreiddiol yn Barddas 299/300 (2008). This series of poems was written following a visit to New York to celebrate the new year in 2007/8. I remember being struck by the inherent contradiction in celebrating a time-specific event near Times Square, one of the few places the world turns to at the end of every 12 months, but doing so in a country that, in comparison to Wales, can be as care-free as it wants in its attitude towards the notion of time. By contrast, time tends to weigh heavily on most things Welsh, loading every thought down with the gravity of the past, whilst the future looks on with very little certainty. And then I realised that the USA has one claim to longevity that Wales can only grasp at - it's magical urban metropolises. Cardiff in its nappies, by comparison, has just about learnt how to walk.
|