Melin Talgarth
Gad felin Tre-fin i fod, Rho'r tŷ a'r gân i'r tywod, Rho swnian Crwys, sy'n cau rhoi Dôr y merlod i'r morloi, I'r cregyn craciog rhagor, Rho'r maen mawr mewn yn y môr … Mae'n ddi-daw'n y mynydd du Sŵn melin sy yn malu, Melin ŷd, nid un fudan, Melin chwim, lawen ei chân, Melin lawn llif i brifeirdd, Melin Talgarth, buarth beirdd. Rhedwn draw i dŷ'n y dre Oll fel lli fyw Ellywe, Fel sliws, ffurfiwn giw sy'n gwau O'r pwll dŵr i'r pellterau, Ac o'r lan, dewch, gorlenwn Y meinciau rhydd a'r maen crwn. Liz yw'r gêrs, hwylusa'r gwaith, Arwyn, pren y peirianwaith, Dan sgwd yn troi'n ddiffwdan Mae dur Gez a mydrau Jan, Brwdfrydedd Rob sy'n pobi, Fel bara Nicola i ni. Daw o rym cyflym pob còg Fara a chân i Frycheiniog, A daw gwlad i gael wedyn Hoe drwy'r dydd – dere dy hun! Dros ei dir i'r drws y dôn', Drws y dŵr o Ros Dirion. |
Ym mis Mai 2011 fe adferwyd hen felin ddŵr yn nhref Talgarth ym Mrycheiniog a fu'n adfail ers dros drigain mlynedd. Gyda chymorth ariannol gan nifer o wahanol gronfeydd, llwyddodd menter gymunedol leol i adnewyddu'r felin ac ychwanegu ati gaffi eco-gyfeillgar a becws o fri.
Dŵr Ellywe sy'n troi olwyn y felin, sef afon fechan sy'n rhannu ei henw ag Ellyw, nawddsant Llanellyw yn yr ucheldir i'r dwyrain o Dalgarth. Mae tarddell yr afon yn yr ardal honno, ar dir o'r enw Rhos Dirion yn y Mynyddoedd Duon uwchlaw'r dref. Lluniais y gerdd gomisiwn hon fel Bardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Er bod bardd preswyl y Lle Celf wedi hen ennill ei le bellach, dyma oedd y tro cyntaf i fardd gael ei gomisiynu mewn cyswllt â'r wobr bensaernïaeth. Roedd gofyn imi ymweld â'r felin yn Nhalgarth (a ddyluniwyd gan Hoole and Walmsley Architects), a mynd ati wedyn i gyfansoddi cerdd i'r adeilad. Cefais groeso cynnes yn y felin wrth gyfarfod rhai o'r bobl sy'n gweithio yno (nifer ohonynt yn wirfoddol). Dyma gynnwys eu henwau yn y gerdd, gan achub ar y cyfle hefyd i roi cic bach ar y dechrau i hen gerdd hiraethus Crwys (1875-1968) am felin Tre-fin, yr unig felin roeddwn i'n gwybod amdani cyn imi ymweld â Thalgarth!
Fel rhan o'r comisiwn, roedd gofyn imi hefyd ymweld â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y linciau isod i ddarllen y cerddi eraill. ● Stormy Castle, Bro Gŵyr (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Old Farm Mews, Dinas Powys ● Ffwrnes, Llanelli ● New Barn, Felindre ● Capel Galilea, Llanilltud Fawr Lluniais hefyd fersiwn Saesneg o'r gerdd hon ar gais y penseiri. Click here for an English version of this poem.
|